Skip to main content

Transport for Wales Celebrates Commitment to Real Living Wage

11 Tach 2019

Heddiw, cyhoeddodd Trafnidiaeth Cymru ei fod yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig.

Bydd yr ymrwymiad yn sicrhau bod pawb sy’n gweithio yn Trafnidiaeth Cymru yn derbyn isafswm cyflog o £9.00 yr awr. Mae hyn yn llawer uwch nag isafswm Llywodraeth y DU ar gyfer pobl sydd dros 25 oed, sy’n £8.21 yr awr ar hyn o bryd.

Mae gan Gymru un o’r cyfrannau uchaf o swyddi sydd ddim yn talu’r Cyflog Byw yn y DU (24%), gydag oddeutu 268,000 o swyddi yn talu’n llai na’r Cyflog Byw Gwirioneddol. Fodd bynnag, mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol, ac i gyflwyno tâl teg am ddiwrnod caled o waith.

Fel cwmni dielw sydd ym mherchnogaeth lwyr Lywodraeth Cymru, nod TrC yw darparu buddsoddiad cyhoeddus sydd â phwrpas cymdeithasol yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru, ac sy’n dod â buddion i bobl Cymru, gan gynnwys eu staff.

Mae TrC wedi datblygu partneriaeth gymdeithasol sy’n cynnwys cydnabod yr holl undebau llafur perthnasol sydd yn y sectorau y maen nhw’n gweithredu ynddynt, gan greu diwylliant cadarnhaol a blaengar i’w staff ac i’w cynrychiolwyr.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd TrC yn cyhoeddi eu Cynllun Datblygu Cynaliadwy, sy’n cynnwys ymrwymiadau i dalu’r Cyflog Byw i’w isgontractwyr hefyd, a bydd cyflenwyr ond yn cael eu dewis os byddant yn cytuno i dalu’r Cyflog Byw i aelodau o’u tîm.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymgymryd â’r Comisiwn Gwaith Teg, a’r camau sydd angen i ni eu cymryd er mwyn gwneud Cymru yn wlad o Waith Teg. Un o’r camau cyntaf fydd i bob cwmni sy’n derbyn arian cyhoeddus dalu’r cyflog byw gwirioneddol. Mae nifer y cwmnïau sy’n talu’r cyflog byw yn parhau i gynyddu, ac rydw i’n falch o weld bod Trafnidiaeth Cymru yn dod yn un o’r cwmnïau hynny.”

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod Trafnidiaeth Cymru yn Gyflogwr Cyflog Byw. Wrth i ni wella ac esblygu fel sefydliad, bydd ein staff yn rhan hollbwysig o’n llwyddiant ac rydyn ni eisiau i’n holl staff gael gyrfaoedd boddhaus, ac iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

“Rydyn ni’n sefydliad modern sydd â phwrpas cymdeithasol, ac yn ychwanegol i’r cyhoeddiad hwn rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi cyfranogi yn y gymuned drwy gynnig i’n staff hyd at dri diwrnod o dâl i wirfoddoli yn eu cymunedau lleol.”

Dywedodd Katherine Chapman, Cyfarwyddwr Living Wage Foundation:

“Rydyn ni wrth ein boddau bod Trafnidiaeth Cymru wedi ymuno â’r mudiad o dros 5,500 o gyflogwyr cyfrifol ledled y DU sy’n ymrwymo’n wirfoddol i fynd gam ymhellach nag isafswm y llywodraeth i sicrhau bod eu staff yn ennill digon o gyflog i fyw arno.

“Maen nhw’n ymuno â’r miloedd o fusnesau bach, ynghyd ag enwau cyfarwydd fel IKEA, Maes Awyr Heathrow, Barclays, Clybiau Pêl-droed Chelsea ac Everton a llawer iawn mwy. Mae’r busnesau hyn yn cydnabod bod talu’r Cyflog Byw gwirioneddol yn un o nodweddion cyflogwr cyfrifol, ac maen nhw’n credu fel Trafnidiaeth Cymru bod diwrnod caled o waith yn haeddu tâl teg.”

Nodiadau i olygyddion


Nodiadau i Olygyddion

Gwybodaeth am y Cyflog Byw

Y Cyflog Byw gwirioneddol yw’r unig gyfradd sy’n cael ei gyfrifo yn ôl yr hyn sydd ei angen ar bobl i gael dau ben llinyn ynghyd. Mae’n rhoi meincnod gwirfoddol i gyflogwyr sy’n dewis gwneud safiad drwy sicrhau bod eu staff yn ennill cyflog sy’n talu’r costau a’r pwysau maent yn eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd.

Ar hyn o bryd yn y DU, y Cyflog Byw ydy £9.00 yr awr. Mae cyfradd Cyflog Byw ar wahân ar gyfer Llundain, sef £10.55 yr awr, er mwyn adlewyrchu costau uwch trafnidiaeth, gofal plant a thai'r brifddinas. Mae’r ffigurau hyn yn cael eu cyfrifo’n flynyddol gan y Resolution Foundation, ac yn cael eu goruchwylio gan y Comisiwn Cyflog Byw ar sail y dystiolaeth orau sydd ar gael am safonau byw yn Llundain ac yn y DU.

Living Wage Foundation yw’r sefydliad sydd wrth wraidd symudiadau busnesau, sefydliadau, ac unigolion sy’n ymgyrchu dros y syniad sylfaenol bod diwrnod caled o waith yn haeddu tâl teg. Mae’r Living Wage Foundation yn cael ei arwain a’i gynghori gan y Cyngor Ymgynghorol Cyflog Byw. Mae’r Sefydliad yn cael ei gefnogi gan ein prif bartneriaid: Aviva; IKEA; Sefydliad Joseph Rowntree; KPMG; Linklaters; Nationwide; Nestle; Sefydliad Resolution; Oxfam; Trust for London; Ymddiriedolaeth Iechyd Pobl; a Queen Mary, Prifysgol Llundain.

Beth am gyflog byw cenedlaethol y Llywodraeth?
Ym mis Gorffennaf 2015, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys y byddai Llywodraeth y DU yn cyflwyno ‘cyflog byw cenedlaethol’ gorfodol. Y gyfradd newydd hon gan y Llywodraeth yw’r gyfradd newydd isafswm cyflog ar gyfer staff sydd dros 25 oed. Cafodd ei gyflwyno ym mis Ebrill 2016, a'r gyfradd o Fis Ebrill 2019 fydd £8.21 yr awr. Mae’r gyfradd yn wahanol i’r cyfraddau Cyflog Byw sy’n cael eu cyfrifo gan y Living Wage Foundation. Mae cyfradd y llywodraeth yn seiliedig ar enillion canolrifol, tra bod cyfraddau Living Wage Foundation yn cael eu cyfrifo yn ôl costau Byw yn Llundain a’r DU.

Llwytho i Lawr