Skip to main content

Transport for Wales celebrates carbon footprint reduction on Clean Air Day

08 Hyd 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru yn nodi Diwrnod Aer Glân drwy ddathlu ei lwyddiannau o ran lleihau ei ôl troed carbon fel rhan o’i Gynllun Datblygu Cynaliadwy.

Mae’r rheilffyrdd yn cyfrannu 1% o allyriadau carbon trafnidiaeth Cymru, ac mae’r rhan fwyaf yn dod o drenau sy’n defnyddio diesel ledled rhwydwaith Cymru a’r Gororau. Fodd bynnag, yn ystod blwyddyn ariannol 2019-20, gostyngodd TrC ei allyriadau 6.27%. Roedd hyn o ganlyniad i ostyngiad mewn tanwydd trenau wrth i ni ychwanegu trenau mwy newydd wedi’u hadnewyddu at ein cerbydau, yn ogystal â thrwy leihau’r ynni a ddefnyddir ar gyfer adeiladau wrth i ni gyflwyno mesuryddion clyfar ar draws ein holl orsafoedd a depos yng Nghymru a’r Gororau.  

Cyflwynodd TrC saith o faniau trydan i’w fflyd o gerbydau ffordd ar gyfer cydweithwyr sy’n gweithio ar drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd fel rhan o Fetro De Cymru.

Mae faniau pedwar sedd Nissan eNV200 wedi cael eu derbyn yn gadarnhaol am eu tawelwch a’u perfformiad ar ffyrdd lleol o amgylch cymoedd De Cymru. Yn ogystal â lleihau allyriadau’n sylweddol, mae’r faniau hefyd yn lleihau costau tanwydd dros hanner o’u cymharu â fan cyfatebol sy’n defnyddio tanwydd diesel. Mae pwyntiau gwefru wedi cael eu gosod yng Nghanolfan Seilwaith y Metro yn Nhrefforest er mwyn gallu gwefru’r faniau dros nos.

Electric vehicles

Ers diwedd blwyddyn ariannol 2019-20, mae TrC wedi parhau i gymryd camau pellach i leihau allyriadau gyda nifer o gynlluniau, gan gynnwys treialu goleuadau wedi’u pweru gan ynni’r haul wrth adeiladu’r depo cynnal a chadw a’r ganolfan reoli newydd yn Ffynnon Taf, yn ogystal â phlannu 37,000 o goed ar safle ger Llanwern.

Mae cynlluniau TrC ar gyfer y dyfodol yn cynnwys rhagor o ymrwymiadau i leihau ei allyriadau carbon ymhellach drwy ddisodli ei fflyd bresennol o drenau â cherbydau newydd mwy effeithlon, gan gynnwys trenau trydan a threnau tram ar linellau Metro a threnau diesel mwy effeithlon ar wasanaethau pellter hir. Bydd gorsafoedd a llinellau uwchben yn dod o ynni sy’n 100% adnewyddadwy, a bydd o leiaf 50% o’r ynni hwnnw yn dod o Gymru.

Mae TrC hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth gwefru cerbydau trydan, a fydd yn sicrhau buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith cerbydau trydan, ac mae hefyd yn gweithio ar gynlluniau i sicrhau bod bysiau a thacsis yn cael eu pweru gan ffynonellau trydan neu hydrogen erbyn 2028. Mae hyn i gyd yn rhan o strategaeth ehangach sydd â’r nod o gyrraedd targed carbon sero net erbyn 2030.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Mae cynaliadwyedd wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud yn TrC ac rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud ynghylch lleihau ein hôl troed carbon yn llwyfan ardderchog i ni adeiladu arno dros y blynyddoedd nesaf wrth i ni barhau i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru sy’n wirioneddol gynaliadwy ac sy’n gweithio i bobl ac i’r blaned.” 

Ychwanegodd Natalie Rees, Rheolwr Datblygu Cynaliadwy TrC:

Mae’r camau rydyn ni’n eu cymryd i leihau ein hôl troed carbon hefyd yn ein helpu i leihau allyriadau. Mae llygredd aer yng Nghymru yn effeithio ar iechyd pobl ac mae’n effeithio ar fioamrywiaeth. Rydyn ni’n edrych ar ffyrdd arloesol o leihau llygredd yn sgil ein gwaith gweithredu, gan gynnwys treialu goleuadau solar ar safleoedd adeiladu a gweithio gyda sefydliadau traws sector drwy ein haelodaeth o Fwrdd y Rhaglen Aer Glân a’r Panel Cynghori ar Aer Glân.