Skip to main content

TfW begin redecoration of Cardiff Central station

27 Meh 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dechrau ar y gwaith o drawsnewid ymddangosiad gorsaf brysuraf Cymru fel rhan o’u Gweledigaeth Gwella Gorsafoedd.

Mae TrC yn falch o gadarnhau bod y gwaith ailaddurno mawr yng Nghaerdydd Canolog bellach yn mynd rhagddo. Mae’r contractwr Trio Building Contractors wedi cael ei benodi i gyflawni’r gwaith, gyda mesurau diogelwch ychwanegol ar waith i ddiogelu rhag covid-19.

Dechreuodd y gwaith ar blatfform 0, cyn symud i blatfform 8. Mae’r gwaith yn cynnwys ailaddurno’r holl arwynebau sydd wedi’u paentio fel ffensys, fframiau ffenestri a drysau’r adeilad, polion lampau, arwyddion, rhwystrau a chanllawiau.

Bydd yr adeilad yn cael ei baentio yn lliwiau traddodiadol y Great Western Railway oherwydd statws rhestredig Gorsaf Caerdydd Canolog ac i adlewyrchu ei statws hanesyddol fel rhan o lwybr eiconig Brunel o Lundain i Gymru.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Gorsaf Caerdydd Canolog yw’r porth i’n prifddinas a dyma’n gorsaf brysuraf.

“Mae’n braf gallu parhau â’r gwaith ailaddurno mawr a gweithredu ein Gweledigaeth Gwella Gorsafoedd wrth i ni drawsnewid trafnidiaeth ledled Cymru a’r Gororau.

Mae nifer o heriau wedi codi yn sgil Covid-19, ond o ganlyniad i’r nifer isel o deithwyr, rydyn ni wedi symud ymlaen â’n rhaglen waith o welliannau bach ar draws y rhwydwaith fel rhan o’n Gweledigaeth Gwella Gorsafoedd, rydym hefyd wedi gosod unedau storio beiciau yng ngorsaf y Fenni ac ar hyn o bryd yn gosod storfeydd beiciau newydd yn Frodsham a Helsby.

“Rydyn ni’n dilyn yr holl ganllawiau a’r mesurau diogelwch, ond rydyn ni’n parhau â’n gwaith trawsnewid er mwyn gwell trafnidiaeth i bobl Cymru a’r Gororau.”

Mae’r gwaith yn dilyn gosod bariau tocynnau ychwanegol, gwelliannau i danlwybrau, peiriannau tocynnau newydd ac adnewyddu tŵr y cloc y llynedd gan Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru.

Y llynedd fe wnaethon ni greu dwy ardal cymorth i deithwyr pwrpasol yn yr orsaf ynghyd â newid mawr o ran yr arwyddion.

Agorwyd Gorsaf Caerdydd Canolog yn wreiddiol yn 1850, a chafodd ei hailwampio’n llwyr yn nechrau’r 1930au gan brif bensaer y Great Western Railway Percy Emerson Culverhouse. Dyma pryd y daeth arddull art deco eiconig yr orsaf sydd dal i'w weld hyd heddiw, ac sy’n adlewyrchu’r gwaith a wnaeth Culverhouse ar orsaf Temple Meads ym Mryste.

Dywedodd Rheolwr Prosiect TrC Helen Simmonds:

“Rydyn ni’n falch o weld y gwaith hwn yn mynd rhagddo, gwaith a fydd yn gwella amgylchedd yr orsaf i’n cwsmeriaid yn fawr.

Mae llawer o waith caled wedi mynd i mewn i gynllunio’r prosiect hwn.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros nifer o wythnosau i sicrhau cyn lleied a darfu â phosib ar ein cwsmeriaid.

“Daeth mwy na 14 miliwn o bobl drwy orsaf Caerdydd Canolog y llynedd sy’n dangos pa mor bwysig ydyw i’n rhwydwaith.”

Dywedodd y Pennaeth Prosiectau Gorsafoedd Hinatea Fonteneau:

“Rydyn ni gyd yn gwybod pa mor bwysig yw Caerdydd Canolog fel porth i’n prifddinas, a gydag ychydig o fuddsoddiad wedi’i dargedu gallwn ni wneud yn siŵr ei bod yn edrych ar ei gorau. Fel rhan o’n Gweledigaeth Gwella Gorsafoedd, byddwn yn trawsnewid edrychiad a theimlad pob un o’n gorsafoedd. Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn Network Rail ar hyn a gyda’n gilydd gallwn ni wneud Caerdydd Canolog yn orsaf i fod yn fach ohoni.”