21 Rhag 2021
Gofynnir i deithwyr rheilffordd wirio cyn teithio wrth i Trafnidiaeth Cymru gyhoeddi amserlen reilffordd frys o ddydd Mercher 22 Rhagfyr.
Mae hyn er mwyn paratoi ar gyfer cynnydd disgwyliedig yn y prinder staff oherwydd ymddangosiad yr amrywiad Omicron o Covid-19 a sicrhau y gall y cwmni barhau i ddarparu gwasanaethau dibynadwy trwy gydol y cam diweddaraf hwn o'r pandemig.
Mae TrC a Network Rail eisoes wedi gweld cynnydd sylweddol yn absenoldebau staff ers dechrau mis Rhagfyr ac mae hyn wedi dechrau effeithio ar wasanaethau rheilffyrdd.
Disgwylir i absenoldebau barhau i gynyddu'n gyflym dros yr wythnosau nesaf gyda'r risg o'r amrywiad Omicron ac felly bydd TrC yn cyflwyno amserlen ddiwygiedig dros dro dros gyfnod yr ŵyl.
Er y bydd y cwmni'n parhau i gynnig lefel sylweddol uwch o wasanaeth o'i gymharu â dechrau'r pandemig yn 2020, bydd yr amserlen newydd yn golygu gostyngiad ymylol mewn gwasanaethau. Mae hyn yn cyfateb i rhwng 10-15% o'r amserlen gyfredol ac wedi'i gynllunio i osgoi gorfod gohirio gwasanaethau ar fyr rybudd gymaint â phosibl. Ei nod yw rhoi mwy o ddibynadwyedd i gwsmeriaid, gan ganiatáu iddynt gynllunio eu teithiau yn effeithiol dros y cyfnod pwysig hwn.
Ar ben hynny, bydd y ein gwasanaethau cyntaf, olaf a'n gwasanaethau prysuraf yn parhau i weithredu lle bynnag y bo modd. Ni fydd unrhyw newid chwaith i lefel gyfredol y gwasanaeth a ddarperir fel rhan o’n hamserlen dydd Sul.
Bydd yr amserlen newydd yn parhau i fod yn gyfredol dros yr wythnosau nesaf ac yn cael ei hadolygu'n rheolaidd wrth i'r diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru fonitro'r effaith y mae'r amrywiad Omicron newydd hwn yn ei gael ar lefelau staffio.
Anogir pob cwsmer i wirio ar www.trc.cymru cyn teithio a dilyn y canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad TrC:
“I raddau helaeth, rydyn ni'n dal i ddelio â phandemig ac wedi gweld cynnydd mawr yn absenoldebau cydweithwyr dros yr wythnosau diwethaf. Ers dechrau mis Rhagfyr, mae nifer ein cydweithwyr rheilffyrdd sy'n absennol oherwydd COVID 19 wedi dyblu a bydd hyn yn parhau i gynyddu gyda'r risg barhaus o'r amrywiad Omicron newydd.
“Mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i redeg gwasanaethau mor ddibynadwy â phosibl i'n cwsmeriaid ac felly rydym yn cyflwyno amserlen newydd o ddydd Mercher 22 Rhagfyr, gan leihau'r risg o orfod canslo gwasanaethau ar fyr rybudd.
“Lle bynnag y gallwn ni, byddwn yn defnyddio unrhyw gerbydau ychwanegol sydd ar gael oherwydd yr amserlen lai i redeg trenau hirach nag arfer, i gynorthwyo gyda phellter cymdeithasol a darparu trafnidiaeth ar y ffordd ychwanegol, lle bynnag bo hynny'n bosibl.”
“Rydym yn gwerthfawrogi y bydd hyn yn rhwystredig i rai cwsmeriaid, ac nid ydym wedi gwneud y penderfyniad hwn ar chwarae bach. Gofynnwn i bob cwsmer wirio ar-lein cyn teithio a dilyn pob cyngor gan Lywodraeth Cymru.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’n holl gydweithwyr sy’n parhau i weithio dan amodau anodd.”
Dywedodd Rachel Heath, Rheolwr Gweithrediadau Network Rail ar gyfer Cymru a Western: “Mae ein cydweithwyr yn gweithio’n galed iawn mewn amgylchiadau heriol iawn ac yn ymroddedig i gadw’r wlad i symud, fel y gwnaethant pan oedd y pandemig ar ei anterth.
“Fodd bynnag, rydym ar hyn o bryd yn delio â lefelau uchel o salwch ar draws y diwydiant rheilffyrdd oherwydd y firws sydd, yn anffodus, yn golygu efallai y bydd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd, ar fyr rybudd, sy'n effeithio ar wasanaethau rheilffyrdd.
“Byddwn yn parhau i roi diweddariadau clir ac amserol ar unrhyw newidiadau a allai effeithio ar deithiau teithwyr a gofynnwn i bawb wirio eu taith cyn teithio.”
Bydd cwsmeriaid sydd eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer gwasanaethau y mae'r newid hwn yn effeithio arnynt yn gallu defnyddio eu tocynnau ar wasanaethau rheilffordd TrC eraill. Fel arall, byddant yn gallu gofyn am ad-daliad trwy ymweld â trc.cymru.