Skip to main content

TfW to run free bike marking events across Wales and Borders this summer

06 Meh 2024

Bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn cynnal digwyddiadau marcio beiciau am ddim yr haf hwn ar draws y rhwydwaith, gan anelu hefyd at ddangos i bobl y cyfleoedd sydd ar gael i feicio fel rhan o deithiau pob dydd.

Bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn cynnal digwyddiadau marcio beiciau am ddim yr haf hwn ar draws y rhwydwaith, gan anelu hefyd at ddangos i bobl y cyfleoedd sydd ar gael i feicio fel rhan o deithiau pob dydd.

Mae'n dilyn llwyddiant y digwyddiadau beicio cyntaf y llynedd a deithiodd o amgylch y rhwydwaith, mewn partneriaeth â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, gan gofrestru dros 200 o feiciau a chael 250 o ymatebion i'w arolwg teithio llesol.

Mae TrC wedi ymrwymo i helpu i wneud cerdded a beicio y modd o deithio a ffafrir gan bobl Cymru ar gyfer teithio pellteroedd byrrach. Mae'r ffaith bod llai o bobl yn defnyddio ceir preifat a mwy o bobl yn cerdded neu'n beicio, neu'n eu cyfuno â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn arwydd o newid ymddygiad wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

Mae cydnabod diogelwch beiciau yn rhwystr allweddol i newid ymddygiad, mae TrC wedi buddsoddi yn y pecynnau Cofrestr Beiciau i gynnig y gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim yn ei orsafoedd a'i ddigwyddiadau cymunedol dros yr haf.  Bydd digwyddiad cyntaf 2024 yn lansio yn ystod Wythnos Beicio yng Ngorsaf Henffordd rhwng 11am-3pm ddydd Iau 12 Mehefin, ac yna Casnewydd ar 13 Mehefin rhwng 9am-12 a Chastell-nedd ar 14 Mehefin rhwng 10am-2pm. Bydd y digwyddiadau yn ymweld â gorsafoedd ar draws Cymru a Gororau tan fis Medi.

Mae TrC yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill i helpu i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth integredig ledled Cymru, gan gynnwys darparu cymorth a chyngor i awdurdodau lleol wrth ddatblygu a chyflawni eu cynlluniau teithio llesol.

Dywedodd Matthew Gilbert, Pennaeth Teithio Llesol a Chreu Lleoedd TrC: Roedd digwyddiadau'r llynedd yn llwyddiant ysgubol ac rydym yn falch iawn o'u cyflwyno eto yr haf hwn. Mae hefyd yn gyfle i ni arddangos cyfleusterau beicio lleol, fel parcio beiciau, ar draws y rhwydwaith. 

"Rydym am i rwydwaith trafnidiaeth y dyfodol ei gwneud yn haws i chi wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy a chyfrannu at ostwng allyriadau cerbydau. Mae beicio a cherdded wrth wraidd hyn felly rydym hefyd eisiau clywed gennych am sut y gallwn ni - ar y cyd a'n partneriaid - wneud teithio llesol yn ddewis cyntaf i chi ar gyfer teithiau byr yn eich cymunedau a byddem yn eich annog i gymryd rhan yn yr arolwg teithio llesol."

Dywedodd llefarydd ar ran BTP: “Mae'n wych cael gweithio gyda TrC eto yr haf hwn.  Byddem yn annog unrhyw un sydd â beic i alw heibio i gael marc arno - mae’n ffordd wych o'i ddiogelu.

"Os gwelwch unrhyw beth amheus yn ystod eich teithiau yr haf hwn, gallwch un ai anfon neges destun i 61016 neu ffonio 0800 40 50 40."

I gael gwybod mwy am ddigwyddiadau Beicio TrC 2024 ewch i: haveyoursay.tfw.wales/bike-events-2024 ac i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gynllunio taith ar drafnidiaeth gyhoeddus ac ewch i:  Teithio ar feic | TrC <https://tfw.wales/ways-to-travel/cycling>  a   Teithio gyda beic ar y trên | TrC <https://tfw.wales/ways-to-travel/cycling/bikes-on-board>  

Llwytho i Lawr