03 Meh 2019
Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o ddyfarnu contractau Ymwneud Cynnar gan Gontractwr (ECI) i dri chwmni blaenllaw ym maes peirianneg ac adeiladu ar gyfer prosiectau yn Ne Cymru.
Dyfarnwyd contractau i Balfour Beatty, Alun Griffiths a Siemens Mobility fel rhan o'r broses gaffael ar gyfer prosiectau cyntaf Metro De Cymru, gan gynnwys systemau rheoli, gwaith ar y rheilffyrdd, gorsafoedd a'r depo cynnal a chadw cerbydau newydd yn Ffynnon Taf.
Caiff contractau ECI eu dyfarnu ar gyfer gwaith paratoi er mwyn datblygu cynlluniau a chynllunio gwaith cyn prif gamau’r broses gaffael ar gyfer prosiectau peirianneg. Bydd y tri chwmni’n gweithio gyda TrC ar y prosiectau hyn, gan gynnwys gweithio i sefydlu cadwyn gyflenwi o ansawdd uchel gyda busnesau yng Nghymru.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn trawsnewid y sector trafnidiaeth ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau gyda rhaglen fuddsoddi gwerth £5 biliwn sy’n canolbwyntio ar wella profiad cwsmeriaid a gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yng Nghymru.
Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru:
“Mae Metro De Cymru yn un o’n prosiectau pwysicaf a mwyaf cyffrous ni, ac rydw i’n falch y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda thri chwmni uchel eu parch yn ystod camau cyntaf hollbwysig ein cynlluniau i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus, yn ardal De Cymru ac ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau yn gyffredinol.
“Bydd datblygu’r Metro yn hwb enfawr i'r economi leol yn Ne Cymru, a bydd yn creu swyddi uniongyrchol ac yn y gadwyn gyflenwi leol. Byddwn yn gweithio’n agos gyda Balfour Beatty, Alun Griffiths a Siemens wrth iddynt ein helpu ni i ddatblygu ein gweledigaeth o greu rhwydwaith trafnidiaeth o ansawdd uchel sy’n ddiogel, yn fforddiadwy ac yn hygyrch, ac un y mae pobl De Cymru yn falch ohono.”
Dywedodd Shaun Thompson, Cyfarwyddwr Rheilffyrdd cwmni Alun Griffiths (Contractors) Ltd:
“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn cydweithio â TrC ar y datblygiad cyffrous yma. Fel cwmni o Gymru sy’n hunangyflawni, mae’n ein galluogi ni i recriwtio a hyfforddi gweithwyr lleol newydd, gan wella’r economi yng Nghymru. Mae bod yn rhan o’r contractau ECI yma o’r cychwyn cyntaf yn caniatáu i’n pobl ni ychwanegu gwerth drwy arloesi, hybu iechyd a diogelwch, a lleihau risg.”
Dywedodd Rob Morris, Rheolwr Gyfarwyddwr Awtomatiaeth Rheilffyrdd ar gyfer Siemens Mobility yn y DU:
“Rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi cael y contract ECI yma, a’n bod ni’n cal cyfle i adeiladu ar lwyddiant y prosiectau rydyn ni eisoes wedi’u cyflawni yn Ne Cymru. Mae ein tîm profiadol sy’n tyfu’n gyflym, yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda TrC a’r gadwyn gyflenwi leol ar y rhaglen waith gyffrous yma.”
Dywedodd Mick Rayner, Rheolwr Gyfarwyddwr busnes Rheilffyrdd Balfour Beatty:
“Mae heddiw yn garreg filltir sylweddol o ran cyflawni rhaglen fuddsoddi Trafnidiaeth Cymru a phrosiect Metro De Cymru, a fydd yn gwella cysylltiadau trafnidiaeth yn Ne Cymru i raddau helaeth ar ôl cael ei gwblhau.
“Gan ddefnyddio ein harbenigedd heb ei hail mewn trydaneiddio a’n profiad helaeth o osod rheilffyrdd newydd, rydyn ni mewn sefyllfa ddelfrydol i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru yn ystod y cam ymwneud cynnar gan gontractwr, i ddatblygu dyluniad y cynllun hirddisgwyliedig yma.”