Skip to main content

Transport for Wales joins Hidden Disabilities scheme

28 Gor 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o ymuno â chynllun Anableddau Cudd Sunflower Lanyard a gwella profiadau cwsmeriaid ymhellach ledled eu rhwydwaith.

Mae’r laniard Blodyn yr Haul, a lansiwyd yn genedlaethol yn 2016, wedi’i lunio i nodi teithwyr ag anabledd cudd a allai fod angen cymorth ychwanegol wrth deithio.

Mae gan oddeutu un o bob deg o boblogaeth y DU gyflwr nad yw’n un amlwg i bobl eraill ac awgryma arolygon fod pobl ag anableddau yn osgoi teithio ar drên oherwydd yr anawsterau maen nhw wedi’u hwynebu yn y gorffennol wrth deithio ar y cledrau.

Fel rhan o’r cynllun, mae staff TrC wedi’u hyfforddi i adnabod y laniard a’r ffaith y gallai’r sawl sy’n ei wisgo fod angen cymorth neu amser.

Anogir staff hefyd i wneud eu hunain yn amlwg a hawdd cael atyn nhw ac i fod yn rhagweithiol wrth gefnogi unrhyw un sy’n gwisgo’r laniard.

Meddai James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Rydw i’n falch iawn ein bod wedi cofrestru â chynllun Sunflower Lanyard. Yn Trafnidiaeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhopeth a wnawn, ac mae hyn yn cynnwys gweithio i gefnogi’r rhai sy’n byw gydag anableddau wrth ddefnyddio ein gwasanaethau.

“Mae cymryd rhan yn y cynllun hwn yn un ffordd y gallwn gefnogi’r cwsmeriaid hynny sydd angen cymorth ychwanegol i deithio, ac rydym yn gobeithio adeiladu ar hyn gyda gwell mynediad ar gyfer ein holl gwsmeriaid, wrth i ni geisio creu trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch y gall pobl Cymru a’r gororau fod yn falch ohono.”

Meddai Dr Robert Gravelle, Rheolwr Hygyrchedd a Chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru:

“Rydym yn falch o fod wedi ymuno â chynllun Sunflower Lanyard fel ffordd newydd o gefnogi ein cwsmeriaid sy’n byw gydag anableddau cudd.

“Mae’r laniard wedi bod yn boblogaidd iawn ledled y DU ers ei lansio bedair blynedd yn ôl ac rwy’n hynod falch ein bod yn gallu cefnogi’r cynllun law yn llaw â’n partneriaid yn y diwydiant rheilffyrdd ledled y wlad.

“Mae pob cwsmer ar ein rhwydwaith yn bwysig, a drwy ymuno â’r cynllun rwy’n gobeithio y gallwn helpu i rymuso mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.”

Dim ond un o blith sawl menter y mae TrC yn ei chefnogi yw’r Sunflower Lanyard i helpu i gefnogi teithio annibynnol ar gyfer cwsmeriaid. Mae mentrau eraill yn cynnwys y Cynllun Waled Oren ar gyfer cwsmeriaid a fyddai’n hoffi cefnogaeth wrth gyfathrebu â staff, Cynllun Teithio Cŵn Cymorth a’r tywysydd sain sy’n helpu cwsmeriaid sydd wedi colli eu golwg neu sydd â nam ar eu golwg, a’r ap InterpreterNow sy’n hwyluso cyfathrebu rhwng cwsmeriaid BSL Byddar a staff rheng flaen. Mae TrC yn cynnig teithio â chymorth drwy’r gwasanaeth Cymorth Teithwyr, sy’n rhoi’r cyfle i gwsmeriaid archebu cymorth ar eu taith ymlaen llaw.

Bydd cwsmeriaid yn gallu derbyn laniard blodyn yr haul am ddim drwy’r post drwy gysylltu â Thîm Cysylltiadau Cwsmeriaid TrC ar 0333 3211 202 neu ar e-bost yn community@tfwrail.wales.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am fentrau teithio’n annibynnol TrC ar wefan Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC: https://trc.cymru/gwybodaeth/teithwyr/teithio-hygyrch.

Llwytho i Lawr