Skip to main content

Major Events Success for Transport for Wales

13 Awst 2024

Llwyddodd trenau Trafnidiaeth Cymru i gludo dros 160,000 o gefnogwyr cerddoriaeth i Gaerdydd yr haf hwn ar gyfer cyngherddau sêr enwog yn Stadiwm Principality a 100,000 yn ychwanegol i mewn ac allan o Bontypridd yr wythnos diwethaf ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.   

Bu Bruce Springsteen, Pink, Taylor Swift, Foo Fighters a Billy Joel oll yn perfformio yn Stadiwm Principality gyda degau o filoedd yn teithio i'r ddinas ar drenau TrC.  

Hefyd, yr wythnos diwethaf, Pontypridd oedd y dref a ddewiswyd i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol - trenau TrC oedd yn darparu’r prif fath o gludiant yno gyda digon o wasanaethau i ymwelwyr i'r dref.  

Mae'r buddsoddiad diweddar a pharhaus mewn trenau newydd wedi helpu TrC i ddarparu gwasanaeth rheilffordd effeithiol ac effeithlon i gefnogwyr sy'n teithio i mewn ac allan o'r ddinas.   

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: 

“Mae digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd a threfi lleol yn cael effaith mor gadarnhaol ar yr economi leol ac rydym yn falch ein bod wedi darparu gwasanaethau trên yn llwyddiannus ar gyfer pob un o'r pum cyngerdd mawr yn y brifddinas yr haf hwn. 

“Yn y gorffennol, rydym wedi cael ein beirniadu am y ffordd rydym wedi ymdrin â digwyddiadau mawr.  Roedd gwella ar hyn yn flaenoriaeth i'n busnes a chan ein bod wedi gallu rhoi mwy o'n trenau newydd at waith ar ein rhwydwaith, rydym wedi gallu creu mwy o le a chydnerthedd ar draws ein rhwydwaith.  

“Rydym hefyd wedi datblygu tasglu sydd â'i ffocws ar wella'r ffordd rydym yn cludo pobl i mewn ac allan o'r ddinas dros gyfnod byr o amser a gwella'r profiad a gaiff ein cwsmeriaid.  

“Ar ddechrau'r flwyddyn, fe wnaethon ni gyflwyno pum digwyddiad chwaraeon mawr yn llwyddiannus gan gludo dros 100,000 o gefnogwyr i'r ddinas.  Mae calendr digwyddiadau'r haf hwn wedi ein gweld yn hebrwng 164,000 o gefnogwyr cerddoriaeth ychwanegol i'r ddinas heb unrhyw yn ddidrafferth.

“Yr wythnos diwethaf, ni hefyd oedd y darparwr trafnidiaeth o ddewis ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd.  Fe lwyddon ni i gludo 100,000 o bobl yn ôl ag ymlaen i’r digwyddiad ar ein gwasanaethau trên.  

“Mae ein gwasanaeth trenau yng Nghymru yn gallu ac yn parhau i ddarparu cludiant rheilffyrdd effeithlon ar gyfer digwyddiadau mawr yng Nghymru.  Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad nesaf.”