30 Meh 2023
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi ei gynllun gwella 5 cam ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd ar y lein rhwng Wrecsam a Bidston yng Ngogledd Cymru a'r gororau.
Yn ddiweddar, ymwelodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru, â Gogledd Cymru i weld y trenau Dosbarth 230 newydd sy'n gwasanaethu ar hyd y lein. Cafodd hefyd daith o amgylch y depo trenau ym Mhenbedw, depo y mae TrC wedi buddsoddi ynddo'n ddiweddar i helpu i gynnal y trenau newydd hyn.
Mae'r cynllun 5 cam yn cynnwys gwella dibynadwyedd y trenau Dosbarth 230 newydd trwy fuddsoddi yn y depo newydd ym Mhenbedw, gwella gwasanaeth cwsmeriaid a’r gwybodaeth sydd ar gael yn ystod cyfnod o darfu a chadw'r holl wasanaethau bws yn lle trên i'r isafswm.
Gan ddysgu o adborth cwsmeriaid, mae TrC hefyd wedi ymrwymo i wneud prynu tocynnau mor hawdd â phosibl ac mae'n adolygu'r holl opsiynau tocynnau, yn ogystal ag adolygu'n barhaus yr amserlen reilffyrdd.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Rydym yn deall pa mor rhwystredig mae hi wedi bod dros y misoedd diwethaf 'ma i deithwyr sy'n teithio ar hyd y lein rhwng Wrecsam a Bidston. Yn gyntaf, roedd rhaid gohirio'r gwasanaeth trên oherwydd mater diogelwch gyda pheiriannau ar ein trenau. Arweiniodd hyn at orfod rhoi gwasanaeth bws yn lle trên ar waith.
“Yn dilyn hynny, fe wnaethon ni ddechrau rhedeg ein trenau Dosbarth 230 wedi'u hadnewyddu ar hyd y lein ond yn anffodus, fe gawson ni broblemau technegol ar y dechrau.
“Fodd bynnag, rwy'n falch o gyhoeddi heddiw bod gennym bellach gynllun gwella 5 cam ar waith a fydd yn canolbwyntio ar sefydlogi dibynadwyedd ein trenau newydd a gwella'r gwasanaeth. Rwyf wedi ymweld â'r depo newydd ym Mhenbedw; bydd hyn yn ein galluogi i fod yn fwy ymatebol wrth fynd ati i gynnal a chadw ein trenau Dosbarth 230; rwy'n argyhoeddedig ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni i wella’r gwasanaeth hwn dros y misoedd nesaf."
Nodiadau i olygyddion
Cynllun llawn ar gael yma:
Datganiad o ymrwymiadau Gogledd Cymru a’r Gororau
Heddiw, mae Lee Waters, Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, wedi dod â rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd i adolygu ymrwymiadau Trafnidiaeth Cymru i ddarparu’r gwasanaeth rheilffyrdd gorau posibl i Ogledd Cymru yn y tymor byr a’r tymor canolig.
Yn dilyn y gweithdy, mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi’r ymrwymiadau canlynol:
- Byddwn yn penodi swyddog llwybrau penodol i ymchwilio’n ddwfn i’r problemau ar y llinell a datblygu ffocws hirdymor ar berfformiad a dibynadwyedd
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn penodi uwch weithiwr rheilffyrdd proffesiynol i gydlynu’r ffrydiau gwaith sy’n gysylltiedig â darparu’r gwasanaethau dibynadwy o’r radd flaenaf y mae defnyddwyr y rheilffordd yn eu haeddu.
Bydd y swydd hon am gyfnod cychwynnol o 3 mis rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref a bydd yn cynnwys creu perthnasoedd agos a chynhyrchiol â rheolwyr a thimau lleol, gan gynnwys Fflyd, Gyrwyr, Goruchwylwyr, Rheolaeth, Gorsafoedd, Diogelu Refeniw, depo Gogledd Penbedw, Glanhawyr Ar y Trenau, Perfformiad, Cyfleusterau, Parodrwydd Gweithrediadau
Bydd y rôl draws-swyddogaethol hon yn datblygu cynllun i ymgorffori’r holl gynlluniau gwella sydd wedi’u cynllunio i adfer sefydlogrwydd wrth ddarparu gwasanaethau.
Bydd y rôl hefyd yn cynnwys datblygu cysylltiadau â rhanddeiliaid lleol, gwleidyddion, cynghorwyr a chynrychiolwyr grwpiau defnyddwyr i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am yr hyn rydym yn ei wneud ar y cyd â rheolwyr rhanddeiliaid TrC.
Bydd cynllun gwella cyhoeddus lefel uchel wedyn yn cael ei ddatblygu a’i rannu â rhanddeiliaid yn rheolaidd.
- Byddwn yn darparu’r lefel uchaf bosibl o ddibynadwyedd i’n fflyd Class 230 a gwneud y gorau o’r ddarpariaeth bresennol
Bydd ein Swyddog Llwybr yn gweithio gyda thimau rheng flaen i gyflawni camau peirianneg clir i wella dibynadwyedd ac argaeledd ein fflyd Class 230. Mae’r pum trên wedi’u neilltuo i’r rheilffordd ac fe’u prynwyd yn benodol gan Lywodraeth Cymru i wasanaethu’r rheilffordd a chaniatáu gwasanaethau ychwanegol.
Bydd gwneud y gorau o’r gwasanaeth 1 trên yr awr yn cynnwys:
- (i) Rheoli ein gallu i ddarparu Class 230 sy’n gwbl weithredol ar y lein
- (ii) Gweithio gyda’n partneriaid yn Network Rail ar ein hawliau mynediad i amserlenni
- (iii) Gwella dulliau gyrru, a sicrhau bod criwiau trenau yn gyfarwydd â’r unedau fel eu bod yn gallu rhoi’r perfformiad gorau, yn ogystal â chanfod problemau posibl yn gynt.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnal gwaith atgyweirio a chynnal a chadw “mewnol” i fynd i’r afael â rhai heriau technegol.
I’r perwyl hwn, rydym wedi buddsoddi yng nghyfleusterau’r depo yng Ngogledd Penbedw.
Mae defnyddio depo Penbedw yn golygu nad oes angen i’r trenau Class 230 deithio i Gaer mwyach ar gyfer cynnal a chadw a gwasanaethu.
Rydym wedi sefydlu rheolwr a thîm o dechnegwyr sy’n gweithio bob awr o’r dydd i ddarparu gwaith cynnal a chadw rhagorol i sicrhau ein bod yn cyflawni’r lefelau uchaf posibl o ran dibynadwyedd, ac yn gwella ein sgôr Milltiroedd fesul Digwyddiad Technegol (lMTIN).
Wrth symud ymlaen, byddwn yn ystyried opsiynau cynnal a chadw tymor hir, yn fewnol a gydag arbenigedd trydydd parti, i sicrhau’r lefelau uchaf o ddibynadwyedd, effeithlonrwydd a gwerth i’n cwsmeriaid.
- Byddwn yn sicrhau bod gwasanaethau bysiau yn lle trenau yn cael eu defnyddio cyn lleied â phosibl.
Gan gydnabod yr effaith mae gwasanaethau o’r fath yn eu cael ar gefn gwlad gogledd Cymru, a’r heriau y mae hyn yn eu creu i gwsmeriaid, rydym yn ymrwymo i redeg gwasanaeth rheilffordd lle bynnag y gallwn.
Pan fydd prinder fflydoedd mewn ardaloedd eraill, byddwn yn ystyried yn ofalus iawn effaith ailddyrannu trenau a dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddwn yn gwneud hynny. Bydd ein Swyddog Llwybr yn defnyddio ein gwasanaethau fel cwsmer er mwyn deall yr effaith mae canslo yn ei gael ar deithwyr.
Bydd y swyddog hefyd yn gweithio’n agos gyda’n darparwyr trafnidiaeth ffyrdd ar adegau lle nad oes modd osgoi defnyddio bysus yn lle trenau er mwyn i ni allu gwneud hyn yn wasanaeth sy’n wirioneddol gyfeillgar i gwsmeriaid.
Byddwn yn parhau i adolygu ein prosesau ac yn ymrwymo i ymgysylltu’n barhaus â’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth hwn.
- Byddwn yn adolygu ein hamserlen yn barhaus i sicrhau bod cwsmeriaid yn dod gyntaf
Mae angen i’n hamserlen a’r gwasanaethau rydym yn eu darparu ddiwallu anghenion cynifer â phosibl o’n cwsmeriaid, yn ogystal â darpar cwsmeriaid. Wrth gynllunio ein gwasanaethau a gweithio gyda rhanddeiliaid a grwpiau cwsmeriaid, rydym yn ymrwymo i adolygu ein gwasanaethau i sicrhau bod gennym y gwasanaethau iawn, yn galw yn y gorsafoedd iawn, ar yr adegau iawn.
Bydd trefniadau ar gyfer lle mae ein trenau yn galw ar wasanaethau allweddol yn parhau i gael eu hadolygu wrth i anghenion a gofynion cwsmeriaid ddatblygu.
Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, bydd ein Swyddog Llwybr yn gwneud argymhellion ar amserlenni’r dyfodol gan ystyried anghenion defnyddwyr y llinell, yn ogystal â’r hyn rydym yn hyderus y gallwn ei gyflawni ar gyfer patrwm gwasanaeth sylfaenol 1tph a’r cynllun trenau 2tph arfaethedig yn y dyfodol.
Gyda chymorth ein Swyddog Llwybrau, byddwn yn gweithio’n agosach fyth gyda’r Grwpiau Defnyddwyr Rheilffyrdd (Rail User Groups) i ddatblygu cynlluniau manylach eto, ac i greu ar y cyd, fetrigau allweddol.
- Rydym yn ymrwymo i adolygu ein prisiau a’n tocynnau ar hyd a lled gogledd Cymru er mwyn ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i brynu tocynnau a theithio.
Mae cael adborth gan gwsmeriaid yn hanfodol, yn enwedig o ran hwylustod prynu a defnyddio tocynnau, ac rydym yn ymrwymo i fynd i’r afael â’r materion sy’n cael eu codi ar y llinell ochr yn ochr â phartneriaid yn y diwydiant.
Rydym yn gweld mwy a mwy o alw gan y cyhoedd am docynnau symudol, ac rydym yn ymchwilio i bob opsiwn i wneud y rhain mor hawdd eu defnyddio â phosibl wrth deithio i ranbarthau trafnidiaeth eraill yn yr ardal. Rydym yn ymwybodol bod problem o ran defnyddio rhai o’r tocynnau symudol (M) hyn ar rwydwaith Mersey Rail ac rydym yn ymrwymo i weithio gyda’n partneriaid yn y rhanbarth hwnnw i ddatrys hyn cyn gynted â phosibl.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Pay Zone ar draws Cymru a’r Gororau i archwilio cyfleoedd i bobl brynu tocynnau trên cerdyn mewn busnesau lleol. Mae hyn yn rhoi mwy o hyder i brynu cyn i chi fynd ar y trên a bydd hefyd yn rhoi hwb economaidd i siopau lleol. Rydym wedi ymrwymo i archwilio’r opsiynau hyn ar y lein.