Skip to main content

Rail Aid backed by Transport for Wales

18 Tach 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o gefnogi Rail Aid – sef ymgyrch codi arian newydd sy’n gobeithio atal effaith coronafeirws ar fywydau plant.

Cynhelir Rail Aid rhwng dydd Sul 22 a dydd Gwener 27 Tachwedd ac mae’n dwyn ynghyd teulu’r rheilffyrdd o weithredwyr trenau, Network Rail, Heddlu Trafnidiaeth Cymru, cyflenwyr, busnesau o gwmpas y rhwydwaith rheilffyrdd ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y rheilffyrdd.

Mae wedi’i sefydlu i helpu’r elusen Railway Children i roi cymorth newid bywyd i blant y stryd yn y DU, India ac Affrica.

Fel rhan o’u cefnogaeth, bydd staff TrC yn cymryd rhan mewn her 5-5-5, gan symud am 5 cilometr (rhedeg, cerdded, hercian, nofio, beicio, mynd ar sgwter neu unrhyw beth arall a ddaw i’ch meddwl!) gan roi £5 ac enwebu 5 arall i ddal ati gyda’r her. Y gobaith yw cwmpasu pellter rhwydwaith cyfan TrC a chyfrannu at nod ehangach Rail Aid o gwmpasu holl rwydwaith y DU.

Bydd cydweithwyr yn cynnal rafflau lleol yn rhithwir, gyda Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn ymrwymo i roi cyllid cyfatebol am y swm a godir.

Meddai Marie Daly, y Cyfarwyddwr Pobl ac Ymgysylltu: “Er bod y flwyddyn ddiwethaf wedi gweddnewid ein bywydau, rydym yn gwybod fel sefydliad bod yn rhaid i ni gyd-dynnu a chefnogi'r rhai sydd wedi’u heffeithio galetaf yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

“Mae Rail Aid yn ysgogi angerdd a chefnogaeth o bob cwr o’r rhwydwaith ac mae’n cyd-fynd i’r dim â’r gwerthoedd sydd wrth wraidd dyhead Trafnidiaeth Cymru i fod yn deg, cadarnhaol a chysylltiedig.

“Rydym wrth ein bodd i allu cynnig cyllid cyfatebol i ymdrechion rhagorol ein cydweithwyr a da fyddai cael ein cwsmeriaid i’n cefnogi i gyrraedd ein nod yn y pen draw.”

Bob blwyddyn mae miloedd o blant ledled y DU, India a Dwyrain Affrica yn rhedeg i ffwrdd neu’n cael eu gorfodi i adael eu cartrefi sydd wedi troi’n annioddefol oherwydd tlodi, cam-drin, trais ac esgeulustod.

Mae cyrraedd y plant cyn gynted â phosibl yn hollbwysig, gan gyrraedd plant ar y strydoedd cyn y gall camdriniwr eu cyrraedd, a chyn iddyn nhw ddod i arfer â bywyd ar y stryd. Mae Railway Children ar ras yn ceisio cyrraedd y plant cyn i’r strydoedd gael gafael arnyn nhw.

Mae TrC, sydd â’i rhwydwaith yn cwmpasu mwy na 1,700 cilometr, yn cynnal gwasanaethau mewn mwy na 25 ardal awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr. Dewisodd TrC Railway Children fel ei helusen ar gyfer 2019 ac mae’n cymryd ei chyfrifoldeb cymdeithasol a masnachol o ddifrif. Mae nifer o fentrau ar y gweill, gan gynnwys ailddefnyddio gofodau gwag mewn gorsafoedd ar gyfer mentrau cymdeithasol.

Er mwyn ymuno yn yr ymgyrch, lawrlwythwch “My Virtual Mission’ yn eich siop ap, cliciwch “Join A Mission” a chofrestrwch gyda’ch manylion. Yna:

  1. Cliciwch “Join A Mission” a chofrestrwch gyda’ch manylion
  2. Cliciwch “Menu” a “Discover/Search” yna teipiwch “Rail Aid Get On Track” – a dewiswch y tîm “Transport for Wales”
  3. Rydych chi’n barod i ddechrau’r her!

I roi’ch £5, ewch i: https://www.justgiving.com/fundraising/transport-for-walesrailaid

Llwytho i Lawr