11 Chw 2021
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio Academi Prentisiaeth newydd a fydd yn rhoi gwybodaeth a sgiliau ychwanegol i’r prentisiaid i gyd er mwyn ategu eu dysgu yn nisgyblaeth eu prentisiaeth.
Bydd yr Academi Prentisiaeth yn cynnig cyfleoedd dysgu ychwanegol i’r 30 prentis yn Nhrafnidiaeth Cymru, a bydd canolbwyntio ar ddatblygu eu sylfaen sgiliau proffesiynol a phersonol. Mae’r rhaglen fewnol yn galluogi pobl ifanc yn TrC i ennill eu cymhwyster galwedigaethol yn ogystal ag ymgymryd â rhaglen datblygu bersonol, sy’n eu galluogi i roi hwb i’w gyrfaoedd.
Cafodd ei lansio yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, a dechreuodd y prentisiaid raglen gyntaf yr academi, Ffynnu, sef cyfres o ddosbarthiadau meistr misol sy’n edrych ar sgiliau fel arweinyddiaeth, siarad cyhoeddus, iechyd a lles, cynaliadwyedd a mwy.
Mae TrC yn cyd-fynd yn llwyr â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ac ymunodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, â’r lansiad rhithiol i siarad am ei rôl, yn ogystal â rhoi trosolwg pwysig o’r Ddeddf a’r saith nod llesiant.
Esboniodd Georgia Cope, Prentis Rheoli Prosiectau yn y tîm Seilwaith yn TrC, sy'n 19 oed, yr hyn yr oedd hi’n edrych ymlaen ato fwyaf am Academi Prentisiaeth.
Meddai: “Mae’n rhaglen gyffrous iawn a fydd yn fy helpu i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau bywyd ychwanegol a fydd yn fuddiol i’m gyrfa yn y dyfodol. Mae wedi bod yn her addasu i weithio o bell yn ystod y cyfnod anodd hwn, felly mae’n bwysicach nag erioed bod lle i mi a’m cyd-brentisiaid estyn allan am ragor o gymorth.
“Rwy’n teimlo’n ffodus iawn bod y rhaglen ar gael i’r prentisiaid yn y cwmni a chredaf y bydd yn dod ag ymdeimlad o gymuned lle gallwn ni helpu a chefnogi ein gilydd.”
Ychwanegodd Lisa Yates, Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol:
“Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn gyfle i ni dynnu sylw at ein prentisiaid anhygoel, sy’n rhan o sefydliad ifanc sy’n tyfu gyda chynlluniau beiddgar i drawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi llwyddo i lansio Academi Prentisiaeth, sef menter unigryw a fydd yn ategu’r rhaglen draddodiadol sydd eisoes ar waith ar gyfer ein prentisiaid gyda dull mwy cyflawn o ymdrin â sgiliau.
“Rydyn ni wedi llunio cyfres o ddosbarthiadau meistr misol a gweithgareddau a fydd yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau y bydd eu hangen ar ein prentisiaid i ffynnu yn eu gyrfaoedd. Mae pob dosbarth meistr yn gysylltiedig ag un o saith Nod Llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn ogystal â phwrpas, gweledigaeth a gwerthoedd ein cwmni. Bydd Academi Prentisiaeth yn chwarae rhan hollbwysig i gefnogi’r gwaith o gyflawni ein Strategaeth Pobl yn llwyddiannus, gyda’n gweledigaeth o ddod yn Gyflogwr Delfrydol.”
Nodiadau i olygyddion
The Apprenticeship Academy is open to current TfW apprentices. Future apprenticeship opportunities with TfW will be advertised at trc.cymru/gwybodaeth/ceiswyr-swyddi