27 Tach 2026
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg gwasanaethau drwy'r nos am y tro cyntaf er mwyn cael cefnogwyr bocsio adref ar ôl yr ornest rhwng Tyson Fury ac Anthony Joshua yng Nghaerdydd.
Bydd gwasanaethau ychwanegol TrC yn dechrau am 2.15am ddydd Sadwrn 12 Rhagfyr i helpu gludo cwsmeriaid adref ar ôl y digwyddiad rhyngwladol proffil uchel hwn yn Stadiwm y Principality.
Mae'n cynnwys gwasanaethau fydd yn teithio i orllewin Cymru, gogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr, yn ogystal â nifer sylweddol o wasanaethau ychwanegol ledled de Cymru yn dilyn yr ornest.
Yn dilyn cael cadarnhad gan Gyngor Caerdydd ynghylch y drwydded ddydd Mercher (25 Tachwedd), bydd yr ornest focsio yn gorffen yn ystod oriau mân 12 Rhagfyr, bydd ein systemau tocynnau yn cael eu diweddaru a byddant ar gael i gwsmeriaid allu prynu tocynnau o ddydd Gwener 27 Tachwedd.
Dywedodd James Gough, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y digwyddiad hwn i Gaerdydd a Chymru, ac rydym wedi gweithio’n agos gyda’r trefnwyr, Cyngor Caerdydd, Stadiwm y Principality, Network Rail, Great Western Railway, a rhanddeiliaid allweddol eraill ar gynllun i gefnogi digwyddiad o’r maint hwn.
“Gan y bydd y digwyddiad hwn yn dod i ben yn ystod oriau mân y bore, mae hwn yn ddigwyddiad unigryw o'i gymharu â'r digwyddiadau chwaraeon a'r cyngherddau yr ydym wedi arfer ymwneud â hwy, ond rydym yn hyderus bod gennym y gwasanaethau a'r capasiti i gael pawb sydd eisiau teithio ar y trên adref yn ddiogel ar ôl y digwyddiad.
“Bydd gorsafoedd Caerdydd Canolog a Heol Stryd y Frenhines yn eithriadol o brysur, felly rydym yn annog pawb i wirio am yr wybodaeth deithio ddiweddaraf ac i ganiatáu mwy o amser na'r arfer i deithio.”
Dywedodd Rachel Geliamassi, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Great Western Railway : "Mae hon yn un o'r nosweithiau pwysicaf ym myd bocsio Prydain, ac rydym yn falch o chwarae ein rhan yn cludo cefnogwyr i Gaerdydd ac yn ôl adref.
"Oherwydd bod yr ornest focsio yn digwydd yn ystod oriau mân y bore, byddwn yn rhedeg trenau nos arbennig yn ôl i Lundain gan ddefnyddio rhai o'n trenau hiraf. Er hynny, byddant yn hynod o brysur.
“Rydym yn argymell yn gryf bod cefnogwyr yn archebu sedd ymlaen llaw, gwirio amseroedd y gwasanaethau dros nos, a chaniatáu digon o amser i gyrraedd Caerdydd Canolog a chymryd digon o amser i wneud eich ffordd at y trên.
"Bydd ein timau'n gweithio trwy'r nos i gludo pawb adref.”
Dywedodd Jonathon Cooze, Prif Arolygydd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig: “Bydd ein swyddogion yn gweithio trwy’r nos i gadw cefnogwyr yn ddiogel wrth iddynt deithio yn ôl ac ymlaen o'r digwyddiad, ac i geisio cadw unrhyw achosion o darfu i'r lleiafswm.
"Os sylwch chi ar rywbeth sydd ddim yn taro deuddeg neu os oes ein hangen ni arnoch am unrhyw reswm tra byddwch yn teithio, mynnwch air ag un o'n heddweision, aelod o staff y rheilffordd neu anfonwch neges destun atom - 61016."
Bydd staff refeniw yn gwirio tocynnau cyn ac ar ôl y digwyddiad a dylai teithwyr brynu eu tocyn trên cyn teithio.
Mae modd Talu Wrth Fynd ar wasanaethau TrC ar rwydwaith Metro De Cymru. Dylai teithwyr sy'n defnyddio'r opsiwn hwn dapio i mewn ac allan gyda'r un dull talu, gan adel yr orsaf ar hyd y lonydd talu wrth fynd sydd wedi'u dynodi.
Bydd system ciwio ar waith ar ôl y digwyddiad gyda theithwyr sy'n teithio i'r Cymoedd neu Fro Morgannwg (Treherbert, Aberdâr, Merthyr, Rhymni, Coryton, Bae Caerdydd, Penarth, Bro Morgannwg) yn cael eu dargyfeirio i orsaf Heol y Frenhines Caerdydd.
Yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, bydd teithwyr sy'n teithio i Lynebwy, Caerloyw a Cheltnam Spa yn ymuno â chiw ar Blatfform 0. Bydd y ciwiau yn y Sgwâr Canolog ar gyfer trenau i Gasnewydd, Llundain, Manceinion, Gogledd Cymru a Chaerfyrddin, tra bydd y rheini sydd am deithio i gyfeiriad Gorllewin Cymru yn rhannu'n giwiau ar wahân ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg, Abertawe a Gorllewin Cymru fel y gall pawb fynd ar y trenau yn drefnus.
Bydd ciwiau yn y ddwy orsaf at ddibenion hygyrchedd hefyd ar gael.
Hoffem atgoffa teithwyr i ymddwyn yn gyfrifol wrth deithio gan y gwrthodir unrhyw un sy'n rhy feddw rhag teithio er mwyn eu diogelwch eu hunain a diogelwch pobl eraill. Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn gweithredu polisi llym a ni fyddant yn goddef unrhyw fath o gam-drin neu ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n cael ei gyfeirio at staff neu gyd-deithwyr.
I gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma - https://trc.cymru/lleoedd/digwyddiadau/anthony-v-tyson
Nodiadau i olygyddion
- Bydd y system ciwio yn dechrau am 01:30am, dydd Sadwrn 12 Rhagfyr
- Bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn cau yn unol â threfniadau cau ffyrdd lleol
- Wrth i'r paratoadau ddechrau ar gyfer rhaglen gwella gorsaf Caerdydd Canolog, mae meysydd parcio'r orsaf wedi'u cau'n barhaol. Gall teithwyr barcio ym maes parcio aml-lawr Cei Canolog/Central Quay.