Skip to main content

TfW given Employer Recognition Scheme silver award by the MoD

28 Gor 2021

Mae’n bleser gan Trafnidiaeth Cymru gyhoeddi ei fod wedi cael ei gydnabod gyda gwobr arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae TrC yn un o ddim ond 24 o gyflogwyr yng Nghymru i dderbyn y wobr arian eleni, i gydnabod ei gefnogaeth barhaus i gymuned y Lluoedd Arfog.

Cafodd y sefydliad wobr efydd yn y gorffennol pan addawodd gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog drwy lofnodi ymrwymiad i anrhydeddu Cyfamod y Lluoedd Arfog ym mis Chwefror 2020.

Mae TrC wedi parhau i ddangos ei gefnogaeth drwy lansio Cerdyn Rheilffordd i Gyn-filwyr a chynllun cyflogaeth i helpu cyn-filwyr i gael swyddi yn y diwydiant trafnidiaeth. Dathlodd y sefydliad Wythnos y Lluoedd Arfog drwy oleuo ei bencadlys newydd ym Mhontypridd yn lliwiau baner y Lluoedd Arfog ac mae nifer o aelodau staff wedi codi arian ar gyfer elusennau’r Lluoedd Arfog.

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Yn Trafnidiaeth Cymru rydyn ni’n parhau i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog ac rydyn ni’n falch o fod wedi ennill statws Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr.

“Drwy lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, rydyn ni’n cydnabod, yn deall ac yn cefnogi’r rheini sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog neu sy’n parhau i wneud hynny fel milwr wrth gefn, eu teuluoedd neu’r Gwirfoddolwyr sy’n Oedolion yn y Lluoedd Cadetiaid - dylen nhw gael eu trin â thegwch a pharch yn y gymuned, yn y gymdeithas ac yn y gweithle.

“Mae TrC yn gwerthfawrogi gweithlu amrywiol; mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau deallus a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.

“Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o brif gyflogwyr cynhwysol Cymru ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog a grwpiau eraill sy’n cael eu tangynrychioli mewn cymdeithas.”

Cyflwynir y dystysgrif yn ffurfiol i TrC yn Seremoni fawreddog Gwobrau Arian ERS y Lluoedd Arfog yng Nghymru yng Nghaerdydd ar ddydd Iau 25 Tachwedd.

ERS Silver Logo - Bilingual 2021-2