Skip to main content

Transport for Wales celebrates Disability Confident recognition

03 Rhag 2021

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn dathlu cydnabyddiaeth statws Lefel 3: Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau.

Cafodd y cynllun cyflogwr Hyderus o ran Anabledd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ei greu fel ffordd o greu newid, drwy annog cyflogwyr i feddwl yn wahanol am anabledd a chymryd camau i wella sut maent yn recriwtio, yn cadw ac yn datblygu pobl anabl.

Er bod dros 20,000 o sefydliadau wedi cofrestru ar y cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd yn gyffredinol, dim ond 1.9% o sefydliadau sydd wedi cyflawni lefel uchaf y cynllun. Mae TrC bellach yn un o 57 sefydliad ledled Cymru sydd wedi cael eu cydnabod.

Mae TrC yn cael ei ddatblygu gan ddilyn egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), ac mae’n croesawu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn llawn ac yn gwreiddio hynny yn niwylliant y gweithle.

Ers cyhoeddi’r Amcanion Cydraddoldeb Strategol ym mis Mehefin 2020, mae TrC wedi sefydlu grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, lle mae cydweithwyr yn cynrychioli elfennau o nodweddion gwarchodedig fel aml-ddiwylliant, aml-genhedlaeth, rhywedd, anabledd ac LGBTQ+.

Mae statws Hyderus o ran Anabledd yn cyd-fynd ag ymrwymiad TrC i Lwybr Newydd, strategaeth drafnidiaeth Cymru, gan adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth Cymru a’r cymunedau a wasanaethir gan wasanaethau TrC.

Bydd TrC hefyd yn goleuo ei bencadlys yn Llys Cadwyn ym Mhontypridd yn borffor ddydd Gwener 3 Rhagfyr 2021 i nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau. Mae #PurpleLightUp yn ymgyrch fyd-eang sy’n dathlu ac yn tynnu sylw at gyfraniad economaidd y 386 miliwn o weithwyr anabl ledled y byd.

Dywedodd Michael Evans, cadeirydd Elfen Anabledd Trafnidiaeth Cymru:

“Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i arwain y ffordd yn ein cymuned. Mae cael y lefel uchaf o gydnabyddiaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau nid yn unig yn dangos i’n gweithwyr ein hymrwymiad, ond hefyd i bob gweithiwr yn y dyfodol fod TrC yn amgylchedd gwaith cynhwysol sy’n ymdrechu’n gyson i wella ei hun.

“Hoffai TrC a’n partneriaid allanol ddiolch o galon i bawb sy’n ymwneud â’r statws cydnabyddiaeth Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Mae eich ymgysylltiad, eich ymrwymiad a’ch angerdd wedi bod yn adlewyrchu'r ffordd rydyn ni’n gweithio yma yn TrC.”

Dywedodd Rachael Holbrook, Partner Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant TrC:

“Mae TrC yn sefydliad cwbl gynhwysol, lle mae pob cydweithiwr yn cael ei drin yn gyfartal gyda pharch, a lle mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu. Mae bod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd yn rhan annatod o’n gwerthoedd a’r gwaith ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant rydyn ni’n ei wneud nawr ac yn y dyfodol. Mae’n wych gweld llwyddiannau ein gweithgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cael eu cydnabod i’n helpu i ddod yn gyflogwr mwy cynhwysol.

“Rydyn ni hefyd yn falch ein bod ni’n cefnogi #PurpleLightUp ac yn cydnabod cyfraniad gweithwyr anabl, nid dim ond yma yng Nghymru, ond ledled y byd. Braf fydd gweld ein pencadlys ym Mhontypridd yn cael ei oleuo’n borffor ar gyfer y dathliad byd-eang hwn.”