02 Hyd 2019
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC), y cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ran trafnidiaeth yng Nghymru, wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol a datganiadau ariannol ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19.
Mae’r adroddiad cynhwysfawr yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd mae TrC yn ei wneud o ran trawsnewid trafnidiaeth i bobl, cymunedau a busnesau Cymru. Mae hefyd yn datgelu rhai o gynlluniau uchelgeisiol y cwmni ar gyfer y dyfodol.
Gwariodd TrC £151 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol, â’r rhan fwyaf ohono’n cael ei fuddsoddi yng ngwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau. Roedd y gwariant hwn hefyd yn cynnwys uwchraddio seilwaith, sy’n rhan o’r ymrwymiad gwerth £738 miliwn i Fetro De Cymru. Mae nifer o brosiectau Metro De Cymru wedi’u hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Mae’r cwmni sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnig y gwasanaeth gorau posib cyn gynted â phosib i’w gwsmeriaid, ac fe ddechreuodd adfywio ei wasanaethau yn ystod y flwyddyn. Dechreuodd TrC fuddsoddi £40 miliwn i wella ei fflyd bresennol ac ariannu gwasanaethau ychwanegol, gwella’r profiad i gwsmeriaid a gwella hygyrchedd.
Gan gydnabod bod gan bob rhanbarth yng Nghymru ei gyfleoedd a’i heriau ei hun, agorodd TrC ei uned fusnes Gogledd Cymru yn 2018 o dan arweiniad Cyfarwyddwr Datblygu Gogledd Cymru, Lee Robinson.
Mae buddsoddiad cyhoeddus â phwrpas cymdeithasol yn rhan hanfodol o ddull gweithredu Llywodraeth Cymru i reilffyrdd, ac yn 2018/19 penododd TrC nifer o gyflenwyr i’w Fframwaith Cyflenwi Seilwaith Trafnidiaeth Gynaliadwy (STRiDe). Mae’r Fframwaith yn galluogi cyflenwyr lleol i elwa ar fuddsoddiadau TrC.
Mae TrC yn gyflogwr teg, cynhwysol a blaengar ac mae’n datblygu partneriaeth gymdeithasol effeithiol sy’n cydnabod yr holl undebau llafur perthnasol.
Mae popeth mae TrC yn ei wneud yn cefnogi polisïau Llywodraeth Cymru ac mae TrC yn chwarae ei rhan wrth gyflawni Ffyniant i Bawb – y strategaeth genedlaethol i Gymru. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol hefyd wrth galon gweithgareddau TrC. Mae adroddiad blynyddol a datganiadau ariannol TrC yn amlinellu cynnydd yn erbyn y rhain a pholisïau allweddol eraill fel y Ddeddf Teithio Llesol a’r Tasglu Gweinidogol: Ein Cymoedd Ein Dyfodol
Wrth roi sylwadau ynghylch adroddiad blynyddol a datganiadau ariannol cyntaf TrC, dywedodd James Price, Prif Weithredwr TrC:
“Mae TrC yn sefydliad agored a thryloyw sy’n gweithio drwy gydweithredu ac rwy’n gobeithio y bydd ein hadroddiad blynyddol a datganiadau ariannol yn dangos y cynnydd rydym yn ei wneud i greu rhwydwaith trafnidiaeth integredig yng Nghymru.
“Roedd 2018/19 yn flwyddyn brysur o drawsnewid a thwf i TrC. Wrth edrych i’r dyfodol, mae graddfa’r hyn mae angen i ni ei gyflawni heb ei thebyg o'r blaen, ond mae'r tîm yn TrC yn canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth i bobl, cymunedau a busnesau Cymru.”
Ychwanegodd Cadeirydd TrC, Scott Waddington:
"Roedd 2018/19 yn flwyddyn dyngedfennol i TrC wrth i ni gymryd awenau gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a hoffwn ddiolch i’n rhanddeiliaid lu am eu cefnogaeth, eu craffter a’u cymorth parhaus.
“Rydym wedi rhoi’r sylfeini cywir yn eu lle ac er bod ein strategaeth yn un uchelgeisiol rwy’n hyderus ein bod yn barod am yr heriau sydd i ddod wrth i ni ddechrau ar gam cyflawni allweddol yn ein taith.”
Wrth groesawu cyhoeddiad adroddiad blynyddol a datganiadau ariannol cyntaf TrC, dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:
“Mae rhwydwaith trafnidiaeth effeithiol yn un o gonglfeini allweddol economi sy’n gweithio i bawb, ac rydym ni ar daith a fydd yn gwella ein gwasanaethau rheilffyrdd yn aruthrol. Anghenion ein cwsmeriaid sydd wrth galon y trawsnewidiad hwn ac rwy’n falch eu bod yn dechrau gweld y buddion yn barod.”
Mae adroddiad blynyddol a datganiadau ariannol 2018/19 TrC ar gael yn www.tfw.gov.wales/cy
Nodiadau i olygyddion
Datganiadau cefnogi
Sophie Howe, Comisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
“Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wrth galon y fasnachfraint rheilffyrdd i Gymru a’r gororau. Rwyf wedi fy nghalonogi gan gynlluniau Trafnidiaeth Cymru i gyfrannu at Gymru lewyrchus drwy roi cyfleoedd gwaith i fusnesau bach, mentrau cymdeithasol a chyfrannu at Gymru gydnerth drwy addo y bydd yr holl ynni ar gyfer gorsafoedd a llinellau uwchben yn dod o ynni di-garbon. Wrth fapio’r cyfraniadau i’r saith nod llesiant, rwy’n falch o weld bod Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno ei ymrwymiad ar ffurf dyluniad tryloyw, hawdd ei adnabod.”
Mick Whelan, Ysgrifennydd Cyffredinol, ASLEF
“Mae Trafnidiaeth Cymru wedi mabwysiadu dull gwahanol o feithrin perthnasoedd ag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys undebau llafur. Rydym ni’n falch fod ASLEF eisoes wedi cael lefelau uchel o ymgysylltiad cadarnhaol â Trafnidiaeth Cymru a'r ffaith fod Cymru’n datblygu polisi trafnidiaeth mwy integredig.”
Y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd, Cyngor Rhondda Cynon Taf a Chadeirydd, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
“Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gynlluniau uchelgeisiol i adfywio ein Bwrdeistref Sirol i ddenu cannoedd o swyddi crefftus o ansawdd uchel, ac mae Llys Cadwyn wrth galon ein cynlluniau mawr ar gyfer Pontypridd. Mae Trafnidiaeth Cymru yn trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a bydd ein Bwrdeistref Sirol yn elwa’n aruthrol o Fetro De Cymru. Rydym ni hefyd yn falch y bydd Pontypridd maes o law yn gartref i sefydliad pwysig ac arloesol sydd gyda’r gorau yn y byd.”
Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu TrC ar gyfer Gogledd Cymru
“Dros y blynyddoedd nesaf, bydd TrC yn gwella ac yn ehangu’r rhwydwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru wrth i ni gydweithio â phartneriaid i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Metro Gogledd Cymru, a chreu rhwydwaith trafnidiaeth integredig ar gyfer Cymru gyfan. Bydd ein Huned Fusnes yng Ngogledd Cymru yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o wneud yn siŵr bod y rhwydwaith yn bodloni anghenion lleol.”