14 Medi 2020
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau rhyngweithiol bob yn ail fis ar Lwyfan y Gadwyn Gyflenwi ar y cyd â Busnes Cymru i’w helpu i gyflawni a datblygu cadwyn gyflenwi amrywiol a chynaliadwy.
Bydd y digwyddiadau ar Lwyfan y Gadwyn Gyflenwi yn arwain at gydweithio â darpar bartneriaid yn y gadwyn gyflenwi. Byddant yn mynd i’r afael â themâu llosg a fydd yn helpu sefydliadau i weithio gyda’i gilydd ac yn darparu llwyfan iddynt ymgysylltu a gofyn cwestiynau.
Bydd pob digwyddiad yn cwmpasu themâu gwahanol. Cynhelir y digwyddiad cyntaf ar 16 Medi. Bydd hwn yn canolbwyntio ar roi canllawiau ar sut gall darpar gyflenwyr ddangos cymhwysedd o ran iechyd a diogelwch yn eu hymatebion i’r tendr. Bydd TrC yn darparu enghreifftiau go iawn o ymatebion fu’n aflwyddiannus yn y gorffennol ac yn rhoi awgrymiadau iddynt i’w helpu yn y dyfodol.
Bydd arbenigwyr yn y maes o bob rhan o TrC a Busnes Cymru yn bresennol ar gyfer pob digwyddiad yn dibynnu ar y pwnc. Bydd digwyddiadau yn y dyfodol yn cynnwys sesiynau ar gynaliadwyedd, arloesi a chydweithio.
Dywedodd Sarah Jane Waith, Pennaeth y Gadwyn Gyflenwi a Rheoli Contractau, Trafnidiaeth Cymru:
“Rydw i wrth fy modd ein bod ni’n gallu cynnig y cyfle i bartneriaid presennol a darpar bartneriaid yn y gadwyn gyflenwi ymgysylltu â ni mewn perthynas â’r digwyddiadau hyn ar Lwyfan y Gadwyn Gyflenwi.
“Yn ogystal â dwyn manteision i bawb dan sylw, bydd y digwyddiadau hyn yn sicrhau cadwyn gyflenwi brysur a deallus sy’n barod am y cyfleoedd y gall TrC a’n partneriaid eu cynnig”.