Skip to main content

Transport for Wales appoint new Non-Executive Director

21 Meh 2019

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi penodi Alun Bowen fel ei Gyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd ei Bwyllgor Archwiliad a Risg

Mae Alun yn weithiwr ariannol proffesiynol profiadol gyda 37 mlynedd o brofiad o weithio i'r cwmni cyfrifo byd-eang, KPMG. Mae ei waith wedi mynd ag ef drwy'r byd, gyda rolau yng Nghaerdydd, Llundain, Sydney, Hong Kong a Kazakhstan.

Un o'i rolau yn y cwmni oedd Uwch Bartner yng Nghymru, lle gweithredodd fel cynghorydd cynllunio busnes arweiniol ar brosiectau fel Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Mae Alun, sy'n hanu o Landeilo ac sy'n siarad Cymraeg, wedi bod yn Gadeirydd y Business in the Community Cymru ac yn aelod o'r pwyllgor archwilio Business in the Community UK, yn Gadeirydd Cardiff Common Purpose, yn aelod o gyngor Prince’s Trust Cymru ac yn aelod o’r bwyllgor archwilio Prince’s Trust.

Bu hefyd yn aelod o bwyllgor archwilio Institute of Chartered Accountants Cymru a Lloegr.

Ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Anweithredol ac yn Gadeirydd Pwyllgor Risg ac Ymddygiad Hodge, grwp gwasanaethau ariannol Caerdydd, un o ymddiriedolwyr sefydliad Hodge a Chyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd pwyllgor archwilio'r Severstal, sef cwmni dur mwyaf cwbl integredig yn Rwsia

Mae ganddo radd mewn Gwyddorau Naturiolo Trinity College, Caergrawnt.

Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd Alun:

"Rwy'n falch iawn o fod yn ymgymryd â fy rôl newydd yn Trafnidiaeth Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu ein cynlluniau cyffrous wrth i ni weithio tuag at ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth y gall pobl Cymru ymfalchïo ynddo. "

Dywedodd Scott Waddington, Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru:

"Ar ran y tîm Trafnidiaeth Cymru yn ei gyfanrwydd, hoffwn gynnig croeso cynnes i Alun i'r sefydliad. Yr wyf yn falch iawn bod Alun wedi ymuno â'r bwrdd yn ystod y cyfnod cyffrous hwn i ni, wrth inni ddechrau trawsnewid rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru a'r Gororau gyda'n £5 biliwn o fuddsoddiad mewn gwasanaethau rheilffyrdd.  Rwy'n hyderus y bydd Alun yn chwarae rôl allweddol wrth ein helpu i barhau i weithio tuag at rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig i Cadw Cymru i Symud."

Llwytho i Lawr