30 Hyd 2025
Bydd Inspiration, trên arddangos anhygoel Rheilffordd 200, yn cael cartref gan Trafnidiaeth Cymru yng ngorsaf Llandudno rhwng 15 a 18 Tachwedd 2025.
Y digwyddiad unigryw hwn fydd unig ymweliad y trên â Chymru yn ystod ei daith o gwmpas Prydain i ddathlu 200 mlynedd ers sefydlu’r rheilffordd fodern.
Mae Rheilffordd 200 yn rhaglen genedlaethol i nodi’r deucanmlwyddiant. Mae’n anrhydeddu hanes cyfoethog y rheilffordd ac yn gobeithio ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr STEM proffesiynol i lunio’r trywydd ar gyfer y dyfodol. Erbyn diwedd y flwyddyn, bydd y trên Inspiration wedi ymweld â 60 o leoliadau ar draws Prydain, ac mae TrC yn edrych ymlaen at gael y profiad hwn yng nghalon gogledd Cymru.
Wedi’i greu mewn partneriaeth â’r Amgueddfa Rheilffyrdd Genedlaethol, Inspiration yw’r unig drên arddangos o’i fath ar rwydwaith rheilffyrdd Prydain. Mae ganddo bedwar cerbyd rhyngweithiol:
- Cerrig milltir y rheilffordd – Yn dangos datblygiadau allweddol y rheilffordd.
- Wonderlab ar Daith – Arddangosfeydd peirianneg ymarferol i brofi sgiliau ymwelwyr.
- Eich dyfodol ar y rheilffordd – Yn edrych ar yrfaoedd llai adnabyddus a rhoi hwb i dalent y dyfodol.
- Parth partneriaid – Man arddangos hyblyg sy’n tynnu sylw at gydweithio yn y diwydiant.
Bydd ymwelwyr hefyd yn dysgu sut mae Trafnidiaeth Cymru’n gweithio gyda phartneriaid ar draws y sector, a bydd sylw arbennig ar rwydwaith gogledd Cymru.
Roedd Cymru wedi chwarae rôl hollbwysig yn nechreuad y rheilffordd fodern. O arbrofion cynnar Richard Trevithick â’r locomotif i Reilffordd Abertawe a’r Mwmbwls – y llinell gyntaf yn y byd lle roedd teithwyr yn talu eu ffordd – roedd ein treftadaeth ddiwydiannol wedi helpu i danio chwyldro trafnidiaeth.
Dywedodd Alex Fortune, Uwch Reolwr Prosiect yn Trafnidiaeth Cymru: “Rydyn ni wedi cydweithio ar draws y diwydiant rheilffyrdd a chymunedau i gyflwyno digwyddiadau sy’n dathlu gorffennol, presennol a dyfodol rheilffyrdd.
“Mae ymweliad Inspiration yn benllanw balch i’r gwaith hwnnw a bydd hi’n bleser mawr ei groesawu i Landudno.”
Dywedodd Emma Roberts, Rheolwr Rhaglenni Rheilffordd 200: “Mae’r trên arddangos arbennig hwn yn atyniad cenedlaethol newydd i ymwelwyr, gan roi profiad bythgofiadwy i gannoedd o filoedd o bobl ar hyd a lled Prydain.
“Bydd yn cyffroi, yn addysgu, yn diddanu ac yn ysbrydoli pobl i edrych ar y rheilffordd mewn ffordd wahanol fel rhan o ddathliadau’r deucanmlwyddiant.”
Mae tocynnau am ddim i fynd ar y trên rhwng 15 a 18 Tachwedd ar gael nawr.
Bydd yr ymweliadau yn dechrau am 10am bob dydd. Bydd y mynediad olaf am 4pm a bydd y trên yn cau am 5pm.
Bydd yr ymweliadau’n tua awr o hyd.
I gael eich tocyn a dysgu mwy, ewch i www.railway200.co.uk/inspiration.
I gael manylion y rhaglen Rheilffordd 200 ehangach, ewch i www.railway200.co.uk.
Nodiadau i olygyddion
- 2025 yw deucanmlwyddiant y rheilffordd fodern, wedi’i hysbrydoli gan agor Rheilffordd Stockton a Darlington yn 1825 – taith a newidiodd y byd am byth. O dan faner Rheilffordd 200, mae dathliadau cenedlaethol wedi’u cynllunio drwy gydol y flwyddyn, gan ddangos sut mae’r rheilffordd wedi siapio Prydain a’r byd, a sut mae ei hanes o arloesi yn parhau heddiw ac yn dylanwadu ar y dyfodol.
- Gyda chymorth grant o £250,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, mae disgwyl i Inspiration groesawu dros 200,000 o ymwelwyr ar draws Prydain, gan gynnwys miloedd o blant ysgol.
- Rhagor o wybodaeth: Mae Rheilffordd 200 yma | Trafnidiaeth Cymru