11 Rhag 2025
Dengys ffigurau diweddar fod mwy o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg ar amser ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau.
Mae ffigurau chwarterol y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR) rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, a gyhoeddwyd heddiw, yn dangos bod TrC wedi gwella fwyaf o ran lefelau prydlondeb ymysg holl gwmnïau trenau'r DU, gyda chynnydd o 4.9 pwynt canran i 84.1%. Y cwmni trenau a ddaeth yr ail uchaf oedd East Midlands Trains gyda gwelliant o 1.4 pwynt canran.
Ar y cyfan, mae TrC wedi symud i safle 12 allan o'r 24 cwmni o ran perfformiad.
Yn ôl ffigurau chwarterol blaenorol yr ORR – Ebrill i Fehefin 2025 –gwelwyd y gwelliant mwyaf hefyd gan TrC o ran prydlondeb ymysg holl gwmnïau trenau'r DU.
Roedd TrC ar flaen y gad o ran gwella perfformiad a gwelwyd hefyd gynnydd sylweddol yn nifer teithwyr dros yr haf o ganlyniad i nifer o ddigwyddiadau mawr yn cael eu cynnal, gan gynnwys dau gyngerdd agoriadol 'aduniad' y band Oasis – digwyddiad yr oedd disgwyl mawr amdano.
Dengys ffigurau bodlonrwydd cwsmeriaid a gafodd eu cyhoeddi heddiw hefyd gan Transport Focus bod TrC wedi cyflawni’r sgôr bodlonrwydd cwsmeriaid uchaf yn gyffredinol ymysg yr holl weithredwyr trenau sy’n gwasanaethu Cymru gan lwyddo i gael sgor o 88%, wedi cynyddu o 84% ym mis Mehefin.
Daeth TrC yn ail o blith holl weithredwyr y DU o ran gwerth am arian yn ogystal â pherfformio'n gryf o ran capasiti ar drenau (bodlonrwydd o 83%) ynghyd a diogelwch personol ar drenau (91%), y ddau yn uwch na'r cyfartaledd rhanbarthol a chenedlaethol.
Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Gweithredol: “Dyma’r ail chwarter o welliannau sylweddol o ran ein perfformiad prydlondeb wrth i ni ganolbwyntio ar ddarparu’r gwasanaeth gorau un i’n cwsmeriaid.
“Mae TrC a'n partneriaid yn y diwydiant Amey yng Nghymru a Network Rail yn gweithio’n galed iawn i sbarduno gwelliant parhaus o ran pa mor gyflym y gallwn symud pethau pan fydd oedi a nodi materion a mannau problemus rheolaidd fel y gallwn eu datrys.
“Rydym bellach yn cyflawni'r perfformiad gorau yn y diwydiant ar Linellau Craidd y Cymoedd yn rheolaidd ac rydym yn canolbwyntio ar ailadrodd y canlyniadau gwych hyn ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau.
“Mae gwaith i’w wneud o hyd, rydym yn sylweddoli hynny, ond wrth i ragor o’n fflyd o drenau newydd sbon gwerth £800m gael eu rhoi ar waith, ein nod yw gwella perfformiad a’r profiad a gaiff ein cwsmeriaid ar draws y rhwydwaith.”
Fe wnaeth ffigurau canslo TrC hefyd wella 1.4 pwynt canran ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, sef y 4ydd gwelliant mwyaf yn y diwydiant. Bellach, mae TrC wedi cyrraedd safle 16 allan o’r 24 cwmni o ran lefelau canslo.
Roedd hyn er gwaethaf nifer o achosion o ddwyn ceblau oddi ar lein Cwm Rhymni ym mis Medi, a arweiniodd at orfod canslo nifer fawr o wasanaethau gan gostio dros £750,000.