25 Chw 2022
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn dathlu cwblhau gwaith i adnewyddu ei fflyd o drenau pellter hir Class 158.
Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo yng nghyfleuster Arriva TrainCare yn Crewe ers dechrau 2020 i adnewyddu’r fflyd o 24 o drenau, sy’n gweithredu ar lwybrau ledled rhwydwaith Cymru a’r Gororau, gan gynnwys Rheilffordd y Cambrian yng Nghanolbarth Cymru a gwasanaethau i Ogledd a Gorllewin Cymru.
Ers i'r trên cyntaf ailddechrau rhedeg ym mis Chwefror 2020, mae cwsmeriaid wedi bod yn elwa ar gyfleusterau gwell, gan gynnwys pwyntiau gwefru USB, seddi wedi'u hail-orchuddio, carpedi newydd a gosodiadau mewnol newydd. Mae'r trenau hefyd wedi cael eu hailfrandio ar y tu allan gyda lifrai llwyd a choch TrC.
Mae'r gwaith wedi cael ei wneud ar wella dibynadwyedd y trenau, gyda gwella'r systemau trydanol, y system wresogi a'r system Diogelu Olwyn rhag Llithro (WSP). Bydd hyn yn sicrhau bod y trenau ar gael yn amlach ar gyfer gwasanaeth.
Mae'r gwaith yn rhan o raglen adnewyddu gwerth £40 miliwn Trafnidiaeth Cymru, sydd hefyd wedi cynnwys adnewyddu trenau Class 175, 150 a 153. Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn buddsoddi dros £800 miliwn ar fflyd o drenau newydd sbon, a fydd yn dechrau dod i wasanaeth ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn ddiweddarach yn 2022.
Dywedodd Jerry Howells, Pennaeth Rheoli Asedau TrC:
"Mae'n wych gallu cyflwyno'r gwelliannau hyn i'n cwsmeriaid, gwelliannau y maent yn disgwyl eu gweld ar rwydwaith rheilffyrdd modern, fel y dylent. Rydyn ni'n gwybod bod gallu teithio'n gyfforddus a gallu gwefru dyfeisiau wrth deithio yn hynod o bwysig i'n cwsmeriaid, p'un a ydyn nhw'n teithio am 20 munud neu bedair awr, ar gyfer busnes neu bleser.
Dywedodd Neil Morrey, Rheolwr Prosiect Adnewyddu TrC:
Mae adeiladu trenau newydd sbon yn cymryd amser i'w hadeiladu ac rydym am i'n cwsmeriaid gael profiad cyfforddus cyn gynted â phosibl. Rydym yn arbennig o falch ein bod wedi cyflawni'r gwaith hwn 102 diwrnod yn gynt na'r disgwyl ac o dan y gyllideb.