Skip to main content

Transport for Wales launches Remembrance train

11 Tach 2022

Mae Trafnidiaeth Cymru yn nodi Dydd y Cofio trwy ddadorchuddio ei drên Cofio cyntaf.

Mae Trelar Fan Gyrru un o drenau intercity TrC wedi’i orchuddio mewn gwaith celf a grëwyd gan PTM Design, sy’n cynnwys silwetau milwyr ar y rheng flaen.  Tra bod pabïau wedi ymddangos ar ochr rhai o’i drenau yn y blynyddoedd blaenorol, dyma drên Cofio pwrpasol cyntaf TrC, a bydd yn coffáu’n barhaol y rhai a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd a'r gwrthdaro ers hynny.

Dyma’r bedwaredd lifrai arbennig ar drenau intercity TrC, a ddefnyddir ar wasanaethau rhwng Caerdydd a Chaergybi, ac, o fis Rhagfyr, De Cymru a Manceinion.  Mae’r gweddill yn hyrwyddo tair elusen boblogaidd yn rhanbarth Cymru a’r Gororau: yr RNLI, Alzheimer’s Cymru a Hosbis Tŷ Gobaith Hope House.

Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn ailsefydlu gwasanaeth Dydd y Cofio blynyddol yng ngorsaf Caerdydd Canolog, wedi dwy flynedd o orfod gohirio'r digwyddiad oherwydd pandemig Covid-19.  Cynhelir y digwyddiad ger cofeb rhyfel yr orsaf yn y prif gyntedd ychydig cyn 11:00 ddydd Gwener 11 Tachwedd.  Mae hyn yn ogystal â seremoni Pabïau i Paddington a gynhelir ar fore 11 Tachwedd, lle bydd arweinwyr gwleidyddol a'r diwydiant rheilffyrdd yn cyflwyno pabïau i'w cludo i Lundain ar y trên ar gyfer gwasanaeth Sul y Cofio.

Dywedodd Ryan Williams, Cyfarwyddwr Peirianneg Trafnidiaeth Cymru:

“Mae cyfnod y Cofio bob mis Tachwedd yn atgof dwys o bwysigrwydd heddwch, undod a pharch.  Mae ein trên Cofio yn anrhydeddu pawb sydd wedi gwneud yr aberth eithaf mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, ddoe a heddiw, ledled y byd.

“Rydym yn falch o allu cefnogi cymuned ein Lluoedd Arfog. Yn 2020 fe wnaethom lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, gan ymrwymo i drin y rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd â thegwch a pharch mewn cymunedau, yr economi a’r gymdeithas pan fyddant yn gwasanaethu gyda’u bywydau.  Y trên Cofio yw’r cam pwysig nesaf tuag at yr  ymrwymiad hwnnw.”