Skip to main content

TfW welcomes passengers back on the Treherbert line

22 Chw 2024

Bydd lein Treherbert yn ailagor i deithwyr ddydd Llun 26 Chwefror yn dilyn naw mis o waith trawsnewidiol i uwchraddio rhan o Fetro De Cymru.

I ddechrau, bydd y gwasanaeth yn rhedeg dau drên yr awr, gyda threnau Dosbarth 756 newydd sbon yn cael eu cyflwyno ar y lein yn ddiweddarach eleni, fel rhan o waith Metro De Cymru. 

Fel gwerthfawrogiad i’n teithwyr am eu hamynedd, gall cwsmeriaid yn y Rhondda deithio am hanner pris tan ddiwedd Mai 2024.   

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) a phartneriaid wedi cael gwared ar rai o'r seilwaith rheilffyrdd hynaf yng Nghymru, ac wedi rhoi system signalau fodern, newydd sbon yn ei lle gan gynnwys gosod Cyfarpar Llinellau Uwchben a fydd yn trydaneiddio'r llinell yn y misoedd sydd i ddod.

Yn ogystal â gwasanaethau amlach, gwnaed nifer o uwchraddiadau i'r orsaf, gan gynnwys ymestyn y platfformau ac ychwanegu pontydd troed newydd er mwyn gwella lefelau hygyrchedd.  

Dywedodd Jan Chaudhry-Van dêr Velde, Prif Swyddog Gweithredol TrC: “Mae disodli'r system signalau Fictoraidd gyda signalau golau lliw modern a reolir gan ein canolfan reoli bwrpasol yn y Cymoedd wedi cymryd peth amser, ond bydd trenau'n dychwelyd i redeg ar hyd Treherbert o 26ain Chwefror.

“Mae rhaglen hyfforddi gynhwysfawr ar gyfer gyrwyr a rheolwyr y trenau'n sy'n gweithio ar y lein wedi bod yn mynd rhagddi ers dechrau'r flwyddyn, a bydd yn parhau dros yr wythnosau nesaf.  Yna byddwn yn troi ein sylw at gyflwyno trenau Dosbarth 756 newydd ar y lein yn ddiweddarach yn 2024.

“Rydym yn gwerthfawrogi bod ein cwsmeriaid a'n cymdogion ar ochr y lein hon wedi bod yn hynod amyneddgar gyda ni yn ystod y cyfnod hwn, ac i gydnabod hyn, rydym yn cynnig gostyngiad o 50% i gwsmeriaid y Rhondda ar eu teithiau am y tri mis nesaf, tan 23 Mai 2024.”

Ychwanegodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth: “Mae hwn yn fuddsoddiad enfawr arall a fydd yn gwneud gwahaniaeth eithriadol i deithwyr sy'n teithio ar y lein.  Mae'n dilyn ôl troed gwell gwasanaethau Glynebwy a’r trenau newydd ar y linell Maesteg ac mae'n gam cadarnhaol arall yn ein huchelgais i drawsnewid rheilffyrdd y cymoedd.”

Nodiadau i olygyddion


Ni fydd gwasanaethau newydd yn galw yng ngorsaf Ynyswen, sydd ar gau dros dro tra bod TrC yn parhau i wneud gwaith seilwaith mawr yn yr orsaf.

Bydd bysiau gwennol yn rhedeg i gyfeiriad y gogledd i Dreherbert ac i gyfeiriad y de i Dreorci a fydd yn cyd-fynd ag amserlen y trenau.

Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yma  Trawsnewid Lein Treherbert | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)

Bydd gwasanaethau trên yn galw yn y gorsafoedd canlynol:

Pontypridd, Trehafod, Porth, Dinas Rhondda, Tonypandy, Llwynypia, Ystrad Rhondda, Ton Pentre, Treorci a Threherbert.

Mae gwaith trydaneiddio hanfodol yn dal i gael ei wneud ar y lein ac o ganlyniad bydd trenau yn cael eu disodli yn hwyr gyda'r nos rhwng nos Sul a nos Iau.  

Gellir dod o hyd i amseroedd trenau ar gyfer y gwasanaethau newydd yma: Cynllunio Taith TrC |

Ymestyn gostyngiad 50% tocyn trên Rhondda 

Er mwyn diolch i’n cwsmeriaid a’n cymdogion ar ochr y llinell am eu hamynedd drwy gydol y gwaith trawsnewid, byddwn yn ehangu’r cynllun gostyngiad ar docyn Rhondda am 3 mis yn dilyn ail-agor y llinell ym mis Chwefror 2024. Mae’r gostyngiad yn caniatáu i bob teithiwr sy’n teithio ar linell Treherbert dderbyn gostyngiad o 50% ar gost eu tocyn a bydd y gostyngiad ar gael tan ddiwedd mis Mai 2024. 

I gael gostyngiad, bydd angen i deithwyr ddangos eu tocyn Rhondda i oruchwylwr y trên ynghyd â’u tocyn trên.