10 Awst 2021
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi llofnodi cytundeb unigryw gyda Colas Rail UK i brynu Pullman Rail Limited.
Mae TrC, y sefydliad dielw a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i yrru ei weledigaeth am rwydwaith trafnidiaeth integredig yn ei blaen wedi bod yn cynnal adolygiad cenedlaethol o'i ddepos a'i opsiynau stablu (lle cedwir trenau pan nad ydynt mewn gwasanaeth). Mae hyn yn cynnwys ei ddepo mwyaf yng Nghaerdydd, lle mae'r mwyafrif helaeth o drenau TrC yn cael eu gwasanaethu, eu glanhau a'u cynnal.
Mae Pullman, darparwyr gwasanaethau peirianneg arbenigol ar gyfer cerbydau rheilffordd yn y DU, hefyd yn gweithredu o'r depo hwn yn Nhreganna.
Bydd y pryniant yn galluogi TrC a Pullman i ddatblygu partneriaeth weithio sydd eisoes yn agos, gyda buddsoddiad pellach yn sicrhau canlyniadau gwell fyth i gwsmeriaid a chleientiaid TrC a Pullman.
O’i atgyfnerthu yn sgil prynu Pullman, bydd gan ddepo Treganna y gallu a'r cydnerthedd angenrheidiol i gefnogi cyflwyno cynllun Metro blaenllaw TrC ochr yn ochr â cherbydau newydd ar gyfer rhwydwaith Cymru a'r Gororau.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol TrC: "A hwythau'n gwmni perfformiad uchel a mentrus, mae Pullman yn adlewyrchu llawer o werthoedd TrC. Mae Pullman wedi bod yn gweithredu yn y DU am dros 25 mlynedd, gan ddarparu cynhyrchion a gwasanaethau o ansawdd uchel. Mae'r arbenigedd technegol hwn, crefftwaith o safon ac arloesedd yn rhan annatod o ddiwydiant rheilffyrdd y DU, gan sicrhau y gellir cynnal fflyd y gellir ei hetifeddu.
"Mae TrC yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn cael ei alinio â'r dreftadaeth gref hon a'r cyfleoedd y bydd y bartneriaeth hon yn eu creu er mwyn tyfu’r ddau sefydliad yn y dyfodol, gan wella gwasanaethau rheilffyrdd i'n teithwyr a sicrhau swyddi yn lleol yng Nghymru."
Bydd Pullman yn parhau i weithredu fel busnes ar ei ben ei hun fel Pullman Rail Ltd. Bydd y gweithgareddau yn parhau ar sail busnes fel arfer gyda'r gwasanaethau presennol yn parhau i gael eu darparu o dan frand Pullman.