Skip to main content

Transport for Wales launches bus stop review across South West Wales.

31 Maw 2026

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi dechrau adolygiad o dros 6,000 o safleoedd bws ledled De-orllewin Cymru wrth i'r rhanbarth baratoi ar gyfer masnachfraint bysiau. 

De-orllewin Cymru fydd y rhanbarth cyntaf yng Nghymru i gyflwyno masnachfraint bysiau o dan Ddeddf Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2026. Mae'r adolygiad yn gam ymlaen o ran darparu rhwydwaith bysiau modern, integredig a hygyrch i deithwyr ledled y rhanbarth.

Wedi'i gomisiynu gan TrC a'i gyflwyno mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforaethol bydd yr adolygiad yn asesu nodweddion hygyrchedd, gwybodaeth i gwsmeriaid a chyflwr ffisegol safleoedd bws wedi'u marcio a heb eu marcio ledled y rhanbarth. Penodwyd Externiture Ltd i gyflwyno'r adolygiad.

Er bod Awdurdodau Lleol yn parhau i fod yn gyfrifol am seilwaith yr safleoedd bws, bydd yr adolygiad yn darparu data cadarn, gan gynnwys asesiad o gofnodion NaPTAN presennol i lywio buddsoddiad a gwelliannau yn y dyfodol ledled y rhanbarth.

Mae'r prosiect yn cefnogi uchelgeisiau Teithio i Bawb Llywodraeth Cymru a gweledigaeth Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn Trafnidiaeth Cymru i greu rhwydwaith bysiau mwy integredig, dibynadwy a chynaliadwy. Mae'n cyfrannu at nodau ehangach Llwybr Newydd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae miliynau o deithiau bws yn cael eu gwneud gan bobl ledled Cymru bob blwyddyn ac mae'r rhwydwaith hwn yn rhan annatod o'n system drafnidiaeth gyhoeddus.

“Bydd yr adolygiad hwn yn chwarae rhan bwysig wrth lunio gwelliannau. Bydd yn rhoi dealltwriaeth fwy cywir inni o'r hyn sy'n bodoli heddiw, fel y gallwn ddeall sut i wella hygyrchedd, diogelwch a chysondeb i ddefnyddwyr bysiau yn y blynyddoedd i ddod.

“Drwy weithio gyda Trafnidiaeth Cymru a'n partneriaid lleol, byddwn yn cryfhau'r sylfeini i greu rhwydwaith trafnidiaeth modern, cynhwysol sy'n gweithio i bawb.”

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Ranbarthol ac Integreiddio yn Trafnidiaeth Cymru: “Bydd y gwaith hwn yn ein galluogi i wneud penderfyniadau gwell i deithwyr. Drwy ddeall cyflwr ein safleoedd bws, gallwn wella gwybodaeth i gwsmeriaid, cryfhau hygyrchedd a symud tuag at rwydwaith bysiau mwy integredig a dibynadwy ar gyfer cymunedau ledled De-orllewin Cymru.”

Disgwylir i’r arolwg gael ei gwblhau erbyn gaeaf 2026.

Nodiadau i olygyddion


Yr amserlen waith bresennol yw cwblhau’r fasnachfraint erbyn 2030. 

O dan Ddeddf Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2026, mae cyfrifoldeb am wybodaeth i gwsmeriaid yn trosglwyddo o Awdurdodau Lleol i Weinidogion Cymru ac felly i Trafnidiaeth Cymru.