15 Hyd 2020
Mae Trafnidiaeth Cymru yn dathlu ‘Diwrnod Shwmae Sumae’ heddiw gyda chân gan eu goruchwyliwr cerddgar a llu o weithgareddau eraill.
Mae Diwrnod Shwmae yn cael ei ddathlu bob blwyddyn ledled Cymru ac mae’n gyfle i gael hwyl a rhannu’r iaith Gymraeg. Fel rhan o’u dathliadau, mae TrC wedi dilyn traddodiad Cymru ac mae ei oruchwyliwr enwog o ganwr, Chris Edwards, wedi ysgrifennu cân.
Meddai Chris:
“I nodi Diwrnod Shwmae Sumae, rydw i wedi cyfansoddi geiriau newydd i gerddoriaeth ein cân werin Gymreig glasurol ‘Gwŷr Harlech’.
“Rydyn ni i gyd yn mynd drwy gyfnod anodd oherwydd y pandemig, felly nawr, yn fwy nag erioed, mae’n bwysig ein bod ni’n dal i allu gwenu a chroesawu ein gilydd gyda Shwmae cyfeillgar!”
Mae TrC yn falch o fod yn frand cwbl ddwyieithog ac fel rhan o’u hymgyrch i ddathlu’r iaith Gymraeg, maent hefyd wedi bod yn annog cydweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle a gyda chwsmeriaid.
Mae TrC yn rhannu rhai o’r fideos mae cydweithwyr wedi’u creu sy’n disgrifio sut maen nhw’n defnyddio’r Gymraeg yn eu rhan nhw o’r sefydliad – a pham ei bod mor bwysig – ar Twitter.
Mae TrC eisoes yn defnyddio gwasanaeth cyfieithu testun i lais o ansawdd uchel ar draws gorsafoedd yng Nghymru i sicrhau bod pob cyhoeddiad yn ddwyieithog. Maent hefyd yn parhau i gyflwyno arwyddion dwyieithog, gwella’r arddangosfa ar sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid a datblygu System Gwybodaeth i Deithwyr ddwyieithog ar gyfer trenau ar drenau.
Yn 2021, bydd cwsmeriaid yn gallu prynu eu tocynnau trên yn Gymraeg am y tro cyntaf ar-lein a thrwy’r ap archebu.
Dywed Gweirydd Davies, Pennaeth yr Iaith Gymraeg yng Ngwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru:
“Hydref 15 bob blwyddyn yw Diwrnod Shwmae Su’mae ac mae’n hyrwyddo’r syniad o ddechrau pob sgwrs gyda Shwmae neu Sumae. Mae’n gyfle i bawb gymryd rhan a siarad rhywfaint o Gymraeg.
“Mae’r iaith Gymraeg yn eiddo i bob un ohonom – ychydig bach neu lawer iawn, ein hiaith ni ydyw. Mae croeso i bawb”.
Os oes gennych ragor o gwestiynau am yr Iaith Gymraeg, bydd Gweirydd ar gael i drydar rhwng 2pm a 3pm heddiw @tfwrail.