Skip to main content

TfW introduces InPost Lockers to stations across its network

09 Medi 2025

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) ac InPost wedi ymuno i ddod â cwpwrdd clo parseli i saith gorsaf ar draws rhwydwaith De Cymru.

Mae InPost yn ddarparwr blaenllaw mewn atebion logisteg ar gyfer diwydiant e-fasnach Ewrop. Maent yn darparu cwpwrdd clo diogel a hawdd eu defnyddio sy'n helpu i wneud siopa ar-lein yn fwy cyfleus i ddefnyddwyr.

Mae cyflwyno'r cwpwrdd clo parseli i orsafoedd dethol ar draws rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru yn caniatáu i gwsmeriaid gyfuno anfon a derbyn parseli â'u taith bob dydd.

Mae'r cwpwrdd clo yn caniatáu i gwsmeriaid y dewis o 'gadwyno teithiau' (cyfuno dwy daith yn un), a all helpu i arbed amser a gall hefyd leihau'r angen am daith car ychwanegol i'w man casglu parseli agosaf.

Ar hyn o bryd mae gan TrC saith locer InPost gweithredol ar draws y rhwydwaith, ar gael yn y lleoliadau canlynol: 

  • Gorsaf Rhymni
  • Gorsaf Caerffili
  • Gorsaf Radur
  • Gorsaf Merthyr Tudful
  • Gorsaf Pontypridd
  • Gorsaf Llys-faen a'r Ddraenen
  • Gorsaf Llandaf

Yn dilyn actifadu llwyddiannus, mae gwaith ar y gweill i ddarparu loceri InPost i leoliadau eraill ardraws rhwydwaith TrC.

Mae partneriaeth TrC gydag InPost yn tynnu sylw at sut mae'n parhau i wella profiad teithio cwsmeriaid gyda chyfleusterau gwell ar draws y rhwydwaith i annog mwy o deithiau.

Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol TrC: “Mae'n bleser gweithio mewn partneriaeth â sefydliad sy'n rhoi’r un pwyslais ar gynaliadwyedd ac yn defnyddio technoleg i wella profiad y cwsmer.

“Mae’r partneriaeth yn ffordd arall eto o harneisio ein rhwydwaith i wella'r hyn a ddarparwn i'n cwsmeriaid, gan ddenu darpar gwsmeriaid ar ein rhwydwaith gyda loceri parseli hawdd eu defnyddio, ecogyfeillgar InPost.

“Mae'r bartneriaeth hon yn adlewyrchu ein gwerthoedd fel sefydliad yn berffaith, gan ddarparu gwasanaeth gwych i'n cwsmeriaid a dod o hyd i ffyrdd o wneud ein gwasanaeth yn fwy cyfleus fyth.“

Fel rhan o hymrwymiad TrC i'r Gymraeg, mae’r cwmni wedi gweithio gydag InPost i sicrhau bod y mwyafrif helaeth o loceri yn cael eu gosod gyda finyl dwyieithog. 

Ychwanegodd Lowri Joyce, Arweinydd Strategaeth y Gymraeg TrC:

“Mae gosod loceri InPost mewn gorsafoedd ar draws ein rhwydwaith sy'n cynnwys deunydd lapio finyl dwyieithog yn dangos sut mae TrC yn cydweithio â phartneriaid allanol i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion ein cwsmeriaid, ein cymunedau a'n treftadaeth ddiwylliannol.

“Nid yn unig mae’r fenter hon yn dangos ein hymrwymiad i'r Gymraeg ond hefyd sut rydym yn gwella profiad ein cwsmeriaid, gan wneud ein rhwydwaith yn fwy deniadol fyth.  Mae'n garreg filltir arall wrth i ni barhau i ehangu wrth ddathlu cynhwysiant a'n treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog.“

Ychwanegodd Neil Kuschel, Prif Swyddog Gweithredol InPost UK: “Rydym yn falch o’r bartneriaeth â Trafnidiaeth Cymru i wneud casglu a dychwelyd parseli yn fwy cyfleus i bobl ledled De Cymru.

“Mae gosod ein loceri mewn gorsafoedd allweddol yn caniatáu i gwsmeriaid cyfuno anfon a derbyn parseli yn ddi-dor i’w harferion dyddiol, gan arbed amser a lleihau allyriadau. Mae’r cydweithrediad hwn yn gam pwysig yn ein cenhadaeth i ddarparu atebion logisteg ddiogel, gyfleus ac ecogyfeillgar sy’n gwneud siopa ar-lein yn haws ac yn fwy effeithlon i bawb.”

Gall cwsmeriaid ddysgu mwy am rwydwaith Loceri InPost drwy ymweld â’n tudalen wybodaeth bwrpasol https://trc.cymru/ffyrdd-o-deithio/rheilffordd/gwybodaeth-deithio/inpost 

Llwytho i Lawr