27 Meh 2022
Bydd naw ardal ledled Cymru yn cael £100,000 i wella natur coetiroedd hen a newydd.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cydweithio â chymunedau a phartneriaid ar brosiect Coed Cymunedol sy'n cefnogi'r gwaith o greu, gwella a rheoli coetiroedd hen a newydd yng Nghymru.
Mae Trafnidiaeth Cymru ac 11 o bartneriaid cymunedol ledled Cymru wedi cael £100,000 gan Gynllun Coetiroedd Cymunedol Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd y prosiectau a ariennir gan y cynllun grant hwn yn helpu i lywio barn Llywodraeth Cymru ar ddatblygiad hirdymor Coedwig Genedlaethol Cymru (NfW).
Mae'r prosiect naw mis yn gydweithrediad â sefydliadau ledled Cymru, sy'n cynnwys cynghorau lleol, mentrau cymdeithasol ac elusennau coetir a chymuned. Gyda'n gilydd, byddwn yn creu safleoedd coetir newydd ac yn gwella ac yn harddu coetiroedd cyfredol mewn naw ardal ledled Cymru.
Bydd coed newydd yn canolbwyntio ar gymysgedd brodorol o rywogaethau a byddant yn cael eu plannu mewn ardaloedd newydd o fewn ac ochr yn ochr â choetiroedd sefydledig, i wella cysylltedd ac iechyd coetiroedd. Bydd y gwaith cynnal a chadw yn cynnwys adfer a chreu llwybrau, gwella hygyrchedd a chyflwyno cyfeirbwyntiau, ffensys ac arwyddion. Bydd digwyddiadau cymunedol mynediad agored hefyd yn cael eu cynnal.
Mae cynlluniau’n cynnwys llwybr cerdded coetir trefol newydd yn cysylltu un o’n gorsafoedd rheilffordd â choetir gerllaw, a chreu gwarchodfa natur newydd ar faes parcio segur.
Ynghyd â chreu mannau ar gyfer hamdden a natur, bydd y coetiroedd yn helpu i wella bioamrywiaeth a gwella lles ein cymunedau.
Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd Trafnidiaeth Cymru: “Bydd y prosiect Coed Cymunedol yn helpu i wneud coetiroedd yn fwy hygyrch ac yn fwy cydnerth, gan gefnogi iechyd a lles cymunedau a darparu ardaloedd ar gyfer mwy o fioamrywiaeth a bywyd gwyllt. Mae prosiectau fel hyn yn bwysig i ni yn Trafnidiaeth Cymru, ac mae creu rhwydwaith mwy cysylltiedig yn golygu opsiynau trafnidiaeth mwy a gwell. Drwy weithio’n agos gyda’n cymunedau, gallwn sicrhau ein bod yn adeiladu rhwydwaith y mae Cymru ei hangen, yn ei haeddu ac sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Bydd y prosiect yn dechrau ym mis Mehefin 2022, gyda gwaith yn digwydd trwy gydol 2022. Gan gydweithio â phartneriaid, nod Trafnidiaeth Cymru yw gwreiddio cynaliadwyedd yn y rhwydwaith trafnidiaeth, gan wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy cysylltiedig â’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chreu profiadau gwell i’n teithwyr, cymunedau ac ymwelwyr yng Nghymru a’r gororau.
Ariennir y prosiect hwn gan y cynllun Coetiroedd Cymunedol, a ddarperir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Nodiadau i olygyddion
Creu, rheoli a gwella coetiroedd lleol mewn 9 ardal: Pwllheli a Phlas Glyn-y-Weddw (Gwynedd); Abergele (Conwy); Penyffordd (Sir y Fflint); Offa (Wrecsam); Cwm Clydach (Rhondda Cynon Taf); Merthyr Tudful; Blaen Bran (Torfaen) a Llanbadog (Sir Fynwy)