13 Ebr 2022
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynghori cwsmeriaid yn gryf i wirio cyn teithio dros benwythnos y Pasg gan fod disgwyl y bydd trenau yn brysur iawn ac mae gwaith peirianyddol hanfodol yn cael ei wneud hefyd.
Gyda rhagolygon tywydd cynhesach ar gyfer y dyddiau nesaf, mae disgwyl i wasanaethau fod yn arbennig o brysur i gyrchfannau arfordirol fel cyrchfannau glan môr Gogledd Cymru ac Ynys y Barri. Mae nifer y teithwyr ar benwythnosau wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf ac maent bellach wedi dychwelyd i tua 100% o’r niferoedd cyn-covid, felly bydd cynnydd pellach yn nifer y teithwyr yn golygu bod rhai trenau ar draws y rhwydwaith yn debygol o fod yn llawn a dim ond lle i sefyll.
Yn ogystal â hyn, gellir gwneud newidiadau i wasanaethau ar fyr rybudd wrth i’r diwydiant rheilffyrdd barhau i gael ei effeithio gan ragor o staff yn absennol oherwydd Covid-19.
Yn Ne Cymru, bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Pontypridd a Radur drwy gydol y penwythnos wrth i waith barhau ar drawsnewid y rheilffordd ar gyfer Metro De Cymru, a fydd yn darparu gwasanaethau cyflymach, amlach rhwng Caerdydd a’r cymoedd. Mae'r gwaith yn cynnwys gwaith gosod seilbyst a sylfaenu yn barod ar gyfer gosod offer llinellau uwchben.
Bydd y rheilffordd rhwng Aberdâr ac Abercynon hefyd ar gau o ddydd Sul 17 Ebrill tan ddydd Gwener 13 Mai, gyda bysiau yn rhedeg yn lle trenau rhwng Aberdâr a Phontypridd. Bydd y cau hwn am 26 diwrnod yn galluogi peirianwyr i wneud gwaith cymhleth gan gynnwys gosod sylfeini ar gyfer offer llinellau uwchben, dymchwel ac ailadeiladu’r bont droed, gwneud gwaith platfform, cynnal a chadw a phrofi signalau.
Mae bysiau hefyd yn rhedeg yn lle trenau rhwng Caerdydd Canolog a Thref Glynebwy drwy gydol y penwythnos wrth i Network Rail, partneriaid diwydiant Trafnidiaeth Cymru, barhau â’u gwaith i uwchraddio’r rheilffordd fel y gellir cyflwyno mwy o wasanaethau.
Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd TrC:
“Bydd y gwaith hanfodol hwn yn golygu ein bod ni gam arall ymlaen o ran adeiladu Metro De Cymru ar gyfer pobl Cymru.
“Bydd y gwaith seilwaith allweddol yn caniatáu inni ei baratoi ar gyfer cyflwyno trenau newydd sbon yn y blynyddoedd i ddod, a fydd yn caniatáu inni redeg gwasanaethau cyflymach, amlach.
“Hoffwn ddiolch i’n cymdogion a’n teithwyr ar ochr y llinell ymlaen llaw am eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth barhaus wrth i ni wneud y gwaith hwn.”
Dywedodd Rachel Heath, Pennaeth Cyflawni Gweithrediadau Network Rail Cymru a’r Gororau:
“Rydym wedi cynllunio ein gwaith uwchraddio mawr ar Reilffordd Glyn Ebwy yn ofalus dros benwythnos gŵyl y banc. Mae hyn er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar ein teithwyr, gan ein bod yn gwybod bod llai o bobl yn teithio ar y trên ar hyn o bryd. Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau ond rydym yn dal yn annog pawb i wirio eu taith cyn teithio.
“Er ein bod, fel llawer o ddiwydiannau eraill, yn parhau i wynebu heriau staffio oherwydd Covid-19, hoffwn sicrhau ein teithwyr ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w cadw i symud. Hoffwch ddiolch i bawb am eu hamynedd wrth i ni oresgyn yr her hon.”
Mae disgwyl y bydd trenau yn brysur iawn dros benwythnos y Pasg, ac efallai y bydd newidiadau i wasanaethau yn cael eu gwneud ar fyr rybudd. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gofyn i gwsmeriaid rheilffyrdd ddefnyddio’r Gwiriwr Capasiti - porth ar-lein sy’n galluogi cwsmeriaid i wirio cyn teithio i weld pa drenau sydd â lle.