Skip to main content

Transport for Wales launches Sustainable Development Plan

27 Tach 2019

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Datblygu Cynaliadwy, gan ddatgelu eu targedau cynaliadwyedd uchelgeisiol a’r camau y bydd Trafnidiaeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y bydd yn cyrraedd y targedau hyn.

Yn gyson â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae’r cynllun yn rhoi sicrwydd clir bod y sefydliad newydd yn bodloni deddfwriaeth a pholisi cenedlaethol.

Gan gefnogi ‘Cymru fwy cydnerth’, nododd TrC y bydd 100% o’r trydan ar gyfer gorsafoedd a gwifrau uwchben ar Brif Linellau’r Cymoedd yn dod o ynni adnewyddadwy, gydag o leiaf 50% yn tarddu o Gymru.

Gan hyrwyddo teithio llesol, bydd TrC yn cynnig cyfleusterau storio beiciau newydd diogel i gwsmeriaid ac fe fydd yn darparu llwybrau cerdded wedi eu goleuo’n dda i annog pobl i wneud dewisiadau iachach ac er mwyn lleihau llygredd aer.

Mae TrC eisoes wedi cynnig cyfleoedd gwaith i fusnesau bach a mentrau cymdeithasol. Maent wedi creu 120 o swyddi newydd ac wedi ymrwymo i greu cyfanswm o 600 gan ychwanegu 30 o brentisiaethau newydd bob blwyddyn.

I gefnogi’r Cynllun Datblygu Cynaliadwy, bydd TrC hefyd yn cyhoeddi Strategaeth Effaith Carbon Isel.

Meddai Natalie Rees, Rheolwr Datblygu Cynaliadwy TrC:

“Mae ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy yn nodi ein dull ar gyfer sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn rhan greiddiol o’n gwaith hyd 2033. Mae gennym dargedau uchelgeisiol ac rydym yn datblygu cynlluniau allweddol eraill, gan gynnwys ein Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth, Cynllun Rheoli’r Amgylchedd a Chynllun Teithio Llesol.

“Rydym am sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn dod yn rhan o ddiwylliant TrC a’i fod yn amlwg yn ein holl weithgareddau. Rydym am weld rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru sy’n gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau dyfodol.”

Ychwanegodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Rydym yn falch iawn o gael lansio ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy sy’n dangos pa weithgareddau y byddwn yn eu cynnal i gefnogi darpariaeth rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy i Gymru.

“Mae targedau ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy yn uchelgeisiol ac rydym yn hyderus y bydd ein cynlluniau yn ein galluogi i fod yn llwyddiannus ac i gyflawni. Mae pawb yn gwybod pa mor sylfaenol yw trafnidiaeth i lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, a lleihau’r defnydd o gerbydau preifat ac annog rhagor o ddefnydd o drafnidiaeth a theithio llesol er mwyn gwella ansawdd aer, lleihau llygredd aer a chynnig manteision iechyd pwysig i bobl Cymru.”

Meddai Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wrth wraidd y gwasanaeth rheilffyrdd i Gymru a’r Gororau, y contract caffael mwyaf a dendrwyd yng Nghymru, gyda gwerth o £5 biliwn diolch i waith fy nhîm y llynedd. Yr wyf wedi parhau i gefnogi a herio Trafnidiaeth Cymru i sicrhau eu bod yn bachu ar bob cyfle i gyfrannu at y saith nod-llesiant. Rwy’n cael fy nghalonogi gan y modelu a wnaed eisoes gan Trafnidiaeth Cymru sy’n dangos sut y byddant yn cynnwys y saith nod-llesiant wrth gyflawni eu gwaith. Rwy’n croesawu eu dull cadarnhaol a’u parodrwydd i weithio gyda mi ac eraill i nodi arferau da o weithio.

“Rwy’n cael fy nghalonogi’n arbennig gan eu cynlluniau i gyfrannu at Gymru lewyrchus, drwy gynnig cyfleoedd gwaith i fusnesau bach a mentrau cymdeithasol, yn ogystal a chyfrannu i sicrhau Cymru gwell drwy amlinellu y bydd yr holl drydan ar gyfer gorsafoedd a gwifrau uwchben yn dod o ynni di-garbon. Wrth edrych i’r dyfodol, rwy'n awyddus i weld mwy o uchelgais ar dargedau lleihau carbon. Yn olaf, wrth fapio cyfraniadau tuag at y saith nod-llesiant, rwy'n falch o weld Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno eu hymrwymiad mewn ffordd sydd yn dryloyw ac yn adnabyddus.”

Llwytho i Lawr