Skip to main content

Transport for Wales launches contactless pay as you go rail travel in North East Wales

18 Mai 2026

Heddiw, mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi lansio ei system talu digyswllt wrth deithio ar y trên yng Ngogledd-ddwyrain Cymru a'r gororau, gan wneud teithiau'n symlach ac yn fwy hyblyg i gwsmeriaid ledled y rhanbarth. 

Gall teithwyr ar wasanaethau rheilffordd TrC nawr dapio i mewn ac allan gan ddefnyddio cerdyn digyswllt neu ddyfais glyfar mewn 15 gorsaf yng Ngogledd-ddwyrain Cymru a'r gororau. Mae'r gwasanaeth yn cyfrifo'r pris gorau ar gyfer pob taith yn awtomatig, gan ddileu'r angen i brynu tocyn ymlaen llaw.

Dyma'r 15 gorsaf sy'n lansio gyda'r gwasanaeth, gyda mwy i'w hychwanegu yn raddol yn ddiweddarach eleni:

  • Bidston
  • Bwcle
  • Caergwrle
  • Cefn-y-bedd
  • Gwersyllt
  • Penarlâg
  • Pont Penarlâg
  • Heswall
  • Hope
  • Neston
  • Pen-y-ffordd
  • Shotton (Lefel Uchel)
  • Upton
  • Wrecsam Canolog
  • Wrecsam Cyffredinol

Mae'r lansiad yn nodi cam cyntaf cynllun teithio digyswllt tapio i mewn, tapio allan TrC ar gyfer Gogledd-ddwyrain Cymru a'r gororau.


Mae'n adeiladu ar lwyddiant y cynllun talu wrth fynd sydd eisoes ar waith ledled De-ddwyrain Cymru, lle mae cwsmeriaid wedi gwneud mwy na 4.5 miliwn o deithiau gan ddefnyddio tapio i mewn, tapio allan digyswllt hyd yn hyn.


Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru: “Mae lansio talu digyswllt wrth fynd yng Ngogledd-ddwyrain Cymru a’r gororau yn garreg filltir bwysig yn ein gwaith i wneud teithio ar y rheilffordd yn symlach, yn fwy hyblyg ac yn rhoi gwell gwerth i’n cwsmeriaid.

“Rydym yn gwybod bod rhwyddineb a chyfleustra yn chwarae rhan hanfodol yn y ffordd y mae pobl yn dewis teithio, yn enwedig ar gyfer teithiau bob dydd. Drwy ehangu teithio digyswllt drwy dapio i mewn a thapio allan y tu hwnt i Dde-ddwyrain Cymru, rydym yn helpu mwy o gymunedau i deithio’n hyderus ac yn cefnogi ein huchelgais ehangach am Gymru sydd wedi’i chysylltu’n well ac yn fwy hygyrch.”

Er mwyn sicrhau bod y pris cywir yn cael ei gymhwyso, rhaid i gwsmeriaid gofio tapio i mewn a thapio allan gan ddefnyddio'r un cerdyn neu ddyfais glyfar ar gyfer pob taith.

Gan fod cynlluniau talu wrth fynd TrC wedi'u cynllunio ar gyfer teithio mynych a lleol, ni fydd cwsmeriaid yn gallu teithio rhwng cynlluniau Gogledd-ddwyrain Cymru a De-ddwyrain Cymru gan ddefnyddio talu wrth fynd.

I gwsmeriaid sy'n dymuno teithio rhwng y cynlluniau, mae gan TrC ystod o opsiynau tocynnau deniadol a fforddiadwy ar gael.

Am ragor o wybodaeth ewch i: https://trc.cymru/ffyrdd-o-deithio/rheilffordd/mathau-o-docynnau/talu-wrth-fynd/gogledd-cymru 

Nodiadau i olygyddion


Mae talu wrth fynd yn caniatáu i gwsmeriaid deithio heb yr angen i brynu tocyn cyn mynd ar y trên.

Mae cwsmeriaid yn syml yn tapio i mewn ar ddechrau eu taith, ac yn tapio allan ar y diwedd, gan ddefnyddio'r un cerdyn neu ddyfais glyfar (gyda thapiau wedi'u gwneud ar ddilyswyr platfform neu linellau giât â galluogi digyswllt).

Mae'r cynllun yn gosod capiau prisiau dyddiol ac wythnosol, gan sicrhau bod cwsmeriaid yn derbyn y pris cyfatebol gwerth gorau am eu taith. Mae hyn yn gwneud teithio tapio i mewn, tapio allan digyswllt yn arbennig o addas ar gyfer teithiau mynych a lleol.

Mae ehangu tapio i mewn, tapio allan digyswllt yn rhan o uchelgeisiau Rhwydwaith T ehangach Trafnidiaeth Cymru ac mae'n garreg filltir hollbwysig wrth gyflawni rhaglen Rhwydwaith Gogledd Cymru. Wedi'i anelu at alluogi trafnidiaeth gyhoeddus symlach, mwy fforddiadwy a mwy deniadol, gan gefnogi gwasanaethau rheilffordd gwell ar draws y rhanbarth. Mae rhaglen Rhwydwaith Gogledd Cymru wedi cefnogi'n sylweddol wrth gyflwyno talu wrth fynd digyswllt yn y Gogledd-ddwyrain.

Llwytho i Lawr