03 Awst 2022
Gall pobl sy'n teithio ar y trên i dirnodau hanesyddol Cymru gael 2 docyn am bris 1, diolch i bartneriaeth newydd rhwng Trafnidiaeth Cymru a Cadw.
Bydd ymwelwyr sy'n cyflwyno tocyn trên dilys ar yr un diwrnod yn gymwys i gael dau docyn am bris un yn safleoedd Cadw sy'n codi pris mynediad.
Mae'n ddilys mewn lleoliadau hanesyddol y mae Cadw yn gofalu amdanynt ar draws Cymru, gan gynnwys cestyll byd-enwog yng Nghaernarfon, Conwy a Chaerffili, ac mae modd cyrraedd llawer ohonynt yn rhwydd ar y trên.
Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: "Mae gan Gymru gymaint o atyniadau anhygoel i ymweld â hwy. Mae'r cynnig hwn yn ffordd berffaith o arbed arian, tra hefyd yn teithio'n gynaliadwy ar drafnidiaeth gyhoeddus.
"Rydyn ni'n falch iawn o gydweithio â Cadw ar y cynllun hwn ac yn gobeithio y bydd llawer o bobl yn manteisio ar y cynnig hwn dros y flwyddyn nesaf."
Meddai Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw: "Fel gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, mae Cadw wedi ymrwymo i gynaliadwyedd tirwedd hanesyddol Cymru, er budd cenedlaethau'r dyfodol.
"Yn naturiol, mae'r ymrwymiad hwn yn mynd law yn llaw â thargedau cynaliadwyedd ehangach Cymru — felly ni allem fod yn hapusach yn cefnogi Trafnidiaeth Cymru gyda'r fenter dwristiaeth werdd hon.
"Gobeithiwn y bydd y cynnig yn galluogi trigolion Cymru ac ymwelwyr fel ei gilydd i ddewis opsiwn mwy gwyrdd o ran teithio cyhoeddus wrth ymweld â'n safleoedd hanesyddol eithriadol — yr haf hwn a thu hwnt."
Nodiadau i olygyddion
Mae'n rhaid i ymwelwyr ddangos tocyn trên Trafnidiaeth Cymru, sy’n ddilys ar gyfer taith sydd ar yr un diwrnod â'r ymweliad ag atyniad Cadw. Mae'r cynnig 2 docyn am bris 1 ar gael yn safleoedd Cadw sy'n codi pris mynediad a rhaid i ymwelwyr fanteisio ar y cynnig ar yr un diwrnod y mae ymwelwyr yn prynu tocyn mynediad. Mae'n rhaid i'r tocyn TrC fod yn ddilys i'r orsaf agosaf sy'n gwasanaethu'r atyniad yr ymwelir â hi.
Daw'r cynnig hwn i ben ar 31 Mai 2023.
Gallwch ddarllen mwy am y telerau ac amodau ar wefan Cadw https://cadw.llyw.cymru/cynnig-mynediad-2-am-bris-1-gyda-trafnidiaeth-cymru