12 Ebr 2024
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cwblhau adolygiad o’u hamserlenni ar gyfer y dyfodol yn dilyn newid yn y galw am deithio ar y rheilffyrdd ar ôl Covid.
Yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o’r galw presennol am reilffyrdd a’r twf a ragwelir yn y dyfodol, mae TrC wedi datblygu strategaeth hirdymor newydd i gyd-fynd yn well ag arferion a gofynion teithio newydd cwsmeriaid, gan ddod yn weithredwr gwirioneddol aml-ddull.
O ganlyniad i’r adolygiad, bydd rhai llwybrau rheilffordd yn gweld mwy o wasanaethau a threnau hirach gyda mwy o seddi, yn enwedig yn ystod cyfnodau brig tymhorol. Bydd llwybrau eraill yn gweld patrymau galw ychydig yn wahanol wedi'u targedu'n well at anghenion cyfredol.
Fodd bynnag, bu'n rhaid i TrC wneud rhai penderfyniadau anodd er mwyn sicrhau ei fod yn darparu capasiti lle mae ei angen fwyaf, yn tyfu refeniw ac yn y pen draw yn lleihau cymhorthdal cyhoeddus
Mae rhai o'r newidiadau allweddol yn cynnwys:
- Rhedeg 87 o wasanaethau ychwanegol ar lwybrau prif lein o’i gymharu â phan gymeron ni’r awenau yn 2018 ac ychwanegwyd mwy o gerbydau at rai o’r gwasanaethau prysuraf er mwyn helpu i ateb y galw cynyddol.
- Cael gwared ar nifer fach o wasanaethau sydd â galw isel iawn gan deithwyr.
- Darparu capasiti ychwanegol ar lwybrau poblogaidd yr haf.
- Gohirio rhai ymrwymiadau a wnaed yn gynharach ar gyfer mwy o wasanaethau ar rai llwybrau.
Mae TrC yn parhau i fod yn ymrwymedig ac mae'n parhau i ddarparu ei fuddsoddiad o £800 miliwn mewn trenau newydd ar gyfer ei rwydwaith cyfan.
Mae adborth rhanddeiliaid ar amserlenni cyfredol, niferoedd teithwyr ac ystyriaeth fanwl o opsiynau teithio amgen i gyd wedi bwydo i mewn i adolygiad TrC.
Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad:
"Rydym wedi cwblhau ein hadolygiad o amserlenni’r dyfodol. Bydd yr amserlenni newydd a gynigir yn rhoi mwy o wydnwch i ni yn ystod cyfnod y gaeaf ac yn bodloni gofynion teithio sydd wedi newid yn sgil Covid.
"Mae bron pob gwasanaeth y mae TrC yn ei weithredu yn gofyn am gymhorthdal cyhoeddus, ac fel gweithredwr cyfrifol mae'n hanfodol i TrC gydbwyso'r anghenion am wasanaeth rheolaidd, cadarn a dibynadwy gyda'r cyllidebau sydd ar gael i sicrhau gwerth i drethdalwyr a thrafnidiaeth fwy cynaliadwy."
Mae TrC yn bwriadu cyflwyno'r amserlenni hyn dros y blynyddoedd nesaf.
Nodiadau i olygyddion
Cyhoeddodd TrC adolygiad i ymrwymiadau amserlenni’r dyfodol (y tu allan i Metro De Cymru) yr haf diwethaf, yn dilyn newid mewn patrymau teithio a gofynion rheilffyrdd ar ôl Covid.
Fel rhan o'r broses adolygu hon, ystyriwyd gwahanol lefelau o opsiynau arbed cymhorthdal a chytunwyd bwrw ymlaen â set gymedrol o newidiadau i amserlenni rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.
Mae’r amserlen newydd yn cynnwys:
• Mwy o alwadau i/o Aberdaugleddau a Hwlffordd gan ddarparu 13 gwasanaeth y dydd i’r ddwy dref ym mhob cyfeiriad, i fyny o 10 ar hyn o bryd.
• Gwasanaeth bob awr rhwng Aberystwyth ac Amwythig i redeg o fis Mai i fis Medi o Mai 2026
• Gwasanaethau oriau brig ychwanegol ar linell Bro Morgannwg erbyn 2026, ond y cynnydd i 2 drên yr awr gydol y dydd i’w ohirio
• Cynyddu gwasanaethau Caerdydd <> Cheltenham erbyn mis Mehefin 2024 i drên bob awr gydol y dydd.
• Mwy o wasanaethau rhwng Abertawe a Dinbych-y-pysgod rhwng mis Mai a mis Medi o 2025, yn amodol ar gytundeb gyda Network Rail
• Ymestyn gwasanaeth Lerpwl i Gaer i Landudno o 2026, yn amodol ar gytundeb gyda Network Rail a chwblhau gwaith ar groesfannau
• Bwriad i wasanaethau rheilffordd Calon Cymru groesi yn Llandrindod i roi profiad llawer gwell i gwsmeriaid pan fydd yna darfu (maent yn croesi yn Llanwrtyd ar hyn o bryd).
Mae rhai o’r penderfyniadau anodd rydym wedi gorfod eu gwneud yn cynnwys:
• Lleihau gwasanaethau trwodd llinell Calon Cymru o bump i bedwar y dydd o fis Rhagfyr 2024 a dileu’r ddau wasanaeth hwyr i Lanymddyfri a Llandrindod. Mae opsiynau bws yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.
• Dileu pedwar gwasanaeth rhwng Machynlleth a Phwllheli (dau i bob cyfeiriad). Bydd dau wasanaeth arall yn cael eu hailamseru gan redeg rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr
• Newid pedair taith i ddod i ben yng Nghaerfyrddin (yn lle Caerdydd Canolog ar hyn o bryd), er y bydd y rhain yn cysylltu â gwasanaethau GWR o Gaerfyrddin <> Llundain Paddington. (Gellir gweld amseroedd cysylltu yn ein hamserlenni).
• Gohirio cyflwyno gwasanaethau ychwanegol min nos rhwng Caerdydd a Cheltenham Spa.
• Gohirio ymrwymiad blaenorol i gynyddu trenau rhwng Caerdydd Canolog a Phen-y-bont ar Ogwr, drwy linell Bro Morgannwg, i ddau drên yr awr. Fodd bynnag, byddwn yn cyflwyno gwasanaeth oriau brig ychwanegol ym mhob cyfeiriad.
• Gohirio ymrwymiad blaenorol i gyflwyno gwasanaeth newydd rhwng Caerdydd Canolog <> Amwythig <> Liverpool Lime Street, yn sgil faint o waith gwella seilwaith sydd ei angen gan Network Rail.
• Gohirio ymrwymiad blaenorol i gynyddu’n gwasanaethau rhwng Caerdydd ac Abertawe i un trên yr awr ar adegau tawel. Fodd bynnag, bydd y gwasanaeth hwn yn parhau bob awr yn ystod yr oriau brig.