Skip to main content

TfW welcomes election of Lisa Denison to Community Rail Network board

24 Tach 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru yn croesawu etholiad Lisa Denison i fwrdd cyfarwyddwr y Community Rail Network (CRN).

Ers mis Mehefin 2019, mae Lisa wedi bod yn Rheolwr Datblygu gyda Chwmni Datblygu Lein Calon Cymru, y sefydliad sy’n cynnal y Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol ar gyfer y rheilffordd sy’n rhedeg rhwng Llanelli ac Amwythig, a hynny ar ôl gyrfa 30 mlynedd mewn buddsoddi ac adfer cymunedol.

Gan weithio’n agos gyda TrC, mae wedi chwarae rôl bwysig wrth feithrin cysylltiadau â chymunedau a grwpiau rhanddeiliaid yn y Canolbarth a’r Gorllewin a’r Gororau ar hyd llwybr y rheilffordd yn ystod cyfnod heriol i’r sector, gyda gwasanaethau’n cael eu heffeithio gan dywydd garw a thrên yn dod oddi ar y cledrau yn Llangennech ym mis Awst 2020.

Nawr, mae Lisa wedi’i hethol ar fwrdd y CRN, sef cymdeithas Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol a grwpiau rheilffyrdd cymunedol ledled Prydain, sydd wedi ymroi i gysylltu eu cymunedau â gwasanaethau rheilffyrdd lleol a gorsafoedd a sicrhau budd cymdeithasol.

Meddai Hugh Evans, Pennaeth Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru:

“Rydym ar ben ein digon yn croesawu penodiad Lisa i’r rôl bwysig hon gyda’r Community Rail Network, a hoffwn ei llongyfarch ar ei llwyddiant. Edrychwn ymlaen at ddal ati i weithio’n agos gyda Lisa yn ei rolau gyda’r CRN a Chwmni Datblygu Lein Calon Cymru dros y blynyddoedd nesaf.

“Rydym yn hyderus y bydd hyn yn cryfhau ein Gweledigaeth ar gyfer Rheilffyrdd Cymunedol, a lansiwyd yn 2019 i flaenoriaethu anghenion ardaloedd lleol yn ein cynlluniau. Rydym yn gwybod bod Rheilffyrdd Cymunedol yn gallu sbarduno newid go iawn er gwell ledled ein rhwydwaith, gan helpu i wneud teithio ar drenau yn fwy hygyrch a chynhwysol. Yn ei dro, gall hyn greu budd economaidd gwirioneddol a chyfle i gefnogi iechyd a lles meddwl pobl yn y cymunedau hyn, a hynny yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Meddai Richard Burningham, cadeirydd y Community Rail Network a Rheolwr y Devon & Cornwall Rail Partnership:

“Rwy’n falch iawn o groesawu Lisa ar y Bwrdd. Etholir y Bwrdd o aelodaeth ledled Prydain a Lisa yw’r diweddaraf mewn rhestr hir o bobl sy’n gweithio yn y sector Rheilffyrdd Cymunedol yng Nghymru i gamu ymlaen i helpu i redeg y sefydliad dros y blynyddoedd, a hynny ers y dyddiau cynnar. Edrychaf ymlaen at weithio gyda hi.”

Meddai Lisa Denison:

“Rwy’n falch iawn o gael ymuno â’r Community Rail Netowrk mewn cyfnod sy’n sicr o fod yn un diddorol iawn i’r sector. Credaf ei bod yn bwysig i Gymru gael cynrychiolaeth ar y Bwrdd, yn enwedig pan fo partneriaethau a grwpiau mabwysiadu gorsafoedd rheilffyrdd newydd yn cael eu sefydlu ledled y wlad.

“Gobeithio y bydd fy nghefndir ym maes buddsoddi cymunedol yn dod yn ddefnyddiol ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu fy ngwybodaeth a’m sgiliau.”

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhoi addewid i fuddsoddi mwy na £600,000 y flwyddyn mewn rheilffyrdd cymunedol fel rhan o’r Weledigaeth ar gyfer Rheilffyrdd Cymunedol, gan ddarparu cyllid ar gyfer Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol ledled rhwydwaith Cymru a’r Gororau. Daw’r newyddion ar ôl penodi Karen Williams fel y Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol newydd ar gyfer rheilffyrdd arfordirol Dyffryn Conwy a Gogledd Cymru yn gynt yn y mis.