Skip to main content

Transport for Wales shortlisted by Construction Excellence in Wales Awards

02 Tach 2021

Llwyddodd Trafnidiaeth Cymru (TrC) a'u partner cyflenwi Alun Griffiths Ltd gyrraedd rhestr fer a dod yn ail yng Ngwobrau Adeiladu Rhagoriaeth Cymru eleni am brosiect newydd yng ngorsaf Bow Street.

Cafodd y prosiect, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion ac a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth, ei enwebu ar gyfer y categori ar gyfer y Wobr Integreiddio a Gweithio Cydweithredol.

Roedd y gwaith yn cynnwys adeiladu ac ailagor yr orsaf bresennol hon ar Linell y Cambrian rhwng gorsafoedd rheilffordd Borth ac Aberystwyth.  Gan gynnwys maes parcio newydd, cyfnewidfa fysiau a man storio beiciau, bydd yr orsaf yn cynyddu hygyrchedd i'r rhwydwaith reilffyrdd, yn gwella integreiddio trafnidiaeth ac yn cynnig ffordd arall o deithio yn hytrach na defnyddio'r car.

Wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth, darparwyd gorsaf newydd Bow Street gan Trafnidiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion, a phartner cyflenwi TrC, Alun Griffiths Ltd.

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Rhaglen Rheilffordd TrC; “Rwy’n eithriadol o falch o’r timau am gyrraedd y rhestr fer ac am ddod yn ail yn y categori hwn.  Dangoswyd gwaith caled ac ymddygiadau cydweithredol iawn yn ystod pob cam o'r prosiect hynod heriol hwn, prosiect adeiladu oedd yn anoddach gan ei fod yn mynd rhagddo yn ystod pandemig byd-eang COVID-19.

“Hoffai TrC a'i bartneriaid longyfarch enillwyr y categori hwn, Ysbyty Calon y Ddraig, prosiect a wnaeth – heb amheuaeth - gyfrannu at arbed degau o filoedd o fywydau yn ystod y pandemig.”

Llwytho i Lawr