Skip to main content

Transport for Wales continues with station improvements on Wrexham-Bidston line

21 Medi 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i gyflawni eu Gweledigaeth Gwella Gorsafoedd ar reilffordd y Gororau rhwng Wrecsam a Bidston ac maent yn symud ymlaen gyda’u cynlluniau i drawsnewid trafnidiaeth ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.

Mae’r buddsoddiad wedi gwella 13 o orsafoedd i gyd rhwng Wrecsam Canolog ac Upton ers mis Hydref 2019.

Er gwaethaf yr heriau yn sgil Covid-19, mae TrC yn awyddus i symud ymlaen gyda’u cynlluniau i drawsnewid trafnidiaeth ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau ac maent yn dilyn holl gyngor y llywodraeth a’r diwydiant.  

Ymhlith y gwelliannau mae glanhau’r gorsafoedd yn drwyadl, ailfrandio cysgodfannau a dodrefn yn y gorsafoedd, ailfarcio llefydd parcio, ailbeintio ac adnewyddu ymylon blaen y grisiau a thorri llystyfiant sydd wedi tyfu’n wyllt.  

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Dyma enghraifft arall o’n hymrwymiad i wella trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru. Mae gorsafoedd trenau’n fynedfeydd i gymunedau a bydd y Weledigaeth Gwella Gorsafoedd yn helpu i sicrhau profiad cadarnhaol i deithwyr wrth ddefnyddio ein rhwydwaith rheilffyrdd.

“Bydd ein buddsoddiad ym Metro Gogledd Cymru hefyd yn sicrhau bod y gwelliannau hyn yn rhan o system drafnidiaeth integredig ac effeithlon yn y rhanbarth.”

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:  

“Rwy’n falch o weld cynnydd gwych yn cael ei wneud ar reilffordd y Gororau fel rhan o’n Gweledigaeth Gwella Gorsafoedd. Er gwaetha’r amgylchiadau heriol, rydyn ni wedi ymrwymo i gyflawni gwelliannau tymor byr a thymor hir ar y rheilffordd bwysig hon sy’n cysylltu cymunedau yng Ngogledd Cymru ac yn Wirral, fel rhan o’n gweledigaeth ehangach o gyflawni rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus y mae pobl Cymru a’r Gororau yn falch ohono.” 

Dyma gam cyntaf y gwaith o wella’r rheilffordd fel rhan o’r Weledigaeth Gwella Gorsafoedd. Bydd gwelliannau yn y dyfodol yn cynnwys camerâu Teledu Cylch Cyfyng newydd, gwell sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid, mwy o seddi ac ystafelloedd aros wedi’u hailwampio.  

Bydd rheilffordd y Gororau hefyd yn elwa o wasanaethau a cherbydau ychwanegol fel rhan o’r gwaith ehangach o drawsnewid rhwydwaith Cymru a’r Gororau a datblygu Metro Gogledd Cymru.