22 Medi 2022
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio ap newydd ar gyfer ei rwydwaith bysiau pellter hir Traws Cymru a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Bydd yr ap newydd yn helpu cwsmeriaid i gynllunio eu teithiau, amserlenni bysiau a bydd yn rhoi opsiynau olrhain cerbydau byw iddynt, fel y olrhain lleoliad eu bws ar y rhwydwaith. Bydd hefyd yn cynnig opsiwn i brynu tocynnau ar yr ap, darparu mynediad digidol i wasanaethau TrawsCymru ac yn arddangos yr arbedion carbon a wneir wrth ddewis teithio ar fws.
Trwy ddarparu gwybodaeth gliriach ar blatfform digidol mwy hygyrch, bydd yr ap yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyflawni system fysiau sy'n hybu tegwch cymdeithasol ac sy'n gallu cyflawni'r raddfa o newid yn y ffordd rydym yn teithio sydd ei angen i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.
Mae TrawsCymru yn rhan annatod o rwydwaith bysiau Cymru, gan ddarparu cysylltiadau rhwng trefi a dinasoedd mawr a helpu pobl i gysylltu â chyrchfannau gwaith, addysg, iechyd a hamdden. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd Trafnidiaeth Cymru yn gwneud gwelliannau i’r rhwydwaith, cerbydau carbon isel, integreiddio TrawsCymru a thocynnau rheilffordd a gwella seilwaith ymyl ffordd a gwybodaeth i deithwyr.
Mae'r ap yn cael ei greu gan Passenger ac ar gael yn yr App Store a Google Play. Bydd gwefan newydd TrawsCymru yn cael ei lansio yn yr hydref eleni.
Ychwanegodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Mae ein ap a’n gwefan newydd ar gyfer TrawsCymru yn garreg filltir arwyddocaol yn ein cynlluniau i drawsnewid a gwella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, wrth i ni geisio creu rhwydwaith sy’n apelio at ddemograffeg llawer ehangach.
“Ein pwrpas yw bwrw ymlaen â gweledigaeth Llywodraeth Cymru o rwydwaith sefydlog, hawdd ei ddefnyddio o wasanaethau bysiau sy’n cysylltu’n rhwydd â dulliau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus. Rydym am ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth dibynadwy, fforddiadwy, hyblyg a charbon isel sy’n cefnogi mwy o bobl i ddefnyddio’r bws yn lle’r car – a bydd ap a gwefan newydd TrawsCymru yn ategu at ein hymdrechion parhaus."