Skip to main content

Transport for Wales to open North Wales Business Unit

19 Gor 2018

Bydd yr uned newydd yn Wrecsam yn cyflogi 30 o staff i gyd erbyn 2019, a disgwylir y bydd 10 yn cael eu penodi yn 2018.

Mae’r gwaith o recriwtio’r tîm newydd wedi dechrau, gyda swyddi gweinyddol a rhai ym maes ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid, gwasanaethau trên, rheoli prosiectau a thechnegol, a rheoli cyfleusterau ar gael.

Gall ymgeiswyr gallant ddysgu mwy mewn digwyddiadau recriwtio a fydd yn cael eu cynnal yng Ngogledd Cymru dros yr haf. Sesiwn galw heibio anffurfiol fydd y digwyddiad cyntaf, a bydd yn cael ei gynnal ar 26 Gorffennaf rhwng 4pm a 7pm yng Nghanolfan Catrin Finch, Prifysgol Glyndŵr.

Digwyddiad Recriwtio Trafnidiaeth Cymru, 26 Gorffennaf 2018

Mae TrC yn mynd ati i gyflawni’r weledigaeth o gael rhwydwaith trafnidiaeth o ansawdd uchel yng Nghymru sy’n hwylus, yn fforddiadwy, yn integredig ac yn ddiogel. Diben y cwmni yw Cadw Cymru i Symud drwy ddarparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith. Y tîm yng Ngogledd Cymru fydd yn arwain gwaith Trafnidiaeth Cymru yn y rhanbarth, a bydd yn defnyddio gwybodaeth leol i lunio strategaeth drafnidiaeth gydgysylltiedig ar gyfer Cymru.

Mae presenoldeb Trafnidiaeth Cymru yn y Gogledd wedi cynyddu wrth iddo gyflwyno prosiectau pwysig fel Parc Glannau Dyfrdwy, sy’n rhan allweddol o’r weledigaeth ar gyfer metro Gogledd-ddwyrain Cymru.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Mae Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar yr Economi yn cydnabod bod gan bob rhanbarth yng Nghymru ei gyfleoedd a’i heriau ei hun. Bydd yr Uned Busnes yn y Gogledd yn rhan bwysig o’r broses o greu system drafnidiaeth fodern ar gyfer Cymru gyfan, sydd wedi’i theilwra i fodloni anghenion lleol.

“Mae Trafnidiaeth Cymru yn sefydliad ifanc sy’n wynebu cyfnod allweddol yn ei ddatblygiad, ac mae gennym bob math o gyfleoedd gwaith ar hyn o bryd. Rydym yn croesawu CVs gan amrywiaeth eang o ymgeiswyr sy’n awyddus i’n helpu i siapio dyfodol trafnidiaeth ym mhob cwr o Gymru.”