05 Meh 2020
Mae gweithwyr rheilffyrdd caredig wedi bod yn rhannu eu hanesion o roi o’u hamser i eraill fel rhan o’r Wythnos Gwirfoddolwyr.
I ddathlu’r wythnos, mae staff Trafnidiaeth Cymru wedi datgelu sut mae llawer ohonyn nhw’n mynd y filltir ychwanegol yn lleol yn eu cymunedau i gefnogi elusennau mawr yn genedlaethol.
Un ohonyn nhw yw gard trenau sy’n gwisgo fel Imperial Storm Trooper o Star Wars i godi arian at achosion lleol a chenedlaethol, gyrrwr trenau sydd wedi cydlynu parseli bwyd ar gyfer y GIG a glanhawr trenau sydd wedi treulio deng mlynedd yn gwirfoddoli i lanhau afonydd, llynnoedd a nentydd yn ardal Caerdydd a’r De.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhoi dau ddiwrnod i ffwrdd i weithwyr i wirfoddoli bob blwyddyn. Yn ystod y stormydd yn gynharach eleni gwirfoddolodd llawer o gydweithwyr i helpu i lanhau ardaloedd a oedd wedi’u heffeithio, gyda chefnogaeth lawn TrC.
Ymhlith y rhai sy’n rhoi o’u hamser mae Kevin Rankin, Gard ar Linellau’r Cymoedd. Dechreuodd Kevin gymryd rhan gyda’r Lleng 501 fel stormfilwr ar ôl sawl trasiedi bersonol.
Meddai: “Roeddwn i’n teimlo fod gen i fwy i’w gynnig ac roeddwn i am helpu elusennau a hosbisau a wnaeth gymaint yn gofalu am fy mherthnasau yn eu misoedd olaf.
“Dechreuais ymchwilio a dod ar draws Lleng 501 ar YouTube. Ymunais â’r fforymau lleol yn y DU ar unwaith a phenderfynais fod yn Sandtrooper.”
Ers hynny, mae Kevin wedi mynychu’r Comic Cons mawr, cyngherddau pop, wedi bod ar y llwyfan gyda cherddorion enwog, cymryd rhan mewn dau berfformiad cerddorfaol llawn a mynychu nosweithiau rhyddhau ffilmiau.
“Ond i mi, yr ymweliadau ag ysbytai dros y Nadolig sydd wedi bod fwyaf gwerth chweil ac o gael dewis rhwng digwyddiad mawr a ward plant, byddwn yn dewis ward plant bob tro, meddai Kevin.
Fel gwirfoddolwr rheolaidd i Ganolfan Huggard, sy’n cefnogi pobl sy’n cysgu ar y stryd, mae Stella Pascos, Rheolwr Dosbarthu Marchnata, wedi bod yn helpu Cyngor Caerdydd yn fwyaf diweddar i ddosbarthu bwyd a chyflenwadau i bobl sy’n ynysu.
“Rydym ni’n cael masg wyneb a hylif diheintio wrth ddosbarthu bwyd i gartrefi’r rhai sy’n ynysu,” meddai Stella.
“Galla i ond dychmygu sut brofiad yw hynny i’r rhai sy’n gorfod gwisgo cyfarpar diogelu personol llawn drwy’r dydd.”
Yng Ngorsaf Amwythig, sefydlwyd cynllun penigamp ym mis Ebrill 2017 gan gydweithwyr sy’n gwirfoddoli ar y rheilffyrdd, sef ‘Shrewsbury Traincrew Tuck Shop’;.
Mae’r gwirfoddolwyr Paul Roach, Dominic Eaton, Addy Sargent, Dafydd Thacker, Dave Callingham, David Card, Jessica Grace, Scott Jagger a Steven Holt wedi codi dros £2000 ar gyfer elusennau ynghyd â darparu cyflenwadau newydd i’w hystafell fwyta ac ‘ystafelloedd tawel’.
Mae Simon Biggs, gyrrwr trenau o Gaerfyrddin, a’i gydweithwyr wedi codi bron i £1,700 i’w hysbyty a’u gorsafoedd ambiwlans lleol. Mae’r arian wedi’i wario ar barseli bwyd ar gyfer cydweithwyr rheng flaen, sy’n cael eu dosbarthu’n ddiogel ac yn hylan.
Mae’r glanhawr trenau Anthony Akhurst wedi bod yn aelod brwd o Grŵp Afonydd Caerdydd ers deng mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi mentro i afonydd, nentydd a llynnoedd, gan gael gwared ar sbwriel niweidiol fel bod y lleoedd mewn gwell cyflwr ar gyfer bywyd gwyllt ac ymwelwyr fel ei gilydd.
“Dwi’n gweithio fel glanhawr yn y gwaith a thu fas i’r gwaith!”, meddai Anthony.
“Er ei fod yn waith tebyg i’m gwaith o ddydd i ddydd ar un ystyr, dydw i ddim yn cael cerdded drwy fwd at fy nghluniau, oni bai bod tipyn o broblem mewn toiled!
“Rydw i’n falch iawn o’r hyn y mae’r Grŵp yn ei wneud ac rydw i’n dweud wrth bawb sy’n fodlon gwrando. Mae’n gwneud i mo godi o’r gwely ar fy nyddiau i ffwrdd ac mae’r sesiynau prynhawn achlysurol yn fendith hefyd, gan fy mod yn gallu mynd iddynt ar ôl shifft nos y noswaith gynt.”
Meddai Marie Daly, Cyfarwyddwr Pobl ac Ymgysylltu TrC: “Mae clywed rhai o’r hanesion gwych am wirfoddoli yn ein cwmni wedi cynhesu fy nghalon. Enghraifft wych arall o sut mae pobl yn dangos ein gwerthoedd fel sefydliad. Ar ôl i ni gymryd yr awenau ar rwydwaith Cymru a’r Gororau, aethom ati i rannu ein hymwybyddiaeth o’r byd yn lleol ac mae hyn yn enghraifft benigamp o’n hymrwymiad i gymunedau lle’r ydym ni’n gweithredu. Er mwyn pwysleisio hyn mae gennym ni brosesau ar waith i gefnogi ein cydweithwyr sydd eisiau gwneud y peth iawn, gan roi mwy o amser i ffwrdd iddyn nhw i wirfoddoli lle gallwn ni. Ein hamser yw’r peth mwyaf gwerthfawr sydd gan bob un ohonom ni, felly hoffwn ddiolch i bawb sy’n rhoi o’u hamser am ein hatgoffa ni i gyd o’r holl ddaioni sydd yn ein cymdeithas.”