- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
31 Maw 2021
Mae Trafnidiaeth Cymru’n atgoffa cwsmeriaid i wneud eu gwaith cartref cyn teithio dros benwythnos y Pasg, gan fod gwaith peirianyddol hollbwysig yn cael ei wneud ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.
Yn ne Cymru, bydd bysiau’n cael eu darparu yn lle trenau rhwng Pontypridd a Radyr wrth i’r gwaith barhau i drawsnewid y rheilffordd ar gyfer Metro De Cymru, a fydd yn darparu gwasanaethau amlach a chyflymach rhwng Caerdydd a’r Cymoedd o 2023 ymlaen.
Y gwaith dros benwythnos y Pasg rhwng Pontypridd a Radyr yw’r cam nesaf yn y rhaglen drawsnewid barhaus. Yn y gorffennol mae’r rhaglen wedi cynnwys cyfnod rhwystro llwyddiannus dros dair wythnos ym mis Ionawr, a gwaith dros nos parhaus ar wahanol rannau o rwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd.
Hefyd bydd Network Rail yn gwneud gwaith peirianyddol rhwng Caer a Manceinion. Bydd gwasanaethau TrC rhwng gogledd Cymru a Maes Awyr Manceinion yn rhedeg cyn belled â Chaer, a bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Caer a Manceinion Piccadilly.
Ddydd Sul y Pasg (4 Ebrill), ni fydd gwasanaethau TrC rhwng Lerpwl Lime Street a Chaer drwy Runcorn yn rhedeg chwaith. Bydd bysiau’n galw yn y gorsafoedd ar hyd y llwybr.
Mae gan Trafnidiaeth Cymru neges glir i’r cyhoedd sy’n teithio’r penwythnos hwn; mae’n eu hannog i ddilyn yr holl gyngor teithio’n saffach ac i ymddwyn yn gyfrifol er mwyn Cadw Cymru’n Ddiogel.
Mae TrC yn atgoffa’r rheini sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus bod ganddynt gyfrifoldeb sylfaenol i ddilyn canllawiau, i gadw pellter cymdeithasol ac i gynllunio eu taith ymlaen llaw. Mae TrC hefyd yn pwysleisio bod cyfyngiadau’n dal ar waith ar gyfer teithio rhwng Cymru a Lloegr.
Mae TrC yn gofyn i gwsmeriaid ddefnyddio’r Gwiriwr Capasiti – porth ar-lein sy’n galluogi cwsmeriaid i wirio cyn teithio er mwyn gweld ar ba drenau mae’r mwyaf o le gwag i allu dilyn mesurau diogelwch COVID-19.