07 Meh 2021
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyflwyno gwell gwasanaeth rheilffordd rhwng Caerdydd a Chaergybi gyda mwy o gapasiti a cherbydau intercity wedi'u hadnewyddu'n llawn.
Gadawodd y trên intercity cyntaf Gaergybi am 5.34am (7 Mehefin) a chyrhaeddodd Gaerdydd am 9.58am, gan ddarparu cyswllt hanfodol rhwng y Gogledd a'r De.
Teithiodd Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru, ar y gwasanaeth cyntaf i'r de a dywedodd: “Mae cyflwyno'r trenau hyn o ansawdd uchel yn gam cadarnhaol arall tuag at annog mwy o bobl yn ôl ar y trên ar y daith boblogaidd hon drwy roi profiad mwy pleserus iddyn nhw.”
Cyhoeddodd Trafnidiaeth Cymru hefyd eu bod wedi llwyddo i brynu 30 o gerbydau intercity Mark 4 arall sy'n cael eu hadnewyddu'n llawn i safon uchel. Bydd hyn yn cynnwys pedwar trên pum cerbyd a fydd yn dechrau gweithredu rhwng Abertawe a Manceinion ym mis Rhagfyr 2022.
Bydd y trenau newydd yn cynnwys cerbydau Dosbarth Cyntaf, Wi-Fi am ddim drwyddi draw, gwell darpariaeth bwyd a diod gan gynnwys car bwffe, toiledau hygyrch a chyfleusterau newid babanod. Bydd lle i gadeiriau olwyn a seddau â blaenoriaeth ar gael hefyd. Prynwyd y cerbydau diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Meddai James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn parhau â'n cynlluniau i drawsnewid cludiant ar draws ein rhwydwaith a gwella profiad cwsmeriaid. Heddiw, rydym wedi cyflwyno rhagor o gerbydau Mark 4 ar y daith rhwng y gogledd a'r de a fydd yn gwella'r gwasanaeth.
“Rwy'n falch iawn hefyd o gyhoeddi ein bwriad i gyflwyno cerbydau intercity o'r radd flaenaf ar ein rhwydwaith o fewn y ddwy flynedd nesaf. Y siwrnai rhwng Abertawe a Manceinion yw un o'n rhai mwyaf poblogaidd, gan ddarparu cysylltiadau allweddol rhwng dinasoedd y De a gogledd-orllewin Lloegr. Trwy gyflwyno'r trenau hyn o ansawdd uchel, rydym yn cydnabod ei bwysigrwydd fel llwybr intercity ac yn cynnig dewis amgen mwy deniadol na theithio mewn car.
“Mae'r buddsoddiad mewn trenau o ansawdd uchel yn dangos ein bod yn rhagori ar ein hymrwymiad gwreiddiol i drawsnewid gwasanaeth rheilffordd Cymru a'r Gororau a darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i'n cwsmeriaid ledled ein rhwydwaith, gan gynnwys ar linell Calon Cymru a Gorllewin Cymru lle rydym yn uwchraddio ein cynlluniau gwreiddiol.”
Abertawe-Manceinion trenau intercity
Abertawe-Manceinion - Dosbarth Safonol
Abertawe-Manceinion - Dosbarth Cyntaf