Skip to main content

12 Chw 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru yn apelio ar ddeiliaid cardiau sydd heb wneud cais am eu cerdyn teithio newydd eto, ac yn pwysleisio pwysigrwydd gwneud cais am gerdyn newydd cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn mwynhau manteision teithio rhatach.

GWYLIWCH glip o deithwyr bws yn trafod sut oedd y broses o gyflwyno cais iddyn nhw: 

Dyw sganwyr electronig ar fysiau ddim yn adnabod yr hen gardiau teithio gwyrdd ers 31 Rhagfyr 2019. Cytunwyd ar gyfnod gras gyda’r gweithredwyr bysiau i ganiatáu i ddeiliaid cardiau allu defnyddio eu hen gardiau. Mae’r cyfnod gras yn dod i ben ar 29 Chwefror 2020, sy’n golygu mai’r cardiau newydd yn unig fydd yn cael eu cydnabod ar gyfer teithio o 1 Mawrth 2020 ymlaen.

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Rydyn ni wedi derbyn bron i 600,000 o geisiadau am gardiau teithio yn ystod y chwe mis diwethaf, ac mae’r gwaith caled yn parhau wrth i ni brosesu ceisiadau bob dydd er mwyn anfon y cardiau newydd allan i ddeiliaid cyn gynted ag sy’n bosibl.

“Er ei fod yn gadarnhaol iawn i nodi fod y rhan fwyaf o deithwyr bws rheolaidd wedi derbyn eu cardiau newydd, mae’n hanfodol i ni atgoffa pawb sydd heb wneud cais eto y dylen nhw wneud hynny cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn sicrhau eu bod yn gallu parhau i elwa ar fanteision eu cardiau teithio ar ôl 29 Chwefror.

“Os oes rhywun yn gwybod am gymydog, perthynas neu ffrind oedrannus sy’n meddu ar gerdyn teithio, rydyn ni’n gofyn iddyn nhw helpu i sicrhau eu bod yn gwneud cais am gerdyn teithio newydd cyn gynted ag sy’n bosibl.

“Rydyn ni’n parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau i sicrhau bod y trosglwyddiad i’r drefn newydd yn digwydd mor ddidrafferth ag sy’n bosibl wedi i’r cyfnod gras ddod i ben. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod ni’n cefnogi profiadau teithio’r defnyddwyr mwyaf bregus.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: “Hoffwn ddiolch i'r mwy na hanner miliwn o bobl ledled Cymru, gan gynnwys ffrindiau, teulu a gofalwyr, sydd wedi gweithredu'n brydlon ac wedi gwneud cais am gardiau newydd.

“Mae gweithredwyr bysiau wedi cytuno’n hael ar gyfnod gras o ddau fis sydd wedi caniatáu mwy i amser i filoedd o ddeiliaid cardiau wneud cais am eu cardiau newydd a’u derbyn. Daw'r cyfnod gras hwn i ben ar 29 Chwefror felly mae'n bwysig iawn bod pobl yn gwneud cais am eu cerdyn arddull newydd cyn gynted â phosibl.

“Mae Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill wedi gweithio’n ddiflino dros y misoedd diwethaf i brosesu’r nifer enfawr o gardiau newydd, ac maent yn parhau i fod ar gael i ddarparu cefnogaeth os oes angen.”

Mae cyflwyno’r cardiau newydd yn garreg filltir arwyddocaol i Trafnidiaeth Cymru, wrth iddo weithio tuag at gyflawni ei weledigaeth i greu rhwydwaith drafnidiaeth integredig gyffrous ac o safon fyd-eang ledled Cymru. Cynlluniwyd y cardiau newydd fel y bydd modd eu defnyddio ar sawl dull o deithio yn y dyfodol.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog deiliaid cardiau i wneud cais ar-lein, os yn bosibl, ar y wefan yn www.trc.cymru/cy/cerdynteithio. Gwneud cais ar-lein yw’r ffordd gyflymaf, oherwydd mae’n bosibl na fydd angen i ddeiliaid cardiau gyfleu llun neu ddogfennaeth newydd, gan fod manylion yn cael eu gwirio drwy gronfeydd data’r llywodraeth. Mae cymorth i wneud cais ar-lein ar gael gan gynghorau lleol, neu gall deiliaid cardiau holi rhywun maen nhw’n ymddiried ynddynt i wneud cais ar eu rhan. Mae modd gwneud cais ar bapur hefyd, ond mae Trafnidiaeth Cymru yn pwysleisio bod hynny’n cymryd mwy o amser i’w brosesu.

Os oes pryderon gan unrhyw un, mae Trafnidiaeth Cymru yn annog pobl i gysylltu ar fyrder drwy alw’r llinell gymorth ar 0300 303 4240 neu drwy e-bostio’r tîm yn cardiauteithio@trc.cymru.

Llwytho i Lawr