Skip to main content

Transport for Wales publishes annual report for 2020/21

22 Gor 2021

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol a’i ddatganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2021, blwyddyn pan drosglwyddwyd y rheilffordd yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus a’r gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd fel rhan o adeiladu Metro De Cymru.

Fel dengys y set gyntaf o ddatganiadau ariannol cyfunol ar gyfer Grŵp Trafnidiaeth Cymru, mae'r ffigurau a ryddhawyd heddiw yn dangos cyfanswm gwariant a ariennir gan grant o £638m.  Dyma’r manylion:

  • £356m o gyllid refeniw ar gyfer darparu gwasanaethau i deithwyr rheilffordd. Roedd hyn yn cynnwys £176m o gymorth refeniw Covid-19 a chyllid mesurau brys eraill.
  • Cyllid cyfalaf o £88m ar gyfer darparu gwasanaethau i deithwyr rheilffordd, gan gynnwys prynu cerbydau, datblygu depos a gwella gorsafoedd.
  • Gwariant cyfalaf o £147m ar seilwaith rheilffyrdd a gwariant pellach o £47m ar brosiectau a gweithredu gwasanaethau.

Cynyddodd nifer staff TrC o 305 ym mis Mawrth 2020 i 481 ar 31 Mawrth 2021 yn dilyn penodi 112 o weithwyr a throsglwyddo 91 aelod o dîm glanhau Axel (gadawodd 27 o staff).  Fel is-gwmni Grŵp Trafnidiaeth Cymru, mae Transport for Wales Rail Limited yn cyflogi 2604 arall.

Roedd uchafbwyntiau 2020/21 yn cynnwys trawsnewid parhaus Llinellau Craidd y Cymoedd (CVL) er mwyn adeiladu Metro De Cymru a gwenud gwelliannau mawr i orsafoedd rheilffordd Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Wrecsam.  Hefyd, agorwyd yr orsaf reilffordd newydd gyntaf ar rwydwaith Cymru a'r Gororau ers 2015 yn Bow Street.

Elwodd cwsmeriaid rheilffyrdd o gapasiti a gwasanaethau ychwanegol yn sgil cyflwyno dau drên Dosbarth 769 ar linell Rhymni a dechreuwyd profi trenau Dosbarth 230s hybrid yn barod ar gyfer y gwasanaeth ar linell Wrecsam-Bidston yn ddiweddarach eleni.  Hefyd, rydym wedi prynu pedwar trên Mark IV sydd eisoes wedi dechrau gwasanaethu.

Ym mis Mai 2020, lansiwyd fflecsi, gwasanaeth trafnidiaeth integredig, ymatebol i'r galw newydd TrC yn dilyn peilot cychwynnol yn Sir Benfro a Dyffryn Conwy.  Mae'n cael ei ddarparu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau tra bod 2020 hefyd wedi gweld  lansio cynllun rhannu beiciau trydan cyntaf Cymru yng ngorsaf reilffordd Penarth.  Roedd hyn o ganlyniad i lwyddiant y cynllun llogi beiciau pedal yng Nghaerdydd ac Abertawe.

Scott Waddington yw Cadeirydd TrC.  Dywedodd: “Mae 2020/21 wedi bod yn flwyddyn heb ei thebyg.  Fel sefydliad, mae Covid-19 wedi profi ein gwytnwch a'n hystwythder wrth i ni ymateb i'r amhariad sydd wedi effeithio ar ein pobl, cwsmeriaid, cymunedau a gwasanaethau.  O ganlyniad, rydym wedi newid yn fawr yn ystod y 12 mis diwethaf a bellach yn ffurfio Grŵp TrC yn dilyn trosglwyddo masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau i'n his-gwmni Transport for Wales Rail Limited ym mis Chwefror 2021.  Felly dyma ein set gyntaf o ddatganiadau ariannol cyfunol.

“Mae wedi bod yn gyfnod o heriau digynsail a newidiadau trawsnewidiol gyda’n cydweithwyr yn gweithio gyda’i gilydd i gadw Cymru i symud yn ddiogel wrth barhau i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru sef datblygu rhwydwaith trafnidiaeth mwy integredig sy’n hygyrch i bawb.  Mae hwn yn sefydliad sydd wedi newid yn fawr yn ystod y 12 mis diwethaf ond rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar gyflawni a hoffwn dalu teyrnged i'n cydweithwyr a'n partneriaid fel ei gilydd."

Dywedodd James Price, y Prif Weithredwr: “Gan weithio fel un tîm, rydym yn sbarduno gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o ansawdd uchel y gall pobl Cymru ymfalchio ynddo.  Yn wir, eleni gwelwyd sawl carreg filltir arwyddocaol yn esblygiad TrC.  Rydym bellach yn gyfrifol am Llinellau Craidd y Cymoedd yn dilyn y trosglwyddiad o Network Rail ym mis Mawrth 2020 cyn mynd ati i weithredu gwasanaeth rheilffordd Cymru a'r Gororau a chreu Transport for Wales Rail Limited ym mis Chwefror 2021.  Hefyd ymunodd tîm glanhau Axis a ni yn gynnar eleni wrth i ni ddarparu gwell gwasaneth i’n cwsmeriaid.

“Oherwydd Covid-19, mae 2020/21 wedi bod yn flwyddyn anodd i bawb ond mae ein tîm yn parhau i ganolbwyntio ar wneud y peth iawn i bobl Cymru; trawsnewid profiad y cwsmer a chreu dulliau teithio sy'n barhaus ac yn gynaliadwy.”