Skip to main content

TfW building online community to shape its work

08 Tach 2021

Heddiw mae Trafnidiaeth Cymru (dydd Llun 8 Tachwedd) wedi lansio cymuned ar-lein newydd i roi cyfle i'r cyhoedd helpu i gyfrannu at drawsnewid teithio yng Nghymru.

Bydd 'Sgwrs' (sy'n golygu 'chat' yn Saesneg) yn caniatáu i TrC gasglu barn a syniadau ar gyfer dyfodol teithio ar drenau a bysiau a theithio llesol fel beicio a cherdded.

Bydd aelodau'r gymuned yn cymryd rhan mewn arolygon, trafodaethau ar-lein, a fforymau trafod ar-lein wedi'u cymedroli ar amrywiaeth o bynciau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth i'n helpu i wella ein gwasanaethau.

Dywedodd Geraint Stanley, Rheolwr Prosiect Profiad Cwsmer TrC: “Rydyn ni eisiau trawsnewid trafnidiaeth er budd pobl Cymru, felly mae'n hanfodol ein bod ni'n casglu barn cymaint o bobl â phosib i lunio ein gwaith.

“Ein nod yw gwneud Sgwrs yn rhan o gymuned ar-lein sy'n ymgysylltu'n fawr ac sy'n cynrychioli poblogaeth amrywiol Cymru a'r cwsmeriaid rydyn ni'n eu gwasanaethu.

“Hoffem yn fawr i bobl gymryd rhan ac yn gyfnewid am hyn bydd gan gyfranogwyr fynediad at wobrau, cynnwys unigryw a'r cyfle i ennill cystadlaethau misol neu wobrau am gymryd rhan mewn gweithgareddau."

Mae cofrestru i gymryd rhan yn Sgwrs bellach ar agor ar wefan Trafnidiaeth Cymru a ail-lansiwyd yn ddiweddar yma https://trc.cymru/sgwrs-panel-cwsmeriaid.

Defnyddir Sgwrs at ddibenion ymchwil a chymuned y we yn unig ac ni chysylltir â chyfranogwyr ar unrhyw adeg am unrhyw resymau gwerthu neu hyrwyddo.