24 Awst 2020
Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o groesawu partneriaeth rheilffyrdd cymunedol newydd ar gyfer y De-orllewin, sydd â’r nod helpu cymunedau i elwa i'r eithaf ar eu gwasanaethau trenau.
Bydd y bartneriaeth rheilffyrdd cymunedol newydd, South West Wales Connected (SWW Connected), yn ymgysylltu â chymunedau ledled Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro i wneud y gorau o gyfraniad y rheilffyrdd at gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru.
Sefydlwyd SWW Connected gan Trafnidiaeth Cymru ac fe'i cynhelir gan 4theRegion, cynghrair aelodaeth sy'n ymroi i sicrhau newid cadarnhaol ar draws y rhanbarth. Mae wedi'i leoli mewn canolfan gymunedol bwrpasol yng ngorsaf drenau Abertawe, mewn ardal segur a ailddatblygwyd fel rhan o weledigaeth gwella gorsafoedd Trafnidiaeth Cymru.
Nod cyffredinol SWW Connected yw cysylltu cymunedau lleol â'u rheilffordd, sicrhau budd cymdeithasol ac economaidd a chynyddu'r defnydd o reilffyrdd yn y rhanbarth. Ymhlith pethau eraill, bydd yn hyrwyddo'r rheilffyrdd fel ffordd gynaliadwy, hygyrch ac iach o deithio, yn annog pobl leol a thwristiaid i ddefnyddio'r rheilffyrdd, ac yn helpu cymunedau a busnesau lleol i ymgysylltu â'r rhwydwaith trenau.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Rwy'n falch iawn o groesawu lansiad South West Wales Connected. Mae partneriaethau rheilffyrdd cymunedol yn rhan allweddol o'n gweledigaeth ehangach ar gyfer rheilffyrdd cymunedol, a dyma'r gyntaf o nifer o bartneriaethau newydd a gaiff eu lansio yn y blynyddoedd nesaf i gefnogi cymunedau lleol yn well ledled Cymru a'r Gororau.
“Mae'n hanfodol ein bod yn gwerthfawrogi'r cyfraniad y gall cymunedau ei wneud i'n rhwydwaith ac yn manteisio i'r eithaf ar y cyfraniad y gall ein gwasanaethau ei gynnig i gymunedau. Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â SSW Connected a'u helpu i gyflawni eu cynlluniau a'u huchelgeisiau cyffrous ar gyfer gweithio gyda chymunedau ledled y De-orllewin.”
Dywedodd Jennifer Barfoot, Swyddog Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol South West Wales Connected:
“Rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau sy’n wynebu ein cymunedau yn sgil Covid-19 ac mae gennym gyfle i helpu cymunedau i oresgyn yr heriau hynny. Drwy gysylltu ac annog busnesau a sefydliadau lleol i gydweithio, gallwn rymuso'r cymunedau hynny i gydweithio'n well ar bob math o faterion cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda chymunedau ar hyd a lled y De-orllewin."
Meddai Dawn Lyle, sylfaenydd a chadeirydd 4theRegion:
“Bydd South West Wales Connected yn chwarae rhan bwysig wrth helpu 4theRegion i gyflawni ei nodau o greu newid cadarnhaol yn y rhanbarth mewn meysydd fel llesiant, cynaliadwyedd, twristiaeth a datblygu economaidd. Mae ein rhwydwaith rheilffyrdd yn adnodd hynod werthfawr sy'n cysylltu ac yn uno'r rhanbarth, ac rydym am helpu pobl i elwa i'r eithaf arno. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda Jennifer a SWW Connected ar y prosiect hwn."
Dywedodd Jools Townsend, Prif Weithredwr Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol:
“Fel y corff ymbarél sy'n cynrychioli partneriaethau rheilffyrdd a grwpiau cymunedol ledled Cymru a thu hwnt, rydym yn falch iawn o groesawu South West Wales Connected atom. Mae rheilffyrdd cymunedol yn chwarae rhan hynod bwysig wrth helpu cymunedau i gael y budd mwyaf o'u rheilffyrdd lleol, gan gynnwys hyrwyddo teithio cynaliadwy a thwristiaeth ar y rheilffyrdd, a datblygu hygyrchedd a chynhwysiant. Maen nhw hefyd yn helpu pobl leol i gael llais yn natblygiad y rheilffyrdd, gan wneud y rheilffordd yn fwy cynhwysol, yn fwy ystyriol o'r gymuned ac yn canolbwyntio ar y dyfodol.
“Mae hyn yn bwysicach nag erioed ar hyn o bryd wrth helpu ein cymunedau a'n rheilffyrdd i adfer ac adeiladu'n ôl yn well ar ôl Covid-19. Rydym yn edrych ymlaen at helpu South West Wales Connected i ymgysylltu a grymuso eu cymunedau lleol, gan eu cysylltu â'u rheilffyrdd.”
Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhan-ariannu South West Wales Connected er mwyn cyflawni ei gweledigaeth ehangach ar gyfer rheilffyrdd cymunedol. Bydd South West Wales Connected yn cydweithio â Trafnidiaeth Cymru a phartneriaid lleol eraill i nodi a datblygu cyfleoedd i helpu unigolion, grwpiau a chymunedau i fanteisio i'r eithaf ar fanteision y rhwydwaith trenau.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda phump o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol eraill ar ei rhwydwaith hefyd. Mae ei Gweledigaeth Rheilffyrdd Cymunedol ehangach yn cynnwys cynllun mabwysiadu gorsafoedd gweithredol a llwyddiannus hefyd. Y nod maes o law yw cael Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol i gwmpasu'r rhwydwaith cyfan o 247 o orsafoedd ar draws bron i 30 o ardaloedd awdurdodau lleol.