Skip to main content

Transport for Wales lights up for LGBT+ History Month

09 Chw 2021

Mae Trafnidiaeth Cymru yn goleuo adeilad ei bencadlys newydd ym Mhontypridd gyda lliwiau’r enfys i ddathlu Mis Hanes LGBT+.

Bob mis Chwefror yn y DU, mae’r mis yn ddathliad sy’n annog addysg bellach i fynd i’r afael â materion LGBT+ a thrwy oleuo ei adeilad, mae TrC yn falch o gefnogi a hyrwyddo cymdeithas sy’n fwy diogel a chynhwysol yn gyffredinol.

Mae TrC, fel sefydliad newydd sydd wedi coleddu egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn croesawu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn llawn ac yn gwreiddio hynny yn niwylliant y gweithle.

Ers cyhoeddi’r Amcanion Cydraddoldeb Strategol ym mis Mehefin 2020, mae TrC wedi sefydlu grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, lle mae cydweithwyr yn cynrychioli elfennau o nodweddion gwarchodedig fel aml-ddiwylliant, aml-genhedlaeth, rhywedd, anabledd ac LGBT+.

Dywedodd Lisa Yates, Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol: “Rydyn ni’n falch iawn ein bod ni’n cefnogi’r mis hwn drwy oleuo ein hadeilad newydd â lliwiau’r enfys.

“Mae TrC yn sefydliad cwbl gynhwysol, lle mae pob cydweithiwr yn cael ei drin yn gyfartal gyda pharch, a lle mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu.

“Yn ddiweddar, rydyn ni wedi sefydlu ein grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, lle mae ein cydweithwyr yn cynrychioli gwahanol elfennau o nodweddion gwarchodedig, ac mae LGBT+ yn un ohonyn nhw.”