05 Meh 2026
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn symud i gamau olaf y gwaith paratoi o gyflwyno trenau-tram newydd sbon i'r lein rhwng Pontypridd a Bae Caerdydd yr haf hwn.
Mae staff yn cael ei hyforddi bron pob dydd gan rhedeg y trenau-tram ar hyd y lein er mwyn eu profi.
Mae TrC yn parhau a'r gwaith o osod naw cyfleuster toiled newydd yn ogystal â phum cyfleuster toiled wedi'u hadnewyddu ar hyd leiniau Treherbert, Aberdâr a Merthyr, gan helpu i sicrhau bod toiledau ar gael i'n cwsmeriaid pan fydd y trenau tram yn dechrau ar eu gwaith.
Nod Metro De Cymru yw gwella cysylltiadau rhwng Caerdydd a'r Cymoedd, gyda theithiau amlach a chyflymach. Mae fflyd newydd TrC o drenau-tram trydan yn allweddol i roi'r amserlen Metro uchelgeisiol hon ar waith.
Mae eu perfformiad, ynghyd â'r gwelliannau seilwaith mae TrC wedi'u cyflawni yn golygu y bydd modd lleihau'r amser teithio i tua 50 munud rhwng Caerdydd a Threherbert, Aberdâr a Merthyr, a thrên yn rhedeg bob 15 munud. Bydd y newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno'n raddol mewn camau.
Bydd y trenau-tram hefyd yn caniatáu i fynd ati i ehangu rhwydwaith TrC, gan y byddant, yn y dyfodol, yn gallu gwasanaethu ar leiniau tram trenau ysgafn a hynny fel rhan o brosiect Cledrau Croesi Caerdydd. Bydd hyn yn golygu y gall hyd yn oed mwy o gymunedau gael mynediad at wasanaethau rheilffyrdd hanfodol.
Mae'r trenau-tram wedi'u cynllunio ar gyfer teithiau lle gallwch fynd arnynt a dod oddi arnynt yn rhwydd - arddull Metro - gyda mynediad gwastad o'r trên i'r platfform, tri cherbyd sy'n agored a digon o le ynddynt a mwy o le i gadeiriau olwyn a beiciau arnynt hefyd.
Bydd y cyntaf o'r 36 trên-tram newydd yn dechrau ar ei waith ar y lein rhwng Pontypridd a Bae Caerdydd yr haf hwn, gan gymryd lle'r trenau Dosbarth 150 hŷn sy'n gwasanaethu ar hyn ar hyn o bryd.
Dywedodd Dan Tipper, Prif Swyddog Seilwaith Trafnidiaeth Cymru: “Mae ein timau yn gweithio'n eithriadol o galed wrth i ni symud i'r camau olaf cyn y bydd ein trenau-tram cyntaf yn dechrau ar eu gwaith. A ninnau bron a dod i ben gyda'n hyfforddiant ar gyfer ein gyrwyr a'n rheolwyr trenau a bron bob diwrnod mae'r trenau-tram yn cael eu profi, rydym yn gwneud camau breision tuag at lansio'r gwasanaethau hyn.
“Mae'r trenau-tram yn ganolog i ddarparu teithiau cyflymach, amlach a addawyd gan Fetro De Cymru ac, ynghyd a modd i dalu wrth fynd, byddant yn cefnogi gwasanaeth troi i fyny a mynd gwirioneddol i gymunedau ledled y Cymoedd.”
Toiledau newydd gorsaf ar leiniau Treherbert, Aberdâr a Merthyr
Fel gyda systemau Metro eraill ar draws y DU ac Ewrop, nid oes ganddynt doiledau. Mae Trafnidiaeth Cymru yn cydnabod pa mor bwysig yw mynediad i gyfleusterau toiledau i gwsmeriaid ac mae wedi gwneud buddsoddiad sylweddol i wella'r ddarpariaeth ar hyd y leiniau y bydd y trenau-tram hyn yn rhedeg.
Mae hyn yn cynnwys gosod naw toiled newydd mewn gorsafoedd ar hyd y rhwydwaith, yn ogystal ag uwchraddio pum cyfleuster sydd eisoes yn bodoli. Mae'r gwelliannau hyn yn golygu na ddylai cwsmeriaid sy'n teithio ar wasanaethau trên byth fod yn bellach nag 20 munud i ffwrdd o doiled wrth deithio ar y rhwydwaith.
Dyluniwyd pob un o'r toiledau newydd hyn gyda hygyrchedd mewn golwg, gan gynnwys:
- Mynediad Cadair Olwyn
- Rheiliau cymorth.
- Pwyntiau cymorth y tu mewn a'r tu allan i'r toiled.
- Cyfleusterau newid babanod.
- Peiriannau nwyddau mislif.
Er mwyn cadw teithwyr yn ddiogel, mae TrC wedi uwchraddio'r system teledu cylch cyfyng a'r goleuadau ym mhob gorsaf lle mae'r toiledau newydd wedi'u gosod. Bydd teledu cylch cyfyng y tu allan i'r toiledau yn cael ei ffrydio'n fyw i Ganolfan Reoli Integredig TrC yn Ffynnon Taf, lle caiff ei reoli 24/7 gan dîm ymroddedig.
Bydd pwyntiau cymorth byw yn sicrhau y gall cwsmeriaid roi gwybod am unrhyw broblemau, a nod cloi drysau o bell yw helpu i leihau fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd. Bydd TrC hefyd yn cyflogi timau symudol i gadw'r toiledau'n lân ac yn ddiogel.
Wrth i'r gwaith o osod y cyfleusterau newydd hyn fynd rhagddo, gyda chwech o'r naw toiled bron yn barod, bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu cyfleusterau dros dro ym Mhontypridd, Trefforest a Radur tra bydd y toiledau sydd yn y gorsafoedd hyn ar hyn o bryd yn cael eu hadnewyddu. Bydd y cyfleusterau dros dro hyn ar agor pan fydd y trenau-tram cyntaf yn dechrau ar eu gwaith.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys mapiau sy'n dangos lleoliadau'r toiledau newydd, ar gael ar wefan TrC - https://trc.cymru/prosiectau/metro/metro-de-cymru/toiledau
Nodiadau i olygyddion
Bydd cyfleusterau toiled ar gael ar hyd leiniau Treherbert, Aberdâr a Merthyr wedi'u gosod cyn y bydd y trenau-tram newydd yn dechrau gwasanaethu ar y llwybrau hyn, gan sicrhau nad yw cwsmeriaid fwy nag 20 munud oddi wrth doiled wrth deithio ar y trenau.
Bydd pob toiled newydd yn agor cyn gynted ag y bydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau, a'r disgwyl yw mai'r toiledau yng ngorsafoedd Aberdâr ac Abercynon fydd yn agor gyntaf.
Mae dros hanner y toiledau newydd eisoes wedi'u gosod mewn gorsafoedd, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i agor y cyfleusterau erbyn bydd y trenau-tram cyntaf yn dechrau ar eu gwaith ar reilffyrdd Treherbert, Aberdâr a Merthyr.
I'r rheini sy'n teithio ar y trên-tram rhwng Pontypridd a Bae Caerdydd, cynghorir teithwyr i ddefnyddio'r toiledau sydd ar gael ym Mhontypridd, Trefforest, Radur, Caerdydd Heol y Frenhines Caerdydd a gorsaf Caerdydd Canolog.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys mapiau sy'n dangos lleoliadau'r toiledau newydd, ar gael ar wefan TrC - https://trc.cymru/prosiectau/metro/metro-de-cymru/toiledau