Skip to main content

Transport for Wales’ sponsorship of the ITV Cymru Wales Weather

13 Rhag 2021

O 10 Rhagfyr 2021, bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn noddi Tywydd ITV Cymru.

Byddwn yn defnyddio'r nawdd i gefnogi negeseuon iechyd cyhoeddus Llywodraeth Cymru ac i atgyfnerthu'r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn unol â'n hymgyrch Teithio'n Saffach gyfredol.

Bydd yr ymgyrch yn dangos pobl yn gwisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus gan y dywed ymchwil wrthym bod dangos pobl yn gwneud dewisiadau teithio positif er mwyn cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel yn ffordd wych o annog eraill i newid eu hymddygiad.

Pan fydd canllawiau iechyd cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn newid, byddwn yn canolbwyntio ar annog pobl i wneud dewisiadau teithio gwell, cynaliadwy gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.  Yn bwysicach na dim, ac yn unol â'n cylch gwaith, bydd y nawdd hwn yn gwneud ei ran yn ein helpu i newid y ffordd y mae pobl yn meddwl ac yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Dyma hefyd y nawdd dwyieithog cyntaf ar ITV, gan ddangos arweinyddiaeth ac ymrwymiad TrC i'r Gymraeg.

Dywedodd Lewis Brencher, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Trafnidiaeth Cymru: “Mae partneru gyda ITV ar gyfer y nawdd hwn yn gyffrous iawn gan y bydd llawer o bobl ledled Cymru yn ei weld a chan ystyried y sefyllfa iechyd gyhoeddus bresennol, rydyn ni'n pwysleisio bod yn rhaid i bobl wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, oni bai eu bod wedi'u heithrio er mwyn diogelu pob un ohonom.  Yn y tymor hwy, mae'n gyfle gwych i ni gael pobl i feddwl am newid yn yr hinsawdd a'r ffaith y gall gadael y car gartref a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gael effaith hynod gadarnhaol."  

Llwytho i Lawr