Skip to main content

Transport for Wales advises passengers not to travel by rail on strike days and to expect further disruption

15 Meh 2022

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn cynghori cwsmeriaid i beidio â theithio ar y trên ar 21, 23 a 25 Mehefin, gan fod y rhan fwyaf o’r gwasanaethau rheilffordd wedi’u gohirio o ganlyniad i weithredu diwydiannol yn sgil yr anghydfod rhwng RMT a Network Rail.

Oherwydd y tarfu pellach a achosir, maent hefyd yn cynghori cwsmeriaid i beidio teithio ar y trên oni bai ei bod hi’n hanfodol eu bod yn gwneud hynny.

Nid oes anghydfod rhwng Trafnidiaeth Cymru a’r RMT, ond mae’r gweithredu diwydiannol yn golygu na allant weithredu gwasanaethau rheilffordd ar seilwaith Network Rail.

Yr unig wasanaethau a fydd yn rhedeg ar 21 a 23 Mehefin fydd gwasanaeth llai rhwng Radur a Threherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful, gyda gwasanaethau bws yn lle trên rhwng Radur a Chaerdydd Canolog.

Ar 25 Mehefin, bydd hyn yn cael ei leihau ymhellach i wasanaethau rhwng Radur a Threherbert, Aberdâr a Phontypridd, gyda bysiau yn lle trên yn gweithredu rhwng Radur a Chaerdydd Canolog, a rhwng Pontypridd a Merthyr Tudful oherwydd y gwaith trawsnewid parhaus ar gyfer Metro De Cymru.

Bydd yr holl wasanaethau eraill yn cael eu hatal, gan y rheolir gwaith signalau a seilweithiau eraill gan Network Rail - cwmni y mae'r gweithredu diwydiannol yn effeithio arno.

Mae disgwyl hefyd y bydd tarfu ar y dyddiau cyn ac ar ôl y gweithredu diwydiannol, gyda disgwyl yr effeithir yn arbennig ar wasanaethau ben bore.  Mae disgwyl hefyd i drenau fod yn hynod o brysur drwy gydol yr wythnos.

O ganlyniad, mae Trafnidiaeth Cymru yn cynghori cwsmeriaid i ddim ond defnyddio’r trên os yw hi’n hanfodol eu bod yn gwneud hynny ar 20, 22, 24 a 26 Mehefin ac i beidio â theithio o gwbl ar y trên ar 21, 23 a 25 Mehefin.

Bydd manylion llawn yr amserlen ar gyfer y dyddiau hyn ar gael ar 16 Mehefin.  Gall cwsmeriaid ddod o hyd i’r wybodaeth ar wefannau TrC, Traveline a National Rail gan ddefnyddio’r cynlluniwr taith.

Tocynnau

Gall cwsmeriaid sydd â thocynnau cyfredol nad ydynt yn docyn tymor sy’n ddilys ar gyfer teithio o ddydd Mawrth 21 Mehefin i ddydd Sadwrn 25 Mehefin ddefnyddio’r tocynnau hynny unrhyw bryd rhwng dydd Llun 20 Mehefin a dydd Llun 27 Mehefin.  Fel arall, gall cwsmeriaid hawlio ad-daliad llawn, heb unrhyw ffi weinyddol.   Gall deiliaid tocyn tymor wneud cais am iawndal drwy Ad-daliad am Oedi (Delay Repay).

Yn y cyfamser, ni fydd Trafnidiaeth Cymru yn gwerthu tocynnau Ymlaen Llaw (Advance) ar gyfer y tri dyddiad streic cyntaf er mwyn lleihau nifer y bobl yr effeithir arnynt.  Cynghorir cwsmeriaid i barhau i wirio gwefannau TrC neu Traveline, a gwefannau gweithredwyr eraill, am ddiweddariadau.

Nodiadau i olygyddion


Dylid gwneud unrhyw geisiadau am gyfweliadau i Network Rail yn y lle cyntaf