26 Mai 2020
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn falch iawn ei fod wedi’i gydnabod gan Mind am ei ymrwymiad i lesiant yn y gweithle.
Roedd TrC yn un o 103 o sefydliadau i gymryd rhan yn ail Fynegai Llesiant yn y Gweithle blynyddol Mind, a chafodd ei gydnabod gyda Gwobr Arian, sy’n golygu ei fod wedi ymrwymo i sicrhau newid yn y gweithle.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae TrC wedi sefydlu rhaglen cymorth iechyd meddwl gynhwysfawr ar gyfer cydweithwyr, sy’n cynnwys sefydlu ei hun fel Cyflogwr Adduned Amser i Newid, hyfforddi deg Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac 16 Hyrwyddwr Iechyd Meddwl. Mae Grŵp Gweithredu Llesiant Staff hefyd wedi’i ddatblygu.
Mae Mynegai Llesiant yn y Gweithle Mind yn feincnod polisi ac arferion gorau, ac yn dathlu’r gwaith da mae cyflogwyr yn ei wneud i hyrwyddo a chefnogi iechyd meddwl cadarnhaol, gan ddarparu argymhellion allweddol ar gyfer meysydd penodol lle mae lle i wella.
Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin ymysg gweithwyr. Fe wnaeth Mind fynd ati i gynnal arolwg ymhlith dros 44,000 o weithwyr ledled y 106 o gyflogwyr a oedd yn cymryd rhan yn y Gwobrau a gwelwyd bod 7 o bob 10 wedi wynebu problem iechyd meddwl yn eu bywydau, gyda mwy nag un o bob dau (53 y cant) yn cael eu heffeithio gan iechyd meddwl gwael yn eu gweithle presennol.
Meddai James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Rwy’n hynod falch ein bod ni wedi derbyn y Wobr Arian ym Mynegai Lles meddyliol Mind. Mae hon yn dipyn o bluen yn ein het ac rwy’n falch iawn bod y gwaith rydyn ni wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i gefnogi cydweithwyr ledled y sefydliad wedi cael ei gydnabod. Gyda’r cyfyngiadau symud a’r patrymau gweithio ar ein pen ein hunain ar waith, mae’n hollbwysig ein bod yn cadw llygad ar ein gilydd a gofalu am ein gilydd.”
Meddai Emma Mamo, Pennaeth Llesiant yn y Gweithle Mind:
“Mae pob cyflogwr yn dibynnu ar gael gweithlu iach a chynhyrchiol – mae gweithwyr sy’n cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi yn llawer mwy tebygol o sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer eich sefydliad. Dyna pam ein bod yn falch iawn o gydnabod a dathlu cyflogwyr sy’n rhoi blaenoriaeth i iechyd meddwl yn eu sefydliad drwy ein Gwobrau Llesiant yn y Gweithle.
“Eleni, rydyn ni wedi’n syfrdanu yn gweld cymaint o arferion da, gan bob un o’r 106 o gyflogwyr amrywiol a gymerodd ran. Roedd digwyddiad y Gwobrau yn gyfle i gydnabod y cyflogwyr blaengar hynny sy’n rhagori wrth fuddsoddi yn llesiant eu staff, ac sy’n cael y canlyniadau gorau i’w busnes wrth wneud hynny.”
I gofrestru eich diddordeb mewn cymryd rhan yng Ngwobrau Llesiant yn y Gweithle'r flwyddyn nesaf, ewch i www.mind.org.uk/index.
Nodiadau i olygyddion
Nodiadau i Olygyddion:
Ynglŷn â Mind a’i Wobrau Llesiant yn y Gweithle:
- Mind ydyn ni, yr elusen iechyd meddwl. Rydyn ni’n darparu cyngor a chymorth i rymuso unrhyw un sy’n wynebu problem iechyd meddwl. Rydyn ni’n ymgyrchu i wella gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo dealltwriaeth. Ni fyddwn yn rhoi’r gorau iddi tan y bydd pawb sy’n profi problem iechyd meddwl yn cael cymorth a pharch.
- Mae gan Mind linell gwybodaeth a chymorth cyfrinachol, Mind Infoline, ar gael ar 0300 123 3393 (llinellau ar agor 9am - 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener)
- Nod rhaglen Llesiant yn y Gweithle Mind yw helpu pobl i ddeall a dechrau siarad am y pris a delir wrth esgeuluso lles meddyliol yn y gweithle.
- Mae Mind yn cynnig adnoddau am ddim i gyflogwyr er mwyn eu helpu i wella lles meddyliol ac ymgysylltu â gweithwyr: www.mind.org.uk/work
- Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys cyngor ar gyfer cyflogwyr a staff, ewch i www.mind.org.uk/index
- Mae Gwobrau Llesiant yn y Gweithle Mind yn cydnabod a dathlu’r gwaith da mae cyflogwyr yn ei wneud i hyrwyddo lles meddyliol staff. Gall cyflogwyr blaengar roi cynnig arni’r flwyddyn nesaf: www.mind.org.uk/index