Skip to main content

Transport for Wales publishes annual report for 2019/20

22 Gor 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru (TtC), y cwmni nid-er-elw sy’n mynd at i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ran trafnidiaeth yng Nghymru, wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2019/20.

Yn disgrifio llwyddiannau TrC yn ystod y flwyddyn ariannol ynghyd â’i gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol, mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu sut mae’r cwmni’n parhau i addasu i bandemig y coronafeirws a sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus mor ddiogel â phosibl. 

Mae rhai o'r prif brosiectau sydd wedi cael eu darparu gan TrC dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys buddsoddi yn y fflyd gwerth miliynau o bunnoedd, cynyddu gwasanaethau trenau ar draws y rhwydwaith gyda 186 o wasanaethau ychwanegol, darparu capasiti ar gyfer 6,500 o gymudwyr ychwanegol yr wythnos ar Linellau’r Cymoedd cyn y coronafeirws, gweithredu Gweledigaeth Gwella Gorsafoedd gwerth miliynau o bunnoedd, dechrau adeiladu gorsaf reilffordd newydd Bow Street gwerth £8 miliwn a rhedeg gwasanaethau trên uniongyrchol rhwng gogledd Cymru a Lerpwl am y tro cyntaf ers 40 mlynedd.  

Cymerodd TrC gam mawr ymlaen ym mis Mawrth 2020, gan wario £516 miliwn i brynu rheilffyrdd Aberdâr, Coryton, Merthyr Tudful, Rhymni a Threherbert (Llinellau Craidd y Cymoedd), gan alluogi’r cwmni i ddechrau adeiladu Metro De Cymru.

Fe wnaethon nhw hefyd ddechrau adeiladu’r Ganolfan Rheoli’r Metro newydd gwerth £100 miliwn yn Ffynnon Taf ac agor y Ganolfa Seilwaith Metro yn Nhrefforest, a fydd yn chwarae rhan hollbwysig wrth adeiladu’r Metro.  Bydd y gwaith trawsnewid yn dechrau ar 3 Awst 2020.

Mae nifer o brosiectau Metro De Cymru wedi’u hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Gwariodd TrC gyfanswm o £796 miliwn, gyda £516 miliwn ar brynu Llinellau Craidd y Cymoedd, £187 miliwn ar wasanaeth trên Cymru a’r Gororau a £28 miliwn ar brosiectau a gweithredu gwasanaethau.

Wrth i’w cylch gwaith gan Lywodraeth Cymru barhau i ehangu, ar y cyd â'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru a Llywodraeth Cymru, cyhoeddodd TrC dros 600,000 o Gardiau Teithio Rhatach ar eu newydd wedd i ddefnyddwyr o Fôn i Fynwy.

Mae’r cwmni hefyd wedi dechrau cynnig gwasanaethau arlwyo ar y trên ar wasanaethau trên Cymru a’r Gororau ac ymunodd dros 100 o weithwyr arlwyo â thîm TrC. Mae TrC bellach yn gweithredu ei gynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid y gwasanaeth, trwy weithio gyda chyflenwyr bwyd a diod lleol.

Wrth roi sylwadau ynghylch adroddiad blynyddol TrC ar gyfer 2019/20, dywedodd Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru James Price:

“Fe wnaeth TrC gynnydd sylweddol yn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth integredig Cymru yn 2019/20 gan gyrraedd cerrig milltir pwysig, fel prynu Llinellau Craidd y Cymoedd, diolch i frwdfrydedd ac ymroddiad ein gweithwyr a’n partneriaid. 

“Rydyn ni i gyd yn byw trwy gyfnod anodd ac mae ein hadroddiad blynyddol hefyd yn esbonio sut mae TrC yn addasu er mwyn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gallu teithio mor ddiogel â phosib ac ein bod ni’n gallu parhau i ddarparu rhaglenni a phrosiectau allweddol.

Ychwanegodd Cadeirydd TrC, Scott Waddington:

“Ym mlwyddyn ariannol 2018/19 fe wnaethon ni gyflwyno’r sylfaeni cywir ar gyfer cyflawni ein strategaeth uchelgeisiol ac yn 2019/20 fe wnaethon ni ddechrau cyflawni rhaglen sylweddol o newid a buddsoddiad. 

“Rydw i’n falch bod ein hail adroddiad blynyddol yn dangos bod TrC yn cyflawni prif elfennau ein strategaeth uchelgeisiol er gwaethaf yr heriau rydyn ni’n eu hwynebu ar hyn o bryd. Mae ein hadroddiad blynyddol yn gyfle gwych i rannu ein stori mewn ffordd agored a thryloyw.

Dywedodd Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Mae trafnidiaeth y chwarae rhan allweddol yn llunio ein bywydau bob dydd. Mae system drafnidiaeth dda yn ganolog i sicrhau economi fywiog a chyfiawnder cymdeithasol; darparu’r gwasanaethau sydd eu hangen arnon ni i gadw’n iach , i ddysgu, i gael mynediad at waith ac i greu ffyniant gyda’r amgylchedd cywir i fusnesau dyfu a ffynnu.

“Gyda’n partneriaid cyflenwi, rydyn ni’n adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth i bobl Cymru sy’n ddiogel, yn ddibynadwy, yn fforddiadwy ac yn garbon isel. Bydd yn rhwydwaith trafnidiaeth y bydd pobl Cymru yn falch ohono.

Mae adroddiad blynyddol TrC ar gyfer 2019/20 ar gael ar trc.cymru.

Llwytho i Lawr